Taf-Od

Adre am y ‘Dolig…pwy a ŵyr?

Myfyrwyr yn poeni gorfod cyfaddawdu i ‘Ddolig rhithiol yng Nghaerdydd! Tarddiad: International Press Telecommunications Council
Myfyrwyr yn poeni gorfod cyfaddawdu i ‘Ddolig rhithiol yng Nghaerdydd! Tarddiad: International Press Telecommunications Council
Gyda chyfyngiadau COVID-19 dal yn bresennol yn ein bywydau bob dydd, bydd hawl gan fyfyrwyr ddychwelyd adre i fod gyda'u teuluoedd y 'Dolig yma?

Gan Alaw Fflur Jones | Golygydd Taf-od

 Chymru bellach mewn ail gyfnod Clo Cenedlaethol ers dydd Gwener, 23 Hydref, mae nifer o fyfyrwyr yn pryderu am eu hawliau i fynd adre dros gyfnod y Nadolig. Er pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford mewn cynhadledd mai cyfnod clo ‘llym a byr’ ydyw a fydd yn parhau hyd at ddydd Llun, 9 Tachwedd.  Gyda’r cynnydd sylweddol o heintusrwydd, poeni mae myfyrwyr am gyfyngiadau pellach a fydd yn eu rhwystro rhag dychwelyd adre i fwynhau’r Nadolig gyda’u teuluoedd.

 

Mae Mark Drakeford yn apelio ar y genedl gyfan i gydweithredu er mwyn gobeithio “arafu’r feirws erbyn y Nadolig”. Penderfynwyd ar yr ail gyfnod clo Cenedlaethol ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 626 achos newydd o COVID-19 yng Nghymru, gydag un farwolaeth yn rhagor. Dywedodd Heledd Haf Evans, myfyrwraig o’r ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd,

‘‘Gobeithio mai canlyniad y cyfnod clo llym fydd gallu dychwelyd i ryw fath o normalrwydd yn gynt.’’  Cydnabyddir hefyd mai cyfnod clo Cenedlaethol ‘‘yw’r unig opsiwn’’ yn enwedig ar ôl i Gymru gofnodi 1,148 o heintusrwydd ar ddydd Mercher, 20 Hydref.  Y cofnod mwyaf yng Nghymru o fewn 24 awr.

 

Roedd Caerdydd dan amodau clo lleol cyn y clo Cenedlaethol, ac felly mae’r myfyrwyr eisoes wedi cael eu gwahardd rhag gweld eu teuluoedd. Ond yng nholau’r sefyllfa bresennol esboniodd Heledd Haf Evans,

”Mae’n edrych yn debyg mai ond gwaethygu bydd y feirws ac mae’r nifer o achosion wedi cynyddu’n gyflym ers i fyfyrwyr ddychwelyd i’r brifysgol, felly mae’n edrych yn debygol ein bod am wynebu canllawiau llym dros y Nadolig.’’

 

Yn unol â geiriau argyhoeddedig Mark Drakeford, dywedodd y byddai buddion y clo Cenedlaethol  yn “dod yn amlwg yn ystod yr wythnosau fydd yn dilyn hynny”. Ymateba Malen Meredydd, myfyrwraig blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd,

‘‘Dwi wir yn gobeithio wrth i Gymru gyfan dynnu at ei gilydd a dilyn y rheolau na fydd rhaid i mi hyd yn oed ystyried ‘Dolig heb fy nheulu. Siawns ar ôl hynny, y bydd golau ar ddiwedd y twnnel.’’

 

Ond yn dilyn ymateb Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru:

“Nid egwyl o bythefnos yw hwn i ddatrys y pandemig, mae’n debygol y byddwn yn gweld cloeon yn rheolaidd dros weddill y flwyddyn.’ Poena Rhodri Davies, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd myfyrwyr yn gorfod colli mwy na Noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt eleni. Mae Rhodri Davies fel sawl myfyriwr arall yn poeni na fyddai yn medru treulio’r Nadolig gyda’i deulu.

‘‘Yn anffodus, nid popeth a gellir ei wireddu dros Zoom. Ni fyddai ‘Dolig rhithiol yn ‘Ddolig!’’

 

Un peth fydd yn sicr ar restr Siôn Corn pob myfyriwr eleni, yw medru mwynhau’r ŵyl gyda’u teuluoedd o gynhesrwydd eu cartrefi. Petai myfyrwyr yn cael mynd adre dros y Nadolig, esboniwyd y byddent yn barod i hunanynysu am 14 diwrnod cyn dychwelyd at eu teuluoedd er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feriws.

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php