Taf-Od

Ailagor neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Neuadd Pantycelyn wedi adnewyddu ac ail agor
Tarddiad: Moc Lewis
Cartref newydd sbon i nifer o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar ôl cau am saith mlynedd yw neuadd Pantycelyn. Ar ôl buddsoddiad o £16.5m, mae yna le i 200 o fyfyrwyr i aros.

Gan Nel Richards | Golygydd Cymraeg

Cartref newydd sbon i nifer o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar ôl cau am saith mlynedd yw
neuadd Pantycelyn. Ar ôl buddsoddiad o £16.5m, gan gynnwys £5m o’r Llywodraeth
Gymreig, mae yna le i 200 o fyfyrwyr i aros. Yn ychwanegol i’r ystafelloedd wely a cheginau,
ceir ardaloedd tawel i astudio, cyfleusterau cyfrifiadurol, ystafelloedd gyfarfod a 4 ystafell
gyffredin, i gyd o dan un to.

“Cynnal traddodiad o Gymreictod”

Dyma eiriau Llio Heledd, sy’n fyfyrwraig ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth
esbonio effaith ailagor y neuadd hon ar yr Iaith Gymraeg. Dywed hefyd;

“Yn sgil yr agoriad, y gobaith yw y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Gymry sy’n
dewis byw drwy’r Gymraeg.”

Ers agor am y tro cyntaf yn 1951, ceir gymuned glos Gymraeg yma ers y dechrau wrth i’r
fflatiau fod drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd fod yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg
Aberystwyth (UMCA), a’r holl gymdeithasau Gymraeg ei hiaith. Dyma ardal lle gall myfyrwyr
gymdeithasu, gweithio, a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Brwydro dros ganolfan Gymraeg

Yn 2013, roedd rhaid cau’r neuaddau, gyda’r bwriad o adeiladu neuadd breswyl Gymraeg
arall yn Fferm Penglais. Er hyn, cafodd llawer o anghydfod ymysg myfyrwyr wrth iddynt
deimlo fel bod y Gymraeg yn cael ei fychanu. Yn sgil hyn, protestiodd ac ymprydiodd nifer o
fyfyrwyr, a phobl eraill am fisoedd. Wedi hyn, penderfynwyd newid y cynllun yn 2014, a
chytuno i barhau i adnewyddu’i hen neuadd Pantycelyn. Dechreuodd yr adeiladu yn 2017, a
thair blynedd yn ddiweddarach, mae’r neuaddau nawr yn agored i fyfyrwyr y flwyddyn
gyntaf ym mis Medi, 2020.

“Pantycelyn yw calon cymuned y myfyrwyr Cymraeg”

Wrth lunio pennod newydd yn Aberystwyth, dyma beth oedd gan Moc Lewis, Llywydd
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) i ddweud am ail agor y neuadd;

“Wrth i Bantycelyn ail-agor yr ydym yn uno UMCA ac mae UMCA yn adennill rhan o’i
hunaniaeth. Llynedd roedd aelodau UMCA wedi rhannu, rhai o’r flwyddyn gyntaf yn Fferm
Penglais, rhai ym Mhenbryn a’r  gweddill lawr yn y dre. Byddai digwyddiadau a chyfarfodydd
UMCA wedyn ni yn cael ei wasgaru ar draws Aber. Gyda Pantycelyn yn ailagor bydd pob
peth dan un to felly bydd cartref i’r iaith Gymraeg unwaith eto. Ac wrth gael y gyntaf, ail a’r drydedd flwyddyn i gyd ym Mhantycelyn, y bydd ein cymdeithas yn dod yn fwy clos.”

“Mae agoriad Pantycelyn hefyd yn dangos parodrwydd y Brifysgol i wrando ar lais myfyrwyr
Cymraeg gan hefyd ddangos ei pharodrwydd i gefnogi’r iaith a’r diwylliant. Mae hyn yn mynd i berswadio mwy o fyfyrwyr i sefyll yng Nghymru i astudio. Ac wrth i niferoedd
myfyrwyr Cymraeg cynyddu, bydd yr iaith a’r diwylliant yn mynd o nerth i nerth.”

“Er nad adeilad sy’n gwneud cymuned, ond pobl. Fel myfyriwr sydd wedi astudio yn Aber am
dair blynedd tra fu Pantycelyn ar gau rwy’n gallu tystio i hynny. Llwyddwyd i gynnal bywyd
Cymraeg myfyrwyr yn ystod yr amser hynny. Bywyd Cymraeg sy’n dal i fod yn destun
eiddigedd i fyfyrwyr prifysgolion eraill Cymru.”

“Ond gydag adeilad a llety sy’n ffit i fyfyrwyr Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain, bydd hyn yn
hwyluso’r gymuned Gymraeg yma i’r dyfodol ac yn annog pob math oweithgarwch. Gyda
hynny, cawn weld digwyddiadau Cymraeg a defnydd o’r iaith ymhlith myfyrwyr Aber yn
ffynnu gan gyfrannu tuag at ddiwylliant Cymru gyfan a dylanwadu ar feysydd tu hwnt.
Mae’n adeilad eiconig sydd llawn hanes, ond ein tro ni yw hi nawr i lunio’r bennod nesaf.”

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php