Taf-Od

700,000 yn gorymdeithio i Lundain yn galw am ‘Bleidlais i’r Bobl’

YN Y LLUN: Llun o gefnogwyr Plaid Cymru yn Park Lane ar ddechrau’r orymdaith (Tarddiad: Wiliam Rees)

gan Wiliam Rees

Ddydd Sadwrn diwethaf gwelwyd yr ail brotest fwyaf erioed yn hanes y Deyrnas Unedig, a hynny ers y brotest i wrthwynebu’r rhyfel yn erbyn Iraq, wrth i 700,000 o bobl orymdeithio drwy’r strydoedd yn galw am ‘Bleidlais i’r Bobl’ ar gytundeb Brexit terfynol Theresa May. Mae’n debyg y gwnaeth hyd at 15 bws gludo protestwyr o bob cwr o Gymru, gyda channoedd mwy yn cyrraedd ar y trên.

Llwyddodd yr orymdaith i gwmpasu’r bwrdd monopoli fel petai: o Park Lane, hyd Pall Mall, Sgwâr Trafalgar, heibio Whitehall cyn gorffen yn Sgwâr y Senedd, lle cynhaliwyd rali fawr gydag amrywiaeth eang o siaradwyr nodedig. Yn eu plith, oedd Chuka Umunna AS, Anna Soubry AS, Delia Smith, Deborah Meaden yn ogystal â nifer o bobl ifanc o bob rhan o Brydain. Yn cynrychioli Cymru oedd cyn-Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymru Carmen Ria Smith. Mewn araith i’r dorf oedd wedi ymgynnull, dywedodd y byddai Brexit yn “effeithio fwyaf ar y lleiaf breintiedig yn ein cymdeithas” a bod “democratiaeth yn golygu nad oes angen inni dderbyn gweledigaeth Jacob Rees Mogg a Boris Johnson, ac felly rhaid ymladd am ddyfodol gwell, trwch y gymdeithas”.

Cyn yr orymdaith dim ond tua 100,000 oedd yn ddisgwyliedig i orymdeithio yn ôl trefnwyr y digwyddiad, ond ar y dydd gwnaeth saith gwaith hyn droi allan, gan ddod a chanol Llundain i stop. Ni chafodd rhai pobl y cyfle i orymdeithio o gwbl o ganlyniad i’r nifer wnaeth droi allan, gyda miloedd yn sefyll yn stond ar Park Lane gan fod y llwybr tuag at y rali wedi ei lenwi.

Dywedodd un o’r gorymdeithwyr wrth Golwg360, y Cynghorydd Plaid Cymru o Lanrwst Aaron Wynne a wnaeth drefnu bws o’r Gogledd i dros 50 o aelodau Plaid Cymru, ei fod yn protestio “oherwydd fy mod eisiau dangos i San Steffan fod gan y bobol hawl i roi eu sêl bendith ar unrhyw ddêl.”

Mewn datganiad i’r wasg cyn yr orymdaith dywedodd llefarydd Downing Street ei fod yn derbyn fod gan y cyhoedd yr hawl i leisio’i barn ond fod Theresa May wedi datgan yn blwmp ac yn blaen ei safbwynt hithau ar ail refferendwm. Er hyn, mae’r rhaniadau amlwg sydd o fewn y Llywodraeth a’r Blaid Lafur yn dangos nad oes modd dod i gytundeb ar unrhyw ddêl, heb sôn am Frexit caled neu feddal.

Wrth i’r cyfnod negodi ddirwyn i ben fis Mawrth 2019, mae nifer cynyddol o Aelodau Seneddol yn dod i’r farn mai’r unig ffordd i ddatrys y sefyllfa yw trwy roi’r bleidlais unwaith eto i’r bobl. Amser a ddengys felly os fydd y Llywodraeth, yn y pendraw, yn ystyried troi at y bobl unwaith eto ar y ddêl derfynol.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php