Taf-Od

Codi tâl i gerdded copa uchaf Cymru?

Tarddiad: Liam Ketcher

Gan Liam Ketcher

Ydy mynyddoedd Cymru yn rhy beryglus i ddringo? Bydd codi tal i gerdded Yr Wyddfa yn gwneud hi’n fwy diogel i’w dringo?

Ychydig dros wythnos yn ôl yn bellach bu farw dyn ar ôl syrthio i lawr Y Grib Bigog yn Eryri. Yn ôl Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen fe gwympodd tua 3 o’r gloch y prynhawn ar Ddydd Sadwrn y 21ain o Ionawr. Fe gludwyd o’r mynydd mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, lle bu farw yn hwyrach yr un diwrnod. Yn sgil hyn, a digwyddiadau tebyg, codir y cwestiwn a yw mynyddoedd Cymru yn ddiogel bellach i ddringo, heb gymorth proffesiynol. Ac oes angen, felly, i wneud mwy i gadw cerddwyr y mynyddoedd yn ddiogel?

Mae swyddog Undeb Amaethwyr Cymru, Gwynedd Watkin, yn dweud y dylid ystyried codi tâl ar gerddwyr i fynd i fyny’r Wyddfa. Bydd yr arian a godir o hyn yn talu am fwy o waith cynnal a chadw’r llwybrau. Yn fy mhrofiad personol i o gerdded yr Wyddfa a Pen-y-fan, credaf fod y llwybrau yn cael eu cadw mewn cyflwr da. Ar ôl siarad gyda nifer fawr o stiwardiai sydd ar waelod y mynyddoedd, un o’r problemau mwyaf yw, er bod y llwybrau mewn cyflwr da, mae nifer fawr o dwristiaid sydd yn cerdded y mynyddoedd yn penderfynu defnyddio llwybrau eu hunain er mwyn cyrraedd y copa. Yn amlwg nid yw’n bosib cadw rheolaeth ar bawb sydd yn dringo’r mynyddoedd, ond yn amlwg mae’n rhaid cael rheolau mwy llym er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Mae dros 400,000 o bobl yn cerdded Yr Wyddfa bob blwyddyn, sydd yn amlwg yn nifer mawr o bobl, a olyga ei fod bron a bod yn amhosib rheoli. Dywedodd Mr Watkin bod pwysau mawr ar y llwybrau oherwydd y straen oddi wrth y cannoedd o filoedd o bobl sydd yn dringo mynydd uchaf Cymru yn flynyddol. Creda Mr Watkin, bydda £10 yn “bris teg” er mwyn gallu cerdded Yr Wyddfa. Yn ôl Mr Watkin mi fydd y taliad hwn yn ceisio sicrhau digon o incwm, i barhau ar waith cynnal a chadw, a hefyd i greu system adnabod er mwyn i gerddwyr gallu dangos rhyw fath o drwydded i stiwardiai pe bai angen. Credaf fod hyn yn swnio fel syniad call iawn er mwyn gallu sicrhau diogelwch wrth ddringo copa uchaf Cymru. Ond rydw i’n bersonol yn erbyn y syniad o godi tâl ar ddringo mynydd gan ei fod yn ffordd o gadw’n heini, a hefyd mae’r ddringo yn dod â thwristiaid i Gymru sydd yn dod ag incwm i fusnesau lleol ac i fusnesau sydd wedi eu lleoli ar Yr Wyddfa, megis y caffi sydd wedi ei leoli ar y copa.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n goflau am Yr Wyddfa ac maen nhw yn gweld “problemau ymarferol” gyda’r system trwydded. Mae’r awdurdod yn falch fod y mater yn cael ei thrafod, ond creda bod yna well ffordd o godi arian er mwyn cynnal a chadw’r llwybrau a’r bobl yn ddiogel.

Un o’r ffurf gorau yn fy marn i o godi arian ydy’r cynllun Rhodd Eryri a sefydlwyd chwe mis yn ôl bellach, ac mae yna sôn i ehangu cynllun gwirfoddol sy’n codi arian gan ymwelwyr i geisio diogelu Eryri. Fel rhan o’r cynllun mae bron i 30 busnes wedi bod yn gofyn i’w cwsmeriaid i wneud cyfraniad tua’r prosiect wrth iddyn nhw brynu neu archebu rhywbeth trwy’r cwmni. Erbyn hyn mae’r prosiect wedi gallu codi dros £3,000, mae hyn yn cael ei defnyddio er mwyn hyfforddi gwirfoddolwyr a’r nod nawr ydy codi rhagor o arian ar gyfer achosion eraill er enghraifft cynnal a chadw llwybrau efallai.

Tua £250,000 sy’n cael ei wario ar y llwybrau yn flynyddol ar hyn o bryd, ond er mwyn gwneud y gwaith yn llwyddiannus mae angen miliynau. Dyma pam mae Rhodd Eryri yn credu bod y syniad o godi tâl £10 er mwyn cerdded Eryri yn syniad da, ond nid pawb sydd yn cytuno gyda’r syniad. Mae Rhodd Eryri yn parhau i chwilio am fudiadau i gymryd rhan yn yr achos er mwyn sicrhau bod y prosiect yn ffynnu wrth i’r tymor ymwelwyr agosáu.

css.php