Taf-Od

Dyfodol Ysgol y Gymraeg yn y fantol

Fel rhan o gynlluniau 'Trawsffurfio Caerdydd' byddai Adran y Gymraeg yn cael ei chreu o fewn yr Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd.

gan Tomos Evans

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau a fyddai’n gweld Ysgol y Gymraeg yn uno gyda’r ysgolion Ieithoedd Modern a Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Mae cynlluniau’r brifysgol, sydd wedi’u cymeradwyo gan gyngor Prifysgol Caerdydd, yn cynnig creu Adran y Gymraeg o fewn yr ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn rhan o gynllun ‘Trawsffurfio Caerdydd’ y brifysgol, gyda’r bwriad o wella sefyllfa ariannol y sefydliad addysgol wedi iddi ddod i’r amlwg fod ganddi ddiffyg ariannol o £22.8 miliwn.

“Nifer o syniadau ar gyfer newid”

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: “Mae rhaglen Prifysgol Caerdydd, Trawsffurfio Caerdydd, yn cynnwys nifer o syniadau ar gyfer newid. Un o’r rhain yw ystyried a ddylid cyfuno’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg i greu Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd.”

Ychwanega’r llefarydd: “Ein bwriad, os bydd y syniad hwn yn cael ei fabwysiadu, yw gwarchod hunaniaeth benodol Ysgol y Gymraeg a’i galluogi i elwa ar fod yn rhan o grŵp ehangach o ddisgyblaethau sy’n rhannu nifer sylweddol o fuddiannau. Gobeithiwn wella ymchwil ac addysgu drwy gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol. At hynny, os bydd y syniad hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach, byddwn yn cadw hunaniaeth Adran y Gymraeg yn yr Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol. Bydd hyn yn gwarchod ei harwahanrwydd ac yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy amlwg fel rhan o arbenigedd Caerdydd ym meysydd ieithoedd Ewropeaidd a byd-eang a diwylliannau llenyddol.”

Cymraeg i Oedolion

Fel rhan o’r cynlluniau, mae Prifysgol Caerdydd wedi dweud ei bod am ystyried pun a’i nhw yw’r “sefydliad priodol” i barhau i gynnig darpariaeth Cymraeg i Oedolion. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig gwersi Cymraeg i aelodau’r gymuned ac yn fodd o bontio’r brifysgol â’r gymuned ehangach. Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: “O ran Cymraeg i Oedolion, byddwn yn…gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod cyrsiau yn parhau. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno tendr i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i barhau â’n rôl fel darparwr o fis Gorffennaf 2019 ymlaen.”

Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Undeb y Myfyrwyr er mwyn trafod y cynlluniau, dywedodd Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, y bydd “gostyngiad graddol o staff dros y bum mlynedd nesaf.” Mae’r brifysgol eisoes wedi cynnig i aelodau staff i ymgeisio am becynnau ymddeoliad cynnar, gyda’r ffenestr ymgeisio yn cau ddiwedd Mai. Ychwanegodd yr is-ganghellor, “Rydym am wneud hyn yn raddol, rydym am ei wneud ar sail gwirfodd.”

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad yn Neuadd Fawr yr Undeb oedd yr Athro Damian Walford-Davies, Rhag Is-ganghellor ar gyfer Coleg y Celfyddydau, Dynoliaethau a Gwyddoniaeth Gymdeithasol. Mewn ymateb i gwestiwn yn benodol ar Ysgol y Gymraeg, dywedodd ei fod yn “llwyr ymroddedig i Ysgol y Gymraeg a’i darpariaeth.” Ychwanegodd, “Syniad ydyw. Byddwn yn ymgynghori â staff a myfyrwyr yn ystyrlon ac yn gadarn.” Ei obaith yw y bydd y Gymraeg yn “dod i mewn i’r brif ffrwd. Yn fwy gweledol, nid llai.”

“Ergyd i’r Gymraeg”

Ond beth yw barn rhai o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar yr argymhellion? Yn ôl Tirion Davies, myfyrwraig Cymraeg a Newyddiaduraeth yn y flwyddyn gyntaf, “Gan fod Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchel ei safon yn y Deyrnas Unedig ac yn y byd, dylai Ysgol y Gymraeg dderbyn y parch i weithredu’n annibynnol o’r ysgolion eraill gan mai yng Nghymru mae’r adran yn gweithredu – nid o fewn gwlad tramor.”

Dywedodd Mali Llyfni, myfyrwraig Cymraeg yn y flwyddyn gyntaf, “Dewisais ddod i astudio Cymraeg yma yng Nghaerdydd oherwydd yr ymdeimlad braf oedd o fewn yr ysgol, yr ymdeimlad o berthyn i un ysgol academaidd a honno o fewn un o’r prifysgolion mwyaf ym Mhrydain ac ym mhrifddinas Cymru. Yn bendant mi fydd y cynlluniau hyn yn ergyd i’r Gymraeg, yn ogystal â thargedau’r llywodraeth o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr.”

Yn ôl Jacob Morris, Swyddog y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyriwr Cymraeg a Gwleidyddiaeth yn yr ail flwyddyn, “Y gofid yw y bydd y gymuned glos sydd o fewn Ysgol y Gymraeg yn diflannu drwy uno gydag ysgolion eraill. Mae angen lle i’r Gymraeg anadlu’n naturiol ac mae Ysgol y Gymraeg yn un o’r llefydd prin lle gellir honni fod hynny’n wir yn y brifysgol.”

“Ymgynghori’n ofalus”

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caerdydd yn mynd ati i ymgynghori â holl rhanddeiliaid y brifysgol. Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: “Mae’n bwysig pwysleisio nad ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto, a byddwn yn ymgynghori’n ofalus â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill wrth i ni fynd ymlaen.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae ein hymrwymiad i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg ac i gyflawni’r hyn a amlinellir yn Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 yr un mor gryf, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ddatblygiad y Gymraeg ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a moesol. Yn ddiweddar iawn mae’r Brifysgol, am y tro cyntaf, wedi penodi Deon y Gymraeg, Huw Williams, sy’n gweithio gyda’r Rhag Is-ganghellor, yr Athro Damian Walford-Davies i ddatblygu strategaeth arloesol a blaenllaw ar gyfer y Gymraeg a fydd yn trawsnewid profiad myfyrwyr – a staff – ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Mae Swyddogion Sabothol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi anfon llythyr agored i Is-ganghellor y Brifysgol yn rhestri eu pryderon am y cynlluniau. Gellir gweld copi o’r llythyr ar wefan yr Undeb.

css.php