Gan Gracie Richards | Golygydd Taf-od
Lle bydd gemau rhyngwladol Cymru yn cael eu darlledu?
Mi fydd darllediadau byw ar gyfer gemau rhyngwladol Cymru yn yr Hydref ond yn cael eu darlledu trwy Amazon Prime video. Ni fydd y gemau ar gael i’w wylio ar deledu daearol trwy sianel S4C fel blynyddoedd cynt.
Yn lle, mi fydd S4C yn darlledu Uchafbwyntiau o’r gemau awr ar ├┤l y chwiban olaf. Mi fydd yr uchafbwyntiau hefyd ar gael trwy wefan S4C ar clic.
Mae Amazon eisioes yn cael yr hawliau i ddarlledu 17 0’r 20 g├¬m ryngwladol yn yr Hydref yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys pob g├¬m Cymraeg. Dyma’r tro gyntaf i ddarlledwr masnachol fuddsoddi yn opsiwn Cymraeg yng nghyd-destun rygbi.
Dwedir Alex Green, Rheolwr Gyfarwyddwr i Prime Video Sport Europe:
“We are always looking to offer more choice to Prime members in how they are able to watch live sport on Prime Video and it was important for us to deliver a Welsh-language feed for the Autumn Nations Series.”
Yn ogystal ├ó hyn yr oedd Ben Morel, Prif Swyddog Gwethredol Rygbi’r Chwe Gwlad:
“We are delighted that Amazon have developed a Welsh language programme to enable viewers in Wales to watch the Autumn Nation Series in the language of their choice.
Tîmoedd Darlledu:
Bydd y darllediadau o’r gemau yn cynnwys t├«m darlledu llawn gyda Owain Gwynedd yn cyflwyno a sylwebaeth gan Gareth Charles. Ymhlith gwesteion a chyd- sylwebyddion bydd: Shane Williams, Nigel Owens, Nicky Robinson, Gwyn Jones a Sioned Harris.
Bydd tîm cyflwyno S4C yn cael ei arwain gan Sarra Elgan, gyda Gareth Charles yn y blwch sylwebu a Rhodri Gomer yn ohebydd ochr y cae. Gwneir dadansoddiad gan Shane Williams, Gwyn Jones a Nigel Owens.
S4C
Nid yw prif weithredwr S4C, Owen Evans, wedi cuddio ei bryderon ynghylch y newid mewn darlledwyr gemau byw ar gyfer gemau CymruÔÇÖr chwe gwlad. Dywedodd wrth bwyllgor diwylliant y Senedd nad yw S4C yn croesawu hyn o gwbl.
Dwedir:
“Mae chwaraeon yn bwysig i S4C oherwydd mae chwaraeon yn dod ├ó llawer iawn o wylwyr i’r sianel. Mae’n gyfle i ni groes-hysbysebu cynnwys S4C ar gyfer cynulleidfa nad yw’n aml yn dod i gysylltiad ├ó’r cynnwys hwnnw.
“Yr hyn mae Amazon wedi’i wneud yw eu bod nhw wedi dod i mewn – a phwy sy’n eu beio, maen nhw’n gwmni preifat – maen nhw wedi penderfynu eu bod nhw’n mynd i ymgymryd ├ó hyn. Rwy’n credu ei fod yn gam yn ├┤l i ni yng Nghymru.”
Mae Evans wedi nodi y gallai S4C fod mewn perygl o gael ei “rewi allan” o’r system draddodiadol sydd gennym pe bai Amazon yn penderfynu yn y dyfodol i ymbellhau i ddatblygu rhaglenni iaith Gymraeg. Mae’n nodi, er bod S4C wedi croesawu gallu darlledu uchafbwyntiau’r gemau, byddai’n llawer gwell ganddo gael yr hawliau i’r darllediad byw.