Taf-Od

Côd coch: Rhannau o Gymru o dan ddŵr erbyn 2050

lefelau môr
Bae Caerdydd a Chaerdydd ar y rhestr o lefydd dan dŵr erbyn 2050. Tarddiad: grahamwell (via Flickr)
Yn ôl adroddiad diweddaraf IPCC,rhagfynegwyd y bydd y tymheredd byd eang yn codi 1.5°C o ganlyniad i gynhesu byd eang. Bydd y cynyddiad yma yn achosi i’r lefelau môr godi ac felly, erbyn 2050 bydd rhannau o Gymru wedi'u boddi.

Gan Gracie Richards | Golygydd Taf-od

Dengys map gan ‘Climate Central’ pa rannau o Gymru y rhagwelir i’w cael eu heffeithio gan gynnydd lefelau môr. Ymhlith y trefi a dinsaoedd mae: Caerdydd, Llandudno a rhannau o Abertawe.

Mae’r data wedi ei selio ar y rhagdybiaeth o doriadau cymedrol o lygredd. Disgwylir y bydd mwy o ardaloedd Cymru o dan ddŵr heb y toriadau yma.

Mae erthygl gan ‘Research Service Publication’ yn nodi bydd effaith lefelau’r môr yn codi yn cynyddu’r tebygolrwydd o erydiad arfordirol, sy’n medru achosi llifogydd arfordirol.

Mae 220,000 o gartrefi neu adeiladau yng Nghymru mewn perygl o gael eu heffeithio gan lifogydd gan afonydd a’r môr. Amcangyfrifir fod llifogydd yn achosi difrod gwerth £200 miliwn bob blwyddyn.

Mae amddiffynfeydd arfordirol cyfredol yng Nghymru yn amddiffyn bron i 28% o’r morlin, fodd bynnag, nid yw’r amddiffynfeydd yma yn ddigonol i reoli’r risg o fwy o erydiad o ganlyniad i’r lefelau môr yn codi ac yn lleihau eu heffeithlonrwydd.

Mae ffigurau’n dangos, os yw rheolwyr risg llifogydd yng Nghymru yn cael ei gynnal ar ei lefelau presennol byddai’r nifer o adeiladau neu gartrefi  yng Nghymru sy’n debygol o gael eu llifo yn cynyddu o 65,000 i 115,000 erbyn 2035.


Beth mae’r llywodraeth yn gwneud? 

Dyma rhai polisiau sydd yn eu lle i daclo newid hinsawdd yng Nghymru.

  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: Newid i ddull Cymru i daclo newid hinsawdd sy’n gosod dyletswyddau newydd ar y llywodraeth i sicrhau lleihad yn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
  • 4 rheoliadau pellach wedi gosod:
  1. Targed o 0 allyriadau net erbyn 2050 nawr yn gyfraith.
  2. Cynyddu targed allyriadau 2030 i 63%, a tharged 2040 i 89%.
  3. Gosod y drydedd gyllideb carbon (2026-2030)
  • Y strategaeth economi gylchol newydd; cynllun i wneud i’r economi cylchol yng Nghymru yn realiti lle maent yn cadw adnoddau yn nefnydd ac yn osgoi gwastraff.
Beth mae Cyngor Caerdydd yn gwneud? 

Cydnabu cyngor Caerdydd taw cynhesu byd eang yw’r her fwyaf difrifol i’n cenhedlaeth. Mae adroddiad  ganddynt yn nodi popeth maent yn gwneud i daclo’r broblem gan gynnwys:

  • Bwrdd Argyfwng Hinsawdd wedi eu sefydlu i nodi a chydweithredu ar brosiectau allweddol.
  • Strategaeth ‘Caerdydd Un Blaned’ yn ei le i helpu Caerdydd i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.

Gyda’r holl bolisiau yma ar waith, mae’r llywodraeth yn gobeithio taclo’r her sy’n wynebu pob tref yn y byd drwy gyfraith, trefn a thrafod.

Gracie Richards Taf-od 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php