Clebar

Cyfryngau am Pobl Ifanc Cymru: Beth sydd ar gael?

Erbyn heddiw, maeÔÇÖr cyfyngau yn rhan anferthol oÔÇÖn bywydau. Yn enwedig ar ├┤l yr ymddangosiad o ffonau symudol. Nawr, dan niÔÇÖn gallu cysylltu efo unrhywun, am unrhyw amser, unrhywle. Y cyfryngau ywÔÇÖr ffordd fwyaf effeithiol yn bendant, i ddod o hyd iÔÇÖr bobl efoÔÇÖr un diddordebau a diwylliant a chi. I fod yn hollol onest, hyd yn oed fel person ifanc Cymraeg, maeÔÇÖr rhan fwyaf o gyfryngau yr wyf yn arsylwi yn Saesneg. Mae un rheswm syml iawn am hyn, maeÔÇÖn mor hawdd i ddarganfod cyfryngau Saesneg, I ddweud y gwir maeÔÇÖn bobman. Ers i fi dechrau defnyddioÔÇÖr cyfryngau yn fy arddegau mae di fod yn ddigon hawdd darganfod pobl eraill Cymraeg a siaradwyr Cymraeg, aÔÇÖr diwedd y dydd wnes i ddod o ysgol Gymraeg. Y broblem ges i oedd dod o hyd i gyfryngau a chrewyr Cymraeg, ond, yn ffodus, maen nhw mas yna! Felly, maeÔÇÖr erthygl yma am drafod rhai oÔÇÖr cyfryngau a chrewyr Cymraeg sydd ar gael i ddarganfod yn hawdd ar y we.

Yn bendant mae Tiktok yn boblogaidd iawn efo pobl ifanc. Ers iddo gael ei greu yn fis Medi 2016 mae wedi tyfuÔÇÖn anferthol, nawr ar ddiwedd 2021 mae gan Tiktok dros 1 biliwn o ddefnyddwyr. Efo cymaint ├ó phobl yn tyfu platfformau yn gyflym maeÔÇÖn bleser i glywed mae crewyr Cymraeg yn derbyn canmoliaeth. Os ydych chiÔÇÖn edrych am gomedi a trosglwyddadwyedd mae Ellis Lloyd Jones (@ellislloydjones ar Tiktok) yn berffaith. Efo dros 190 mil o ddilynwyr ar Tiktok mae wedi llwyddo i greu lle ar y we am unigolion Cymraeg a LGBTQ+. Mae fideos Ellis yn warantedig i wneud eich diwrnod, ac mae ei gymeriadau yn bendant am wneud i chi chwerthin.

MaeÔÇÖr rhaglen Hansh ar S4C yn ffordd arall i gael mynediad hawdd i gyfryngau Cymraeg. Mae fideos ar Youtube a Facebook a’i defnydd effeithiol o gyfyngau arall fel Instagram yn dangos mae platfform yma yn mynd yn gryf. Dyma ddarn o ddefnydd anghredadwy am bobl ifanc Cymraeg i fwynhau. MaeÔÇÖr trafodaethau am ddiwylliant pop perthnasol, diwylliant a hyd yn oed topigau difrifol hefyd pwysleisioÔÇÖr ymarferoldeb deuol mae Hansh yn cael. Yn bendant, dyma blatfform perffaith am bobl ifanc Cymraeg, maeÔÇÖn hygyrch a hyblyg.

Dyma ddim ond dwy esiampl oÔÇÖr cyfryngau Cymraeg sydd ar gael heddiw. MaeÔÇÖn gwneud fiÔÇÖn hapus i ddweud mai yna digon mwy ar gael. Os ydych yn berson ifanc Cymraeg, dechreuwch ddarganfod cyfryngau Cymraeg a byddwch yn dod o hyd i fwy, rhannwch nhw efo ffrindiau a helpu agor mwy o ddrysau i blatfformau Cymraeg.