Taf-Od

Cryfhad yn safonau iaith y Prifysgolion

Tarddiad: Ismail Mia

Gan Osian Morgan

Ar y 15fed o Ragfyr, cyhoeddwyd ail ddrafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg a fydd yn gosod safonau ieithyddol ar sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch Cymru. Roedd rhaid i’r llywodraeth greu ail ddrafft o’r safonau o ganlyniad i’r ffaith y gwrthodwyd y rheoliadau cyntaf fis Mawrth diwethaf, pan bleidleisiodd yr wrth bleidiau yn erbyn y rheoliadau a grëwyd gan y llywodraeth Lafur. Ar ôl ymgynghori gyda chynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, penderfynodd yr wrth bleidiau nad oedd y safonau yn ddigonol, ac y dylid eu gwrthod er mwyn sicrhau bod mwy o amser i graffu ar y safonau, ac er mwyn sicrhau fod y llywodraeth lafur yn ymgynghori gyda myfyrwyr Cymraeg.

Tra’n ail lunio’r safonau, ymgynghorodd y llywodraeth gydag amryw o gyrff, gan gynnwys UCM Cymru. Gwnaethpwyd llawer o newidiadau i’r rheoliadau wrth eu hail-lunio. Ychwanegwyd cymal yn rhoi hawl i fyfyrwyr fynegi dewis am lety penodedig Cymraeg, a sicrhau fod y sefydliadau yn hyrwyddo’r hawl hynny i’w darpar fyfyrwyr. Ychwanegwyd cymal yn golygu bod y safonau am gael eu gosod ar ganolfannau celfyddydau’r prifysgolion, megis Canolfan Pontio ym Mangor. Yn ogystal, mae’r rheoliadau diweddaraf yn rhoi hawl i fyfyrwyr gael mynediad i fewnrwyd Cymraeg, a derbyn tiwtor personol Cymraeg ei iaith.

Croesawyd y newidiadau gan Bwyllgor Iaith Gymraeg UCM Cymru, a ddywedodd:

“Credwn fod y rheoliadau yn rhai cryf a digonol, a chredwn, fel corff sy’n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr, fod y rheoliadau bellach yn ddigon derbyniol i’w rhoi ger bron y Cynulliad.

“Fel corff sy’n ymdrechu’n ddiflino i gynrychioli myfyrwyr Cymru i gorau ein gallu, ymfalchïwn yn y rôl y chwaraeasom er mwyn sicrhau fod y rheoliadau a fydd yn cael eu gosod ar sefydliadau AB ac AU Cymru yn rai digonol a theg.

“Yn sgil rôl UCM Cymru yn y broses o lunio safonau, mae newidiadau cadarnhaol wedi eu gwneud wrth ail-lunio’r safonau, a fydd yn rhoi mwy o gyfleodd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr ddefnyddio’u Cymraeg o fewn y sector Addysg Uwch, ac ymfalchïwn yn hynny.”

Fodd bynnag, cyhoeddwyd y safonau ychydig o wythnosau ar ôl i Alun Davies AC, y gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes gyhoeddi ei fod yn bwriadu adolygu’r broses o lunio a gosod safonau, fel rhan o adolygiad ehangach ar bolisi iaith Gymraeg. Mae’r penderfyniad hyn wedi derbyn ymatebion amrywiol gan y Cymry Cymraeg. Dywedodd cynrychiolydd o UCM Cymru:

“Er ein bod yn ffyddiog y bydd y safonau hyn am gael effaith cadarnhaol ar fywydau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr yn sefydliadau AB ac AU Cymru, rydym yn croesawu’r ffaith fod y llywodraeth yn ystyried ffyrdd gwahanol i hyrwyddo’r Gymraeg, a hwyluso’r defnydd ohoni. Rydym yn agored i unrhyw bolisi a fydd yn fuddiol i’r myfyrwyr Cymraeg yr ydym yn eu cynrychioli, cyn belled nad ydynt yn gwanhau’r effaith cadarnhaol fydd y rheoliadau hyn yn cael ar fyfyrwyr Cymru”

css.php