Taf-Od

Cymru yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn

Ar y 25ain o Dachwedd nodwyd Dydd y Rhuban Gwyn sef Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Caiff y diwrnod hwn ei gynnal yn flynyddol gan y Cenhedloedd Unedig a maeÔÇÖn dechrau cyfnod 16 diwrnod o hyd o weithredu i ddiddymu trais yn erbyn menywod.

Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od

Yn ├┤l y Cenhedloedd Unedig mae 1 o bob 3 merch yn profi trais a cham-drin gan gynnwys cam-drin domestig, treisio a thrais rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, cam-fanteisio rhywiol, aflonyddu, stelcio, a thrais yn seiliedig ar ÔÇÿanrhydedd.ÔÇÖ

Mae elusen Rhuban Gwyn y DU yn annog dynion i wneud ÔÇ£addewid y Rhuban GwynÔÇØ sef i beidio ├ó chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. Cynhaliwyd gwylnos ÔÇÿNid yn fy enw iÔÇØ ar risiauÔÇÖr Senedd ar nos Lun yr 22ain o Dachwedd gan Senedd Cymru er mwyn nodi pwysigrwydd y diwrnod. MaeÔÇÖn gyfnod i ni allu addysgu ein gilydd a chodi ymwybyddiaeth ar y materion syÔÇÖn effeithio ar nifer fawr o fenywod ledled y wlad yn ddyddiol; yn ogystal ├ó chynnig cymorth a chefnogaeth i oroeswyr camdriniaeth a thrais.

Y Llywodraeth yn gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n gwerthuso’i gwaith wrth geisio atal trais yn erbyn menywod, gan gynnwys trais domestig a thrais rhywiol. Er mwyn cynyddu ar a gwellaÔÇÖr gwaith hanfodol yma, fe fydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus oÔÇÖr 7fed o Ragfyr. CanolbwyntiaÔÇÖr ymgynghoriad ar y modd y gall Cymru gryfhau ei gweithredoedd i derfynu trais yn erbyn menywod, Cam-drin a Thrais Domestig yn enwedig dros y pum mlynedd nesaf. Fe fydd ffocws y strategaeth ar drais yn erbyn menywod a merched ar strydoedd Cymru, mewn gweithleoedd ac yn y cartref.┬á

Mewn datganiad fideo ar Twitter, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mai ÔÇ£problem gymdeithasol syÔÇÖn gofyn am ateb cymdeithasolÔÇØ yw trais yn erbyn menywod a merched y wlad.┬á┬á

ÔÇ£Rydyn niÔÇÖn cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol er mwyn gwneud mwy i fynd iÔÇÖr afael ├ó thrais gan ddynion aÔÇÖr cynnydd parhaus mewn aflonyddu ar fenywod a merched yn eu cartrefi ac ein strydoeddÔÇØ meddai Drakeford.┬á

ÔÇ£Rwyf yn annog pob dyn i wrando ar fenywod a dysgu eu cefnogi, fel y gallwn roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, byth ei esgusodi, nac aros yn dawel amdano.ÔÇØ

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymru, Jane Hutt wrth y BBC bod ÔÇ£trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.”

“Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i’r afael ├ó thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad” ategodd y Gweinidog.┬á

[mks_button size=”small” title=”Nansi Eccott” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/nansi-eccott/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á[mks_button size=”small” title=”Taf-od” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/taf-od/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á