Pryd o Daf-od

Effaith y coronafeirws ar chwaraeon yn y Brifysgol

Tarddiad: AdamKR trwy Track and Field Sports Photography
Gyda miloedd yn heidio yn ôl i’r brifysgol neu’n cychwyn ar daith yno yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd un elfen amlwg o fywyd myfyrwyr yn absennol o’r arlwy eleni – chwaraeon.

Gan Annell Dyfri | Golygydd Cymraeg

Gyda miloedd yn heidio yn ôl i’r brifysgol neu’n cychwyn ar daith yno yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd un elfen amlwg o fywyd myfyrwyr yn absennol o’r arlwy eleni – chwaraeon.

Mae chwaraeon yn chwarae rôl greiddiol ym mywyd llwyth o fyfyrwyr yn y brifysgol. I rai, parhau i hyfforddi a chyrraedd safon benodol yw’r nod, ond i eraill manteisio ar y cyfle i gymdeithasu ac i roi cynnig ar gamp wahanol yw eu bri.

Yn bersonol, roedd yn gam naturiol i mi ymuno â thîmau chwaraeon yn y brifysgol y llynedd. Dw i wedi mwynhau chwaraeon erioed ac felly roedd yn benderfyniad pwysig i barhau gyda’r campau hynny yng Nghaerdydd sef nofio, hoci a phêl-rwyd.

Wrth i chi symud oddi cartref am y tro cyntaf, cewch eich taflu mewn i awyrgylch cwbl anghyfarwydd. Er hyn, roedd parhau gyda’m campau yn sicrhau fy mod yn cynnwys elfen gyfarwydd yng nghanol prysurdeb newydd y brifysgol ac yn ffordd wych o ymgartrefu yn y brif-ddinas. Ond, yn anffodus, fydd y profiad hwnnw y tu hwnt i las fyfyrwyr eleni, diolch i’r coronafeirws.

Gwahanol chwaraeon yn derbyn gwahanol ymdriniaeth

Gyda phob camp yn cynnwys nodweddion a rheolau gwahanol, mae’r aflwydd yn effeithio ar rai campau’n fwy na’i gilydd. Yn dibynnu ar sut mae’r gamp yn cael ei chwarae, mae modd parhau gyda rhai e.e. tenis neu fadminton gan fod modd cynnal a chadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol wrth chwarae. Yn yr un modd mai pyllau nofio wedi ail agor ers wythnosau bellach gan alluogi nofwyr i ail-gydio yn eu hyfforddi. Yn dilyn y penderfyniad yma, dw i’n teimlo’n lwcus mai nofio yw fy mhrif gamp ac o ganlyniad fy mod wedi medru dychwelyd i’r drefn o hyfforddi’n gyson wedi misoedd o nofio yn y môr.  Er fy mod wedi gallu dychwelyd, rhaid nodi nad yw’r profiad yr un fath wrth i ni orfod dilyn rheolau llym a chyfyngiadau amser.

Er hyn, yn amlwg nid yw hi’r un mor rhwydd i dîmau chwaraeon sy’n cynnwys cyswllt ailgydio yn eu campau e.e. rygbi, pêl rwyd, pêl droed ac ati. Ond wedi dweud hyn, mae llawer iawn o dîmau’r Brifysgol wedi mynd ati i gynllunio a cheisio addasu’r modd y mae myfyrwyr yn hyfforddi er mwyn sicrhau eu bod yn medru parhau i fwynhau’r campau o ryw fath wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Enghraifft o’r addasiad yma yw cynnal sesiynau ffitrwydd yn hytrach na chwarae gêm gystadleuol.

Er bod cynnal sesiynau ffitrwydd yn well na dim, ac yn gyfle i’r glasfyfyrwyr ymuno, nid wyf yn gweld y byddwn yn medru cael hyfforddiant cyflawn am amser hir yn anffodus. Amser a ddengys.

Cymdeithasu

 Er bod yr hyfforddi yn rhan fawr o fywyd unrhyw dîm chwaraeon, mae’r dimensiwn cymdeithasol yn rhan allweddol ohono hefyd – yn enwedig yn y brifysgol. Yn anffodus, ni fydd modd cynnal na mynychu nosweithiau allan gyda’n tîmau chwaraeon yn yr undeb mewn gwisg ffansi fel y norm yn y dyfodol agos. Gellid dadlau y bydd y rhwystredigaethau a ddaw yn sgil yr anallu i gymdeithasu yn fwy na’r rhwystredigaethau o fethu â chwarae gêmau cystadleuol. Wedi’r cwbl, mae’r ochr gymdeithasol yn cynnwys y chwaraewyr a’u cefnogwyr (ac unrhyw un arall o ran hynny) ac yn cynnig llwyfan i bawb ddod i adnabod ei gilydd mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol.

Dyna ni, dyna’r sefyllfa sy’n ein hwynebu heddiw. Rhaid ufuddhau I’r drefn gan obeithio y cawn ddychwelyd i gystadlu, hyfforddi a chymdeithasu gyda’n tîmau chwaraeon yn y dyfodol agos.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php