Taf-Od

Colli’r hawl i brotestio?

police bill
Police arresting a demonstrator at an Extinction Rebellion protest in 2019. Source: Stefan Müller (via. Wikimedia Commons)
Gyda chynnydd yn y nifer sy’n lleisio eu barn ar hyd y wlad, pa effaith fydd y ddeddf o atal protestio yn cael ar hyn?

Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od

Yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard, 33 oed o Swydd Efrog, a oedd yn byw yn Brixton, Llundain; mae gwylnosweithiau, cyfarfodydd heddychlon a phrotestiadau wedi eu cynnal er mwyn ei chofio hi, ac i bwysleisio archolladwyedd (vulnerability) sy’n cwmpasu menywod yn ogystal ag aflonyddu rhywiol.

 

Mae menywod ledled Prydain wedi siarad am eu profiadau nhw ynglyn â thrais, aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus a’r teimlad o beidio bod yn ddiogel wrth gerdded strydoedd, gyda’r hwyrnos ac yng ngolau dydd.

 

Fe wnaeth Reclaim These Streets, ynghyd â grwpiau Ffeministiaeth arall drefnu bod eu digwyddiad nhw mewn sawl dinas ar draws y wlad gan gynnwys Caerdydd, Caergrawnt, Llundain, Glasgow ac Abertawe, yn troi mewn i gwylnos-stepen-drws i gofio am yr hyn ddigwyddodd. Symudodd llawer o’r digwyddiadau ar lein, wrth i bobl areithio dros zoom, neu ar YouTube. Er hyn, teimlodd pobl yn gryf am y sefyllfa, ac er bod mesurau Cofid yn parhau i fod yn llym, ymlwybrodd llawer i ganolfannau megis Comin Clapham i adael blodau, i alaru ac i uno fel grŵp o fenywod, a phobl aneuaidd i dalu teyrnged.

 

Mynychodd Rosa Humphreys gwylnos Reclaim These Streets Abertawe, ble roedd pawb yn ceisio ymbellhau yn gymdeithasol;

 

‘Mae angen pwysleisio graddfa y broblem o drais yn erbyn menywod yn y Deyrnas Unedig. Dyma broblem sydd hefyd yn ymestyn ymhellach, tu hwnt i brofiadau menywod ‘straight’ gwyn, yn unig – a dwi’n meddwl bod hynny mor bwysig i gofio yn ein cymdeithas ni heddiw. Rwy’n gobeithio bod mudiad Reclaim These Streets yn llwyddo i gael effaith, ac arwain at newid uniongyrchol a pharaol o ran y ffordd mae menywod yn cael eu trin o fewn cymdeithas y Deyrnas Uniedig heddiw.’

 

Mae Heddlu Llundain wedi wynebu beirniadaeth hallt am y ffordd roeddent wedi ymateb, ac ymyrryd ar wylnos er cof am Ms Everard ar Gomin Clapham ddydd Sadwrn. Mynychodd yr heddlu’r wylnos ac arestio rhai o’r mynychwyr, un yn cynnwys Patsy Stevenson.

 

Mewn fideo ag ymddangosodd ar Twitter gan @counterfireorg, dywedodd Ms Stevenson wrth y camera ei bod yn ddigwyddiad – “To support any woman, where it be cis woman or trans woman, who cannot walk down the street by themselves because of the fear of men. It’s not all men, we know that, that’s not what we’re saying.”

 

Yn ystod y brotest, mae Ms Stevenson yn honni iddi gael ei thaclo i’r llawr gan swyddogion, ei gwthio i mewn i gerbyd, ac yna ei rhyddhau â dirwy, a adawodd iddi feddwl bod yr arestiad yn ddibwrpas.

 

Mae’r hawl i ymgynnull eisoes wedi’i gwtogi’n gan Ddeddf y Coronafeirws, ac mae Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd a gyflwynwyd yn San Steffan yr wythnos hon yn golygu gall hyn fynd yn fwy bregus.

 

Ynghyd â’r ymosodiadau ar brotest ddemocrataidd, mae’r bil yn cynnig gwaredu ‘pwerau stopio a chwilio’ newydd; symudiad i droseddu cymunedau Sipsiwn a Theithwyr trwy gryfhau deddfau tresmasu; a dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i atal troseddau cyllyll sy’n adleisio’r wyliadwriaeth a ddefnyddir yn y cynllun ‘PREVENT’.

 

Ar draws y mesurau hyn, cymunedau o leiafrifoedd ethnig a fydd yn cael eu hawliau a’u rhyddid yn cael eu cwtogi mwyaf. Ac mae rhai’n dadlau bydd y mesurau llym ar brotestiadau yn ei gwneud yn anoddach herio’r pwerau hyn, ac yn anodd cael eu lleisiau wedi’u clywed.

 

Bydd y pwerau a gyflwynir gan Fil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd hefyd yn rhoi grym i’r heddlu i benderfynu ble, pryd a sut y caniateir i ddinasyddion brotestio. Bydd hefyd yn cynyddu cosbau i’r rhai sy’n torri rheolau’r heddlu o fewn protestiadau. Mae’r hawl i brotestio yn hanfodol i bawb, ac yn enwedig goroeswyr trais, i ddal sefydliadau pwerus yn atebol.

 

Siwan Mason o brifysgol Caerdydd sy’n sôn am bwysigrwydd system ddemocrataidd;

 

‘Mae’n distawi lleisiau’r cyhoedd am yr hawl i leisio barn. Mae er budd pawb, bod San Steffan yn cael gwared Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd. Os na wnawn ni, mae gennym bopeth i’w golli.’

 

Heb brotest, ni all bobl ymladd dros yr hawl i dai diogel, i gynrychiolaeth gyfreithiol, i ddŵr glan, i addysg, i ofal iechyd neu i gyfiawnder atgenhedlu. Heb brotest, does dim modd ymgynnull mewn gwylnos am Sarah Everard nac atal dioddefwyr trais ar sail rhywedd yn y dyfodol.

 

Mae Gwenllian Quirke yn gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth sydd wrthi’n cael ei basio i leihau grym unigolion wrth geisio lleisio eu barn mewn protestiadau;

 

‘Rwy’n meddwl ei fod yn annerbyniol, fel menyw fy hun, yn gallu troi ei chefn ar achos sy’n effeithio ar ganran enfawr o fenywod ym Mhrydain. Os oes gan yr awdurdodau’r pŵer i gyd wrth geisio rhwystro protestiadau – sut ydym ni am gael ein llais wedi’i glywed ac atal trychinebau, fel yr hyn a ddigwyddodd i Sarah Everard?’

 

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php