Taf-Od

Cofio bywyd Jan Morris

Bu farw'r newyddiadurwraig Jan Morris yn ddiweddar.
Yn ystod ei hoes, bu Jan Morris yn gohebu ar ddigwyddiadau mawr yn fyd-eand. Tarddiad: Wikimedia Commons
Catrin Lewis sy'n edrych yn ôl ar fywyd byrlymus yr awdures a newyddiadurwraig Jan Morris yn dilyn ei marwolaeth.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od

Ar yr 20fed o Dachwedd bu farw’r awdures a newyddiadurwraig Jan Morris yn 94 mlwydd oed.  Bu farw am 11:40 y bore yn Ysbyty Bryn Beryl wedi bywyd byrlymus ble bu hi ysgrifennu dros 40 o lyfrau a gohebu ar sawl digwyddiad mawr ar draws y byd.

Ganwyd Jan yng Ngwlad yr Haf yn 1926 fel James Morris i dad Cymreig a mam Saesneg.  Bron 50 mlynedd yn ddiweddarach teithiodd i Casablanca ym Moroco er mwyn cael ei llawdriniaeth newid rhyw.  Yn ei hunangofiant, Conundrum, mae Jan yn trafod ei hatgofion o sylweddoli pan yr oedd hi’n dri neud pedwar blwydd oed ei bod wedi cael ei geni yn y corff anghywir.

Dywedodd ei bod hi wedi cadw hynny fel cyfrinach trwy gydol ei phlentyndod ond bod ganddi, ers ei phlentyndod,

“ddyhead am wyddwn i ddim beth, fel petai ddarn ar goll o fy mhatrwm, neu ryw elfen ynof a ddylai fod yn galed ac yn barhaol, ond yn hytrach roedd yn hydawdd ac yn wasgaredig.”

Wrth drafod ei thrawsnewidiad dywedodd nad oedd hi’n credu ei fod wedi newid ei hysgrifennu a’i fod, mewn gwirionedd, wedi achosi llawer llai o newid na beth yr oedd hi’n ei ddisgwyl.

Cyn trawsnewid i fod yn Jan, priododd James ei wraig Elizabeth Tuckniss yn 1949.  Yn ystod eu bywyd magwyd pedwar o blant gyda’i gilydd sef tri mab ac un ferch – Twm, Henry, Mark a Suki.

Yn dilyn y llawdriniaeth roedd yn rhaid i Jan ac Elizabeth gael ysgariad gan nad oedd yn gyfreithlon i ddwy fenyw fod yn briod ar y pryd.  Er gwaethaf hynny, parhaodd y ddwy i gydfyw a threulio eu bywydau gyda’i gilydd.

Bron 60 mlynedd ar ôl eu priodas bu’r ddwy ail-briodi mewn partneriaeth sifil ym Mhwllheli a bu Elizabeth wrth ochr Jan am weddill ei bywyd.  Wrth drafod gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd ei mab Twm Morris ei fod yn debygol na fyddai pentwr llyfrau Jan wedi bod mor uchel oni bai am Elizabeth.

“Go brin y byddai’r pentwr llyfrau mae wedi eu sgrifennu yn ystod ei gyrfa hir wedi digwydd oni bai am ei chymar.”

Bywyd prysur a chyffroes oedd bywyd Jan a chychwynnodd ei gyrfa ar ôl iddi ddod yn enwog ar ôl gohebu ar daith Syr Edmund Hillary a’r Sherpa Tenzing Norgay ble wnaethant goncro’r mynydd Everest yn 1953.

Hefyd yn ystod ei gyrfa ysgrifennodd am gyfranogiad y Ffrancwyr yn ymosodiad Israel ar yr  Aifft yn ystod yr argyfwng Suez yn 1956.  Roedd ei gwaith yn ddylanwadol iawn a chyfrannodd at Anthony Eden, Prif Weinidog Prydain, yn cael ei ymddiswyddo ac at filwyr Prydeinig yn cael eu tynnu o’r Aifft.

Cychwynnodd Jan Morris deithio pan yr oedd hi’n 17 mlwydd oed ac yn rhan o’r fyddin.  Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen pan yn 23 mlwydd oed ac un o’i swyddi cyntaf oedd fel gohebydd tramor i The Times ac yna The Guardian.

Mae ei gwaith yn trafod yr holl ddinasoedd a’r gwledydd ble y bu hi’n teithio ac mae’r gwaith am Hong Kong ac Efrog Newydd ymysg ei henwocaf.  Er bod cyfran sylweddol o weithiau Jan yn son am ei phrofiadau wrth deithio nid oedd hi am gael ei diffinio fel gohebydd teithio a dywedodd:

“Rwyf yn ysgrifenyddes sydd yn trafeilio, nid ysgrifenyddes trafeilio”.

Ymysg yr anrhydeddau a dderbyniodd yn ystod ei gyrfa mae’r Wobr Teithio Thomas Cook am ei chyfraniad i ysgrifennu teithiol.  Yn ogystal, yn 2008 cyrhaeddodd safle 15 ar restr The Times o ysgrifenwyr gorau Prydain ers yr Ail Ryfel Byd a derbyniodd CBE yn 1999.  Yn 2005, derbyniodd y wobr Golden Pen sy’n nodi ei chyfraniad i’r byd llenyddiaeth.

Un o bryderon mwyaf Jan yn ystod ei gyrfa oedd y perygl y buasai’n cael ei chydnabod am ei rhywioldeb yn hytrach na am ei gwaith a’i hysgrifennu.  Fodd bynnag, wrth edrych yn ôl ar ei bywyd yn 2018 dywedodd nad oedd newid rhyw yn teimlo fel y foment ddiffiniol yn ei bywyd bellach.  Dywedodd, yn ystod ei blynyddoedd olaf ei bod yn gweld ei hun fel

“dyn a dynes…neu gymysgedd o’r ddau.”

Treuliodd Jan diwedd ei bywyd yn Nherfan Morys, Llanystumdwy ble bu hen gartref ei theulu.  Roedd wedi cynllunio i gael ei chladdu ar ynys fechan yn Afon Dwyfor, sydd y tu ôl i’w cartref, gyda’r geiriau “Dyma ddau ffrind ar ddiwedd un bywyd,” wedi eu hysgrifennu ar y garreg fedd.

Talodd ei mab, y bardd Twm Morys, teyrnged iddi yn dilyn ei marwolaeth a dywedodd ar Twitter

“cychwynnodd Jan Morris, yr awdur a’r teithiwr, ar ei siwrnai fwyaf!”

“Mae hi’n gadael ar y lan yma ei chymar oes, Elizabeth.”

Nid oes amheuaeth bod dylanwad Jan ar y byd llenyddol wedi bod yn un mawreddog a bod ei hanes wedi ysbrydoli miloedd mewn sawl ffordd.  Roedd ei bywyd yn un llawn bwrlwm a threuliodd ei hoes yn gwneud yr hyn yr oedd hi’n ei garu sef ysgrifennu a thrafeilio.

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php