Taf-Od

Clwb Ifor…Mawr?

O Glwb Ifor Bach i Glwb Ifor Mawr: Clwb Ifor Bach fel y mae ar hyn o bryd. Tarddiad: Tomos Evans.

gan Jacob Morris

Mae’n un o glybiau mwyaf eiconig Cymru sydd wedi denu cenedlaethau o Gymry Cymraeg y brifddinas ers 1983, ond mae Clwb Ifor Bach ar fin derbyn gweddnewidiad. Tafliad carreg o furiau’r castell mae Clwb yn un o gonglfeini sîn cerddorol Caerdydd, a dydd Mawrth diwethaf cyhoeddwyd cynlluniau am estyniad newydd.

Bwriad Clwb Ifor Bach ywcreu lleoliad sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrifgyda’r adeilad presennol yn uno gyda’r adeilad drws nesaf i hawlio dau lwyfan newydd. Datblygiad yn ôl Guto Brychan, prif weithredwr Clwb fydd yn creu llwybrau i bobl sydd efo ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth. O wythnos i wythnos mae’r clwb aml-lawr dan ei sang, gyda channoedd yn mentro trwy’r drysau ac yn dawnsio hyd yr oriau mân. Mynegodd Gareth Potter “Mae angen o ar Clwb i fod yn onestmae’r ciw lawr y strydmae’r clwb yn llawn dop bob nos Sadwrn a’r gobaith fydd yr estyniad yn mynd i’r afael â’r broblem hon.”

Daw’r cyhoeddiad mewn cyfnod ansicr i ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg byw yn y brifddinas. Nid nepell o Stryd Womanby mae Cilgant Guildford, sy’n gartref i Far Gwdihŵ ac yn wynebu’r bygythiad o orfod cau ei ddrysau. Cafwyd ymateb chwyrn gan y cyhoedd i benderfyniad y landlord i ddymchwel adeiladau’r stryd ac i godi maes parcio. Rai wythnosau yn ôl fe orymdeithiodd dros fil o ymgyrchwyr ar hyd strydoedd Caerdydd, a bellach mae’r ddeiseb sy’n galw ar y landlord i wyrdroi ei benderfyniad, wedi cyrraedd dros ugain mil o lofnodau. Ac nid yw Clwb Ifor Bach yn ddiarth i’r fath sefyllfa, yn 2017 fe ddaeth ansicrwydd tebyg i’w ddyfodol o achos i lefelau sŵn hyd oriau hwyr y nos, testun a ddenodd ymyrraeth gan Aelodau Cynulliad.

Mewn datganiad gan Glwb Ifor Bach dywed fod yr estyniad ond yn bosib wedi i Gyngor Caerdydd gamu i’r adwy a chytuno i gaffael â’r adeilad drws nesaf. Nid oedd y Cyngor yn fodlon i ddatgelu’r swm a fuddsoddwyd, ond bod bwriad ganddyn nhw i brydlesu’r adeilad i Glwb yn y tymor hir. Cred Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd y gall y gwaith o ehangu cyfrannu’n helaeth at arlwy diwylliannol y brifddinas. Dywedodd ‘Nid yn unig yw’r lleoliadau hyn yn denu ymwelwyr, cynnal swyddi a denu pobl i’r ddinas, mae ganddyn nhw hefyd bwysigrwydd hanesyddol’ ac mai bwriad y cyngor yw ‘amddiffyn y sîn gerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby’.

Ond beth yw barn artistiaid y sîn gerddoriaeth Gymraeg? Croesawu’r penderfyniad mae Rhys Dafis, fe ddywedodd wrth Taf-od “bydd e’n braf gweld clwb yn ymestyn er mwyn gallu cynnal gigs mwy yna.” Ychwanegodd Ifan Prys “Does ond angen gweld y ciw ar nos Sadwrn i brofi poblogrwydd y sefydliad, gyda phobl yn aml yn ciwio dros awr er mwyn mwynhau un o brif nosweithiau’r clwb – Dirty Pop.” Ond, fe fynnodd y dylai’r estyniad rhoi pob hwb a help i fandiau Cymraeg allu chwarae o flaen torfeydd yn fyw am flynyddoedd i ddod.” Yn gyrchfan i nifer o fyfyrwyr, mae’r cynlluniau yn taro tant gyda Llywydd y Gym Gym Nest Jenkins, dywedodd “gyda nifer ohonom wedi treulio sawl noson fythgofiadwy yn y clwb eiconig hwn, fe fydda i a nifer o Gymry eraill wrth ein boddau yn cael mwy o le i ddawnsio! Ond, beth am addewid am fwy o gerddoriaeth Gymraeg neu nosweithiau Cymreig wrth lunio [cynlluniau] cyffrous?”

Gyda’r cynlluniau newydd ar y gweill, amser a ddengys os fydd gan Glwb Ifor Bach fwy o bwyslais ar gerddoriaeth Gymraeg. Er efallai iddo golli ei fwriad gwreiddiol byddai colli ei fodolaeth yn gyfan gwbl yn ergyd i’r brifddinas ac i Gymru gyfan.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php