Taf-Od

Dyfodol ein llyfrgelloedd

Er bod cymaint ag erioed o lyfrauÔÇÖn cael eu cyhoeddi, yn enwedig yn Gymraeg, yn ├┤l arts.gov lleihau maeÔÇÖr darllenwyr yn ein llyfrgelloedd.

Gan Nel Richards | Pennaeth Taf-od

Does dim byd gwell na llyfr da! Oes ÔÇÿna? Neu beth am y ddihareb ÔÇ£Lleufer dyn yw llyfr daÔÇØ. Pryd ddarllenoch lyfr (ar wah├ón i lyfr cwrs) ddiwethaf? Ac er bod cymaint ag erioed o lyfrauÔÇÖn cael eu cyhoeddi, yn enwedig yn Gymraeg, yn ├┤l arts.gov lleihau maeÔÇÖr darllenwyr yn ein llyfrgelloedd.

MaeÔÇÖr Kindle aÔÇÖr iPad mor boblogaidd erbyn hyn a chymaint o wybodaeth ar gael wrth wasgu ÔÇÿÔÇÖGoogle searchÔÇÖÔÇÖ neu alw ar Alexa wrth orwedd yn y gwely neuÔÇÖr soffa. Does dim eisiau trafferthu cerdded y filltir yna i ymchwilio ryw lyfr yn y gwynt aÔÇÖr glaw. Y paradocs yw bod darparu mwy a mwy o ddeunyddiau ar-lein yn galluogi pobl ymhob man i ddefnyddioÔÇÖr gwasanaethau yn rhwydd, heb orfod croesi trothwyÔÇÖr llyfrgell ei hun.

Oherwydd pwysau ariannol, mae Cynghorau yn chwilio am ffyrdd i dorri ar gostau ac mae darogan bydd parciau chwarae a llyfrgelloedd ar frig y rhestr. ÔÇ£Diogelu gwasanaethau hanfodolÔÇÖÔÇÖ yw cri’r awdurdodau ac nid yw llyfrgell, erbyn hyn, yn ÔÇÿÔÇÖwasanaeth hanfodolÔÇÖÔÇÖ.

Mae gan gynghorau ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell gynhwysfawr ac effeithiol ac er eu bod dan straen ariannol, yn dilyn yr argyfwng presennol, mae llawer, yn enwedig pobl ddifreintiedig, heb adnoddau ariannol yn dibynnu ar lyfrgelloedd syÔÇÖn agos iÔÇÖw cartrefi.

Yn ol y Senedd, Mae degau ar ddegau o lyfrgelloedd dros Gymru wedi cau a nifer mewn perygl. Trosglwyddir rhai i ofal gwirfoddolwyr lleol, er hyn mae angen cefnogaeth ariannol arnynt.

Dros y blynyddoedd mae llyfrgelloedd wedi newid gydaÔÇÖr oes ac yn darparu mynediad rhyngrwyd, cyfleusterau wi-fi, cyfle i ddarllen papurau newydd a chylchgronau (yn rhad ac am ddim), ystafelloedd cyfarfod a lluniaeth ysgafn. Mae ÔÇÿÔÇÖLlyfrau LlafarÔÇÖÔÇÖ ar gael hefyd, yn ogystal ├ó recordiau sain. Serch hynny maeÔÇÖr pwysau arnynt o hyd.

Mae Sali Wheway, sydd yn treulio llawer oÔÇÖi hamser brifysgol yn y llyfrgell yn dweud;

ÔÇ£Un o nodweddion unrhyw gymdeithas iach yw ei gallu i sicrhau bod ei thrigolion, o bob oed a chefndir, yn medru darllen ac ehangu eu gwybodaeth. Nid yw anwybodaeth o werth i neb.ÔÇØ

Sut mae denu pobl drwy ddrysau llyfrgelloedd bach? Mae gan bobl Caerdydd, yn enwedig myfyrwyr, hoffter arbennig o gaffis, felly beth am ddilyn arweiniad llyfrgelloedd eraill a rhoi lle i ddarllenwyr sipian eu coffi wrth bori drwy dudalennau llyfr da?

Ym mis Chwefror eleni derbyniodd Llyfrgell Rhiwbeina fuddsoddiad gan Gyngor Caerdydd fel rhan oÔÇÖi ymrwymiad i ganolfannauÔÇÖr pwysig y ddinas. Golygodd hyn adnoddau gwell iÔÇÖr brif fynedfa, delwedd addas i rai syÔÇÖn dioddef o ddementia, silffoedd newydd, cadeiriau addas ac esmwyth, ystafelloedd cyfarfod ychwanegol, toiledau newydd, cyfleusterau technoleg gwybodaeth well a gardd newydd. Bydd yn ddiddorol wybod os cafwyd mwy o aelodau a rhaiÔÇÖn mynychuÔÇÖr Llyfrgell?

Beth am gefnogi un oÔÇÖn sefydliadau pwysicaf aÔÇÖu diogelu : ymaelodwch ├ó llyfrgell?