News

Daeargryn Gwleidyddol i Gymru?

Polau piniwn yn awgrymu gostyngiad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur yng Nghymru a chynnydd ym mhoblogrwydd Plaid Cymru.

gan Gruff McVeigh

Byth ers sefydiald Cynulliad Cymru, y blaid Lafur sydd wedi enill grym a chefnogaeth mwyafrif y bobl, dim ots beth yw lliw y llywodraeth yn San Steffan. Awgryma arolwg barn diweddar y gall fod newid ar y gorwel, gyda chanran cefnogaeth Llafur yn disgyn i 32%, cwymp fyddai’n costio 9 sedd yn y cynulliad a’u gadael gyda 23.

Dangosodd yr arolwg gynnydd mewn cefnogaeth i Blaid Cymru ac fe adlewyrchwyd hyn wrth i’r pôl piniwn awgrymu iddynt ddwyn tair sedd o’r blaid Lafur. Er bod cefnogaeth i’r Ceidwadwyr wedi aros yn gyson, mae’r canlyniadau’n darogan y bydden nhw hefyd yn cipio pedair sedd oddi wrth Llafur. Byddai’r fath newid yn medru bod yn dyngedfennol yn y cynulliad, gan adael ychydig dros draean yn unig o seddi’r cynulliad i Lafur, sydd ar hyn o bryd â bron hanner ohonynt.

Dyma berfformiad gwaethaf Llafur mewn arolwg barn ers Erbrill 2017, adeg cyhoeddiad yr etholiad cyffredinol diwethaf. Er hyn, yma yng Nghymru, nid noes un plaid yn fygythiad i ddominyddiaeth Llafur, eto. Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn lleihau’r bwlch rhyngddynt hwy a Llafur, ond mae’r rhagolygon yn dangos fyddai bwlch o 6 a 7 o seddi yn dal i fod, yn dilyn etholiad cynulliad.

Yr un fyddai’r stori mewn etholiad cyffredinol, gydag arolwg pleidleisio’r Cymry yn San Steffan yn dangos Llafur yn colli wyth pwynt a disgyn i 35%. Dangoswyd golled o ddau o bwyntiau i’r Ceidwadwyr hefyd; pleidiau llai sydd wedi gweld budd, ar draul Llafur yn bennaf, wrth i gyn-gefnogwyr Llafur symud i gefnogi pleidiau llai ar yr asgell chwith megis Plaid Cymru neu’r Blaid Werdd. Er hyn, mae’r pleidiau llai yn methu cystadlu â’r Ceidwadwyr mewn rhai etholaethau ac mae’n debygol fyddai’r Ceidwadwyr yn llwyddo i ddwyn pedair sedd oddi wrth Llafur er gwaetha’r cwymp yn eu cefnogaeth nhw i 29%. Fe gynyddodd cefnogaeth Plaid Cymru gan un pwynt, eu canlyniad gorau ers Gorffennaf 2016 sy’n trosglwyddo i gynnydd o un sedd yn San Steffan, gan ddod a’u cyfanswm i bum sedd – mwy nag erioed. Bu’r democratiaid Rhydfrydol a UKIP yn llwyddiannus mewn ennill dau a thri o bwyntiau, hefyd.

Er nad oes unrhyw un o’r pleidiau yn dangos cynydd mawr mewn cefnogaeth, un peth sy’n glir yw’r gostyngiad mewn cefnogaeth i’r blaid Lafur. Dyma deimlad sy’n ymddangos yn gyson ar draws y blaid yng ngolau’r sgandal o wrth-Semitiaeth, gyda saith o Aelodau Seneddol yn ymadael Llafur i ffurfio’r “Grŵp Annibynnol”. Mae tri o aeloadu’r blaid Geidwadol bellach wedi ymuno â nhw, gweithred sy’n uwcholeuo’r rhaniadau dwfn sydd bellach yn rhedeg nid yn unig drwy’r blaid Lafur ond trwy San Steffan, ynghylch anghytuno dros gytundeb Brexit. Yng Nghymru, mae sialens gan Mark Drakeford y Prif Weinidog newydd, i drawsffurfio adain Gymreig y blaid, a sicrhau fod yr arolygon barn yn adrodd stori wahanol dros y misoedd nesaf ac erbyn yr etholiad nesaf.

css.php