Taf-Od Watch

Cenedl yn Cofio Aberfan

gan Jacob Morris

Pum deg dau mlynedd yn ddiweddarach ac mae Trychineb Aberfan yn fyw o hyd yng nghof y genedl. Yn ddi-os un o drallodion tristaf yn hanes Cymru a lwyddodd i ysgwyd pobl Prydain a thu hwnt pan gipiwyd 144 o fywydau: 28 yn oedolion, ac 116 yn blant.

Dydd Llun, 22 Hydref, fe gofiodd Cymru am y sawl fu farw yn Aberfan, pentref yng nghrombil y bwrlwm diwydiannol yng nghymoedd De Cymru. Am 9:13yb ar 21ain o Hydref 1966, fe lithrodd tomen anferth lo o Dip Rhif Saith ar bentref Aberfan gan lyncu Ysgol Pantglas oedd wrth droed Mynydd Merthyr. Wedi’r plant ddychwelyd o’r gwasanaeth boreol fe darfwyd y llithriad glo ar eu diwrnod o waith a throi’n gyflafan angheuol. Digwyddiad ysgytwol na welwyd ei debyg erioed yn hanes Cymru, ac mae lluniau’r erchylltra’n ddigon i’n sobri hyd heddiw.

I nifer o drigolion mae’r hyn a ddigwyddodd y bore hwnnw o hyd yn gysgod dros y cwm. Mae Marion Raymond, a fu’n athrawes yn ysgol gyfagos Abercanaid, yn cofio clywed am sain ‘anghyffredin’ ceir heddlu yn gwibio heibio. Dywedodd wrth Taf-od y gwnaeth y gogyddes yn yr ysgol dderbyn ‘galwad ffôn wrth gyd-weithwraig gyfagos yn dweud fod y domen lo enfawr y tu ôl i Ysgol Aberfan yn symud a bod rhan ohoni wedi symud i iard yr ysgol’. Bu Mrs Raymond yn ‘arllwys cwpanau o de, darparu geiriau o anogaeth a chysur tra roeddwn yn aros yn bryderus am newyddion o oroeswyr’.

Yn sgil y trasiedi sefydlwyd Cronfa Drychineb Aberfan gan Faer Merthyr Tudful a denodd cyfraniadau ariannol o bedwar ban y byd. Drwy sefydlu neuadd gymunedol yn ogystal â sicrhau gwyliau i’r pentrefwyr; fe sicrhaodd y cyfraniadau hael hyn gymorth i’r sawl oedd yn galaru wedi iddynt golli plant ac anwyliaid.

Ond beth oedd ymateb llywodraeth y cyfnod? Hyd heddiw mai cynifer o bobl yn hallt ei beirniadaeth ar ymateb Llywodraeth Lafur, Harold Wilson. Mynegodd y Prif Weinidog y dylid clustnodi peth o’r arian a godwyd gan y gronfa i dalu am symud y domen i’r neilltu.

Dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r ddadl yn parhau i godi gwrychyn yng Nghymru. Dywedodd Huw Edwards dros Drydar ’The tragedy of Aberfan was caused by incompetence, negligence and arrogance. The community was then treated by those in authority. It was deeply shaming – and we should never forget. Nac anghofiwn amdanynt’. Ymhellach, ystyriwyd Trydariad ar gyfrif BBC Wales yn ansensitif gan rai, gan ddisgrifio’r trychineb yn ‘gamgymeriad’.

Bellach mae yna fynwent goffa lle claddwyd y sawl a gollwyd ar y bore hwnnw ac yn flynyddol y mae ysgolion hyd a lled Cymru yn dod i gofio a thalu teyrnged. Yn 2016, nodwyd pum deg mlynedd ers y trychineb ac fe gyfansoddwyd ‘Cantata Memoria – For the children’ gan Karl Jenkins a Mererid Hopwood. Yn ogystal, fe aeth dim pêl -droed Cymru i ddysgu ac i gofio.

Erbyn heddiw mae llethrau Aberfan yn wyrdd, ond mae’r fro yn dal i gofio am y bore du hwnnw. Dyma un o drychinebau sy’n graith yng nghof y Cymry, a heb os yn drasiedi fydd yn aros yng nghof trigolion Aberfan am genedlaethau i ddod.

css.php