Taf-Od

COVID-19: Beth fydd y trefn o rhan brechu?

Tarddiad: Elliott Cowand (drwy flickr)
Tarddiad: Elliott Cowand (drwy flickr)
Gyda frechlynnau cyntaf COVID-19 wedi eu rhoi, Aled Biston sydd yn edrych ar drefn y brechu a sut gall bywyd newif o fewn y misoedd nesaf.

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Ar ôl misoedd o aros yn amyneddgar, mae brechlyn COVID-19 wedi glanio ar dirwedd Cymru. Dros y misoedd i ddod bydd hyd at 1.4 miliwn o bobl i gael brechlyn COVID-19 yng Nghymru, tua hanner o bobl y wlad. Mae swyddogion yn paratoi ar gyfer un o’r rhaglenni iechyd fwyaf erioed ers sefydliad y GIG yn 1948. Ond, gyda’r brechlyn ar gael ac yn barod i’w ddosbarthu, sut y bydd yn cael ei gyflwyno a beth yw trefn y bobl fydd yn ei gael?

Dechreuodd y paratoadau yng Nghymru nol ym mis Mehefin, ac unwaith cafodd caniatâd, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r brechlynnau cyntaf dechrau wythnos diwethaf. Dyma foment hanesyddol i’r Gwasanaeth Iechyd wrth i’r broses o roi brechlynnau wlad yn cychwyn. Bydd pawb dros 50 oed yn cael cynnig y brechlyn yn ystod y misoedd nesaf i gychwyn. Ond pryd gall myfyrwyr disgwyl iddynt gael y brechlyn?

Ni ddylai myfyrwyr disgwyl iddynt fod ar dop y rhestr i dderbyn y brechlyn. Allan o’r deg grŵp o bobl sydd yn derbyn y brechlyn, mae myfyrwyr yn dod o dan y degfed grŵp, sef ‘Gweddill y boblogaeth’. Mae myfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd eraill sy’n cynyddu eu risg o salwch drwg neu farwolaeth, yn dod o dan chweched grŵp trefn brechu COVID-19. Trefn y grwpiau i gyd yw: 1. Trigolion oedrannus mewn cartrefi gofal a gweithwyr cartrefi gofal. 2. Pobl 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd gofal cymdeithasol. 3. Pawb yn 75 oed a hŷn. 4. Y rhai 70 oed a hŷn ac unigolion bregus yn glinigol. 5. Pobl 65 oed neu’n hŷn. 6. Unigolion 16-64 oed sydd â chyflyrau iechyd eraill sy’n cynyddu eu risg o salwch drwg neu farwolaeth. 7. Pawb sy’n 60 oed a hŷn. 8. Pawb sy’n 55 oed a hŷn. 9. Pawb sy’n 50 oed a hŷn. 10. Gweddill y boblogaeth.

O ran hyd amser ar gyfer y cynllun hwn, mae’n cymryd rhwng 10-12 wythnos i ddosbarthu 900,000 o frechlynnau ar gyfer y ffliw. Mae 1.4 miliwn o bobo yn y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechlynnau COVID. Amcangyfrifa bydd hi’n cymryd amser hir i frechlynnau Cymru gyfan, a bod angen i bawb cadw at reolau COVID gosodwyd gan Lywodraeth Cymru nes bod cyhoeddiad newydd o ran y camau nesaf wedi y broses o frechu.

Byddwn yn derbyn gwybodaeth gan y Gwasanaeth Iechyd pan ddaw ein hamser ni i dderbyn y brechlyn. Bydd pob bwrdd iechyd yn cael ei gyfran a bydd brechlynnau’n mynd ledled Cymru ar yr un pryd. Bydd canolfannau brechu torfol yn cael eu sefydlu- yn enwedig ar gyfer y set gyntaf o frechlynnau, yr mRNA o Pfizer- ac mae angen ei gad war dymheredd isel iawn.

Ond beth mae myfyrwyr yn meddwl o broses frechu COVID-19, a’r drefn maent yn cael eu dosbarthu. Dywedodd Dafydd Lewis “Mae’n wych bod y broses o frechu yn digwydd o’r diwedd. Mae llawer o waith ac ymchwil wedi mynd mewn i ddatblygu’r brechlyn yma, a dwi’n credu bod y cynllun dosbarthu yn un teg. Mae COVID wedi dwyn llawer o amser wrthym, felly pan ddaw’r cynllun i’w ddiwedd, gobeithio bydd normalrwydd yn parhau.”

Myfyrwraig sydd yn obeithiol bydd normalrwydd yn dychwelyd hefyd, yw Alaw Williams. “Fel myfyriwr, mae’r pandemig wedi rhwystro fy amser yn y brifysgol. Nid oeddwn yn disgwyl i fy mlwyddyn gyntaf dod i ben mor sydyn, gobeithio bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn gywir heb unrhyw broblemau a bydd pethau yn dychwelyd i normal cyn hir.” Yn sicr, dyma farn nifer o fyfyrwyr, enwedig y rhai oedd wedi dod i brifysgol llynedd neu eleni, mae yna deimlad bod yr elfen gymdeithasol o’u profiad wedi cael ei ddwyn.

Gellir dadlau y dylai myfyrwyr bod yn uwch yn y cynllun brechu. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cynlluniau i fyfyrwyr dychwelyd adfer a dod yn ôl i’r brifysgol dros y Nadolig, a gyda myfyrwyr ar draws Prydain i gyd yn astudio yng Nghaerdydd mae risg bod myfyrwyr yn cario’r feirws gyda nhw. Wrth ystyried bod y llywodraeth wedi creu cynlluniau ar gyfer myfyrwyr, pam nad ydynt wedi gosod myfyrwyr yn uwch ar y rhestr. Heb amau, mae pobl ifanc wedi bod yn darged hawdd yn ystod y pandemig am dorri rheolau a dim gwrando ar gyfyngiadau’r llywodraeth, felly os ydynt yn broblem, pam ddim eu brechu?

Yn amlwg, ond barn pobl yw hyn, ac mae’r llywodraeth wedi bod yn wyliadwrus wrth gynllunio rhestr brechu COVID-19. Pobl hŷn ein gwlad sydd gyda’r risg mwyaf o ddioddef symptomau’r feirws yn ddifrifol, ac felly eu hamddiffyn dylai fod y brif flaenoriaeth. Wrth i’r broses brechu digwydd, bydd dal angen i ni gadw at y cyfyngiadau gosodwyd gan y llywodraeth, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Mae’r cynllun wedi rhoi yn ei le, mae’r brechlynnau yn cyrraedd tirwedd Cymru ac mae gobaith wedi ymddangos, mae’n edrych fel bod yr haul o’r diwedd wedi dod ar y bryn. Ond bydd dal angen i ni gadw at y cyfyngiadau, nid broses byr yw hwn.

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php