Taf-Od

Cofio ac Atgyfnerthu Hanes Pobl Ddu yng Nghaerdydd

Y symudiad: Protest BLM yng Nghaerdydd dros yr haf. Tarddiad: DJLeekee (drwy Flickr)
Y symudiad: Protest BLM yng Nghaerdydd dros yr haf. Tarddiad: DJLeekee (drwy Flickr)
Wrth i fis pobl ddu parhau, mae Nel Richards o Taf-od yn edrych ar ddigwyddiadau ac unigolion pobl ddu cofiadwy yng Nghaerdydd, a'u heffaith ar y ddinas.

Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ei bod am ymestyn Mis Hanes Pobl Ddu i flwyddyn, o dan yr ymgyrch ‘Hanes Pobl Dduon Cymru 365’. Pwysleisia hyn weithredoedd pobl ddu dros y canrifoedd: eu dysgu, a’u dathlu.

 

Cyhoeddodd yr Aelod Seneddol, Jane Hunt fod cyllid o £40,000 yn cael ei gynnig fel cymorth i Race Council Cymru i addysgu’r boblogaeth ac i hybu ymwybyddiaeth o Hanes Pobl Ddu yng Nghymru.

 

Yn sgil gwrthdystiadau Black Lives Matter dros y byd yn dilyn marwolaeth George Floyd, mae cynifer wedi dysgu mwy am hanes gwlad eu hunain a’n rhan ni yn y masnach ddieflig o gaethwasaeth ac o hiliaeth. Dyma rhai am Gymru.

 

Terfysgoedd Hil Caerdydd 1919

Dros bedwar diwrnod ym Mehefin, 1919, bu terfysgoedd treisgar rhwng cyn-filwyr, preswylwyr, milwyr a morwyr o Yemen, Somalia a’r Caribi ar draws De Cymru,ond yn benodol yn Nhrebiwt. Ysbeiliwyd tai, bu farw tri dyn ac anafwyd dros cant. Protestio oeddynt am ddiffyg tai, swyddi a chyfleoedd. Deilliodd hyn i gyd o hiliaeth. Erbyn 1911, roedd cyfran poblogaeth Caerdydd a oedd yn ddu neu’n Asiaidd yn ail yn y DU, ar ol Llundain. Roedd 700 wedi’u cyfyngu i ardal y dociau; lle’r oedd hiliaeth wael yn effeithio ar fywyd pob dydd. Does dim cofeb i’r digwyddiad dychrynllyd yma, o hyd.

 

Y Cardiff 5

Yn ystod Chwefror 1988, cafodd Lynette White ei llofruddio yn Nhrebiwt. Mae’n debyg welodd llygaid dyst dyn a alla’i fod wedi bod yn droseddwr a’i law wedi’i orchuddio â gwaed. Doedd neb yn gallu olrhain y person yma. Roedd y dyn yma’n wyn. Yn wahanol, cafodd pum dyn eu cyhuddo o lofruddiaeth Lynette White. Roedd y pump yma’n ddu. Yn Tachwedd 1990, dyma’r treial llofruddiaeth hiraf yn hanes Prydain yn dechrau. Cafwyd tri dyn yn euog (Stephen Miller, Tony Paris, a Yusef Abdullahi), a’u dedfrydu i garchar am oes – euogfarn ar gam, (wrongful conviction). Dros ddegawd yn ddiweddarach yn 2003, darganfyddwyd pwy oedd y llofrudd go iawn: Jeffrey Gafoor. Cyfaddefodd i lofruddiaeth Lynette White, a dedfrydwyd i garchar am oes. Derbyniodd Gafoor ddedfryd byrrach nag a roddwyd i’r dynion a gafwyd yn euog ar gam.

 

Yn ôl Gweinidogaeth Cyfiawnder y Deyrnas Unedig yn 2018, roedd nifer fwy o blant (40% o’r carcharorion) o dan 18 oed yn dod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, er bod y bobl hyn yn cyfrif am lai na 17% o boblogaeth gyfan y carchardai.

 

Yn UDA mae pobl du diniwed tua saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu dyfarnu’n euog o lofruddiaeth na phobl wyn diniwed, yn ôl National Registry of Exonerations yn 2017.

 

Betty Campbell

Actifydd cymunedol, ysbrydoliaeth a phennaeth ysgol gynradd du cyntaf Cymru oedd Betty Campbell. Yn wreiddiol o Drebiwt, a adnabyddir hefyd fel Tiger Bay, ardal wedi’i leoli o gwmpas dociau Caerdydd, ac un o ardaloedd mwyaf aml-ddiwylliannol cyntaf Prydain. Fel athrawes a phennaeth, fe ddechreuodd ddysgu plant am hanes caethwasiaeth, hanes Pobl Du, a’r system Apartheid, a oedd yn digwydd yn Ne Affrica ar y pryd. Fel menyw ddu, a safodd dros ei hawliau, a hefyd ddysgodd cenedlaethau o blant; galwodd Race Council Cymru am gofeb i gael ei godi fel cydnabyddiaeth o’i gwaith, yn 2020.

 

Yn ôl Emily Pemberton, myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd:

 

“Cyfnodau allweddol a throbwyntiol yn hanes Pobl Du Caerdydd a Chymru. Trwy dyfu fyny yn Grangetown, sydd yn gyfoethog yn ei hanes du, doeddwn i ddim yn gwybod roedd rhaid penodi mis i hanes y bobl dwi wastad wedi’u gweld yn y parc ac yn y stryd.”

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php