Taf-Od

Pa effaith fydd COP26 yn ei chael ar newid yn yr hinsawdd?

Nawr mae'r cyfarfod COP26 wedi dod i ben, mae Gair rhydd yn gofyn beth ddigwyddodd yn COP26 ac oedd hi'n gyfarfod llwyddianus?

Gan Gracie Richards | Golygydd Taf-od

Beth digwyddod yn COP26?

Yn nhrafodaethau COP26 yr oedd yna dau brif linyn o sgyrsiau sef:

  1. Trafodaethau ffurfiol y Cenhedloedd Unedig sy’n cynhyrchu testun penderfyniad terfynol mae pob gwlad yn llofnodi.
  2. ‘Sioe fasnach anferthol,’ yn ├┤l ‘Greenpeace’ lle mae ÔÇ£pawb syÔÇÖn gweithio ar newid hinsawdd yn dod i ymffrostio am yr hyn maen nhw’n ei wneud.”ÔÇ£Mae’r terfyn 1.5C yn byw,” “Fe ddaethon ni ag ef yn ├┤l o’r dibyn. Ond mae ei guriad yn parhau i fod yn wan. Rhaid i ni ei lywio i ddiogelwch trwy sicrhau bod gwledydd yn cyflawni’r addewidion maen nhw wedi’u gwneud.”

– Alok Sharma, Llywydd COP26.

Tannwydd Ffosil

Ar ├┤l 26 blynedd mae llywodraethau wedi cydnabod er mwyn dod i’r afael a newid hinsawdd mae rhaid iddynt stopio’r defnydd o danwydd ffosil. Mae cytundeb terfynol COP26 yn s├┤n am gael gwared ├ó llosgi glo yn raddol.

Hon yw’r tro gyntaf mae wedi bod galwad i leihau defnydd o glo arddangos yn nhestun terfynol COP26.

Ar y foment olaf yr oedd India a Tsiena wedi gwrthwynebu cyfeiriad yn y cytundeb terfynol at ddileu p┼Áer glo yn raddol. Daethwyd i gyfaddawd, gyda Sharma yn ymddiheuro i wledydd datblygedig am y canlyniad hwn.

Yn ├┤l yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol,┬á os na chaiff ein defnydd o glo ei ddileu’n gyflym, nid oes obaith i’r tymheredd byd-eang aros o dan 1.5C.

Meddai Greenpeace bod y penderfyniad yma wedi methu’r neges bod ‘Amser i fyny’ sydd angen arnom ni.

“Roedd COP26 yn ddrwg i danwydd ffosil, ond ddim yn ddigon drwg.”

– Jennifer Morgan, Cyfarwyddwr gweithredol Greenpeace.

Targedau

Y flwyddyn yma yr oedd y genhedloedd wedi penderfynu i ddychwelid blwyddyn nesaf gyda thargedau cryfach yn lle aros 5 blynedd rhwng ymrwymiadau newydd.

Y rheswm dros hyn yw oherwydd nad yw’r targedau i dorri nwyon t┼À gwydr yn ddigonol i atal lefelau trychinebus o wres byd-eang.

Mi fydd y dyddiad cau anoddach hwn yn rhoi pwysau ar wledydd i sicrhau bod eu targedau yn gweithio ynghyd ├ó‘r nod 1.5C.

Gwrthbwyso Carbon

Fe wnaeth y cytundeb swyddogol newydd baratoiÔÇÖr ffordd i wledydd fasnachu toriadau allyriadau, gan dalu i eraill – yn aml yn y De – i ÔÇÿwrthbwysoÔÇÖ y llygredd hinsawdd y maent yn ei gynhyrchu yn hytrach naÔÇÖi leihauÔÇÖn uniongyrchol.

Mae arweinydd o fudiad gynhenid ‘Grassroots,’ Tom Goldooth a dderbynir gwobr Gandhi yn 2015 wedi gwadu gwrthwbyso carbon yn nodi:

ÔÇ£MaeÔÇÖn caniat├íu i lygryddion brynu a gwerthu trwyddedau i lygru yn lle torri allyriadau wrth ei wraidd.”

Mae erthygl gan ‘Carbon Market Watch’ yn nodi bydd y fargen hon yn gadael i lywodraethau tanseilio’r toriadau allyriadau brys sydd angen yn dymor byr trwy rhoi dihangfa iddynt rhag ei gyfrifoldebau hinsawdd.

ÔÇ£Dim ond os ydyn nhw’n cefnogi datrysiadau hinsawdd y dyfodol y mae marchnadoedd carbon rhyngwladol yn gwneud synnwyr, yn hytrach na rhoi ffordd hawdd allan i lygryddion y presennol a’r gorffennol.ÔÇØ
– Cyfarwyddwr polisi CMW, Sam Van den Plas

Addasu a Chyllid Hinsawdd

Yn 2009 cytunodd gwledydd cyfoethog y byddai gwledydd tlawd yn derbyn o leiaf £75bn y flwyddyn gan fuddsoddwyr cyhoeddus a phreifat.

Erbyn 2019 (Y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael gyda data) dim ond £ 80bn a roddwyd.

Mae gwledydd datblygedig wedi addo y bydd codiadau yn dilyn yn y pum mlynedd nesaf a fydd yn dod ├ó’r cyllid am y pum mlynedd nesaf i $500bn.

Maent yn hanfodol hefyd i fwy o’r arian gael ei wario ar addasu, yn hytrach na thoriadau allyriadau.