Taf-Od

Beth yw pwysigrwydd cefnogi newyddiaduraeth Cymraeg?

Beth yw pwysigrwydd newyddiaduraeth Cymraeg yn yr oes modern? Tarddiad: Jon S (trwy Flickr)

Gan Alaw Fflur Jones

Cyfrwng newyddiaduraeth print, digidol a darlledu Cymru sydd i’w gyfri am fwyafrif y ddarpariaeth newyddion cyfoes Cymreig i gyhoedd Cymru. BBC Cymru, ITV Cymru, Media Wales a Golwg yw rhai o brif lwyfannau newyddiadurol Cymru. Mae llwyfannau newyddiadurol Cymru yn bwysig wrth warantu newyddion sy’n gynrychiadol, yn gywir ac sy’n ganolog i Gymru.

Yn sgil datganoli yn 1997 a’r cynnydd mewn pwerau datganoledig erbyn 2011, mae tirwedd wleidyddol Cymru yn wahanol i Loegr a gweddill y Deyrnas Unedig.  Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau deddfu mewn meysydd penodol sy’n unigryw i Gymru.

Yn dilyn pwerau datganoli Cymru, nid yw bob deddf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn berthnasol i Gymru. Mae llwyfannau newyddiadurol Cymru yn flaenllaw wrth graffu ar Lywodraeth y wlad gan ddarparu’r newyddion cywir sy’n berthnasol ac yn ganolog i ddemocratiaeth y genedl.

Ond, er gwaethaf allbwn newyddiadurol Cymru, mae dinasyddion y wlad yn fwy tebygol o droi at blatfformau cenedlaethol am eu newyddion dyddiol. Yn ôl ystadegau ABC ym mis Rhagfyr 2019, ond 10,341 o boblogaeth Cymru sy’n prynu’r Western Mail.  Yn hytrach, yn ôl arolwg 2018 gan Ofcom, y Daily Mail, Mail on Sunday a The Sun yw’r papurau newyddion mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Nododd yr arolwg Ofcom yn ogystal, mai BBC News sy’n darlledu dros y Deyrnas Unedig yw’r cyfrwng newyddion mwyaf poblogaidd yng Nghymru ac nid BBC Cymru, sef y newyddion sy’n berthnasol i Gymru’n benodol.

Mae tueddiad gan y Cymry i droi at lwyfannau cenedlaethol am eu newyddion  yn peri gofid i Rosemary Butler, sy’n gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Poena Rosemary am eu heffaith ar ddiffyg dealltwriaeth y Cymry o faterion Cymreig gan sôn yn erthygl i’r Cynulliad yn 2013,

‘nad yw materion Cymreig yn cael cynrychiolaeth ddigonol ym mhapurau newydd Llundain nac ar y rhwydweithiau darlledu Cenedlaethol.’

Ychwanegodd hefyd mai effaith methiant llwyfannau Cenedlaethol i drafod materion datganoledig i Gymru yw

‘bod llawer yng Nghymru nad ydynt yn ymwybodol o’r ffaith bod ein hysgolion a’n hysbytai yn cael eu rheoli mewn ffordd wahanol iawn i’r rhai yn Lloegr.’

Mewn ymchwiliad gan Justin Lewis yn 2009, datgelwyd, allan o 4687 o eitemau newyddion, roedd llai na 1% yn neilltuedig i wleidyddiaeth ddatganoledig gydag ond un stori am Gymru.

Ar y 17eg o Ebrill 2020 nododd y BBC newidiadau i ddillad amddiffynnol personol i weithwyr gofal iechyd yn sgil y Coronaferiws.

Ond, nid oedd yr erthygl yn sôn mai newidiadau yn berthnasol i Loegr yn unig oedd tan chwe diwrnod yn ddiweddarach ar ei gwefan, o dan gywiriadau ac eglurhad. Mae’r diffyg cydnabyddiaeth o’i gweithredoedd mewn cyd-destun datganoledig yn gallu peri dryswch mawr i bobl Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Gall hyn chwyddo diffyg dealltwriaeth y Cymry o faterion Cymreig yn bellach.

Mewn arolwg gan y BBC ac ICM Research, roedd 43% o gyhoedd Cymru’n meddwl mai Llywodraeth San Steffan oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Er, ceir gwell dealltwriaeth ynglŷn â’r maes addysg, gyda 61% yn ymwybodol mae Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am addysg yng Nghymru.

Yn ddiweddar, canolbwyntiodd y BBC One Breakfast Show ar newyddion o Loegr yng ngholau’r pandemig Coronafeirws, heb hefyd cynnwys cymaint o fwletinau newyddion am Gymru. Perodd hyn ofid i Helen Mary Jones, o Blaid Cymru. Wrth iddi sôn wrth y County Times ym mis Mawrth am ei hymateb i’r diffyg newyddion Cymreig, dwedodd:

‘without a news bulletin from Wales during Breakfast, there is a risk that people will not receive sufficient information about Coronavirus in Wales.’

Mae llwyfannau’r cyfryngau Cenedlaethol hefyd wedi profi’n ddryslyd i nifer, wrth beidio nodi eu bod yn gweithredu mewn cyd-destun datganoledig, heb unrhyw gyfrifoldeb tu allan i Loegr.

Mae ffigyrau’n profi bod nifer fawr o Gymry yn anymwybodol o’r pwerau datganoledig sydd gan Gymru. Gall hyn gosod dyfodol democratiaeth Cymru mewn perygl, wrth i bobl bleidleisio a gwneud penderfyniadau ar sail newyddion a geir o lwyfannau Cenedlaethol yn hytrach na newyddion sy’n berthnasol i Gymru pob tro.

Yn ôl arolwg diweddaraf Ofcom, mae gan 89% o oedolion 16+ Cymru ddiddordeb neu ddiddordeb mawr mewn newyddion Cymru. Yr her i lwyfannau newyddiadurol Cymru yw ennyn y diddordeb hynny cyn ei golli i lwyfannau’r cyfryngau Cenedlaethol.

Mewn ymateb i’r her, ceir alw i ddatblygu’r llwyfannau a’r cynnwys newyddiadurol er mwyn fod yn geffyl blaen ar gystadleuaeth y cyfryngau Cenedlaethol.

Mae diffyg dealltwriaeth y Cymry o faterion Cymreig yn bryder sy’n atgyfnerthu pwysigrwydd newyddiaduraeth Cymru i’w gwybyddi.

Yn unol â’r gobaith am ddatblygiad i newyddiaduraeth Cymru, rhaid i’r Cymry ddilyn gan gefnogi’r llwyfannau Cymreig sydd yn eu gwasanaethu er mwyn sicrhau’r ddealltwriaeth orau o faterion sy’n ganolog iddynt.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php