Taf-Od

Cyfweliad gyda’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams

Gweinidog Addysg Kirsty Williams
Gweinidog Addysg Cymraeg Kirsty Williams. Tarddiad: Liberal Democrats (o Flickr)
Wnaeth Gweinidog Addysg Kirsty Williams trafod gyda Gair Rhydd i drafod y mesurau nesaf i fyfyrwyr yn ystod y pandemig coronafeirws, dyfodol disgyblion Lefel A a TGAU ac agor fwy o ysgolion Gymraeg.

By Tirion Davies | Editor-in-Chief

Roedd Haf 2020 yn llawn ansicrwydd i nifer. Cafwyd ansicrwydd ynglŷn â’r system graddio newydd i fyfyrwyr Lefel A a TGAU – er, bu’r penderfyniad am y system wedyn yn cael eu gwaredu arno. I nifer o fyfyrwyr, y newid i weithio ar lein yn y brifysgol oedd y newid mwyaf.

Wrth i fesurau Llywodraeth Cymru barhau i newid, bu rhaid i ysgolion a phrifysgolion ledled Cymru addasu. Ond, i nifer o fyfyrwyr, mae’r newidiadau i reoliadau’r Llywodraeth, a’r newidiadau i gynlluniau’r prifysgolion wedi’u gadael nhw’n ansicr am ba fath o addysg maen nhw am dderbyn eleni.

Wrth drafod gyda’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, derbyniodd Gair Rhydd fwy o wybodaeth am y newidiadau sydd i’w dod ym mhrifysgolion Cymraeg, yn ogystal â dyfodol yr iaith ac addysg i’r rhai sy’n astudio’u Lefelau A a TGAU eleni.


Dysgu ar-lein

Ar ddechrau mis Mawrth, dechreuodd Prifysgol Caerdydd y newid i ddysgu ar-lein, yn dilyn argymhelliad gan Lywodraeth Cymru, ac yn fuan cyn dechrau’r cyfnod clo cenedlaethol.

Erbyn dechrau mis Medi, roedd cydymdeimlad y bydd myfyrwyr yn dechrau’r tymor newydd yn y brifysgol heb lawer o newid o’r blynyddoedd cynt. Ond erbyn hyn, rydym yn ymwybodol mai dysgu ar-lein bydd y mwyafrif o’r addysg a geir eleni.

Mae nifer wedi teimlo bod y newid i ddysgu ar-lein wedi bod yn anodd, ac i nifer, nid oes ganddyn nhw’r offer addas i gyflawni eu gwaith yn llwyddiannus.

Gofynnodd Gair Rhydd i’r Gweinidog Addysg os bydd nifer o ffyrdd o ddysgu yn ymddangos, neu os mai dysgu ar-lein yn unig fydd y broses o ddysgu eleni.

Sonia’r Gweinidog bod “pob prifysgol yn gweithio ar ffordd o ddysgu cymysg llwyddiannus, ac wrth gwrs, bydd rhaid i’r system yma fod o dan arolygiad aml; mae’n rhaid ein bod yn ofalus o’r adrannau iechyd sydd”.

“Mae’n wych bod modd edrych ar gyfryngau cymdeithasol i weld bod nifer o gyfleoedd wyneb-yn-wyneb ar gael ar hyn o’r bryd”.

Pan ofynnodd Gair Rhydd os bydd yna fwy o fesurau’n cael eu cyflwyno i gynorthwyo myfyrwyr sy’n ceisio dechrau gweithio ar-lein am y tro cyntaf, dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n “bwysig bod prifysgolion yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymdopi dan y mesurau newydd.”


Iechyd meddwl myfyrwyr

Wrth gwrs, mae iechyd meddwl yn hollbwysig i bob un yn ystod y cyfnod clo. Mae’n siŵr bod myfyrwyr sy’n symud o adref am y tro cyntaf hefyd yn gorfod delio gyda phryder.

Dros yr haf, bu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn diarddel y gwasanaeth cyngor i fyfyrwyr, yn dilyn cyfnod o alw uchel lle ni ellir delio.

Gofynnodd Gair Rhydd i’r Gweinidog Addysg os gall myfyrwyr ddisgwyl mwy o gymorth iechyd meddwl dros y cyfnod nesaf yma.

Gwnaeth y Gweinidog gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn “trafod gyda’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch i fonitro’r sefyllfa ym mhrifysgolion unigol.”

“Rydym wedi sicrhau bod £27 miliwn ychwanegol ar gael i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch, ac wedi sicrhau bod pwysigrwydd iechyd meddyliol fyfyrwyr yn cael ei hystyried”.

“Mae’n rhaid cofio bod nifer o fyfyrwyr yn atodi eu hincwm yn aml trwy swyddi rhan-amser bod nifer wedi colli’r cyfle i wneud eleni, ac mae’n debygol na fydd y swyddi hynny ar gael erbyn i fyfyrwyr gyrraedd Caerdydd.”

“Y gobaith yw bydd bach o’r arian sy’n mynd i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yna er mwyn rhoi cymorth i fyfyrwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael profiad diogel tra yn y brifysgol, naill ai yng Nghaerdydd, neu ym mhrifysgolion eraill Cymru”.


Ffioedd dysgu

Awgrymodd y Gweinidog Addysg, wrth ateb cwestiwn gan Gair Rhydd mewn cynhadledd i’r wasg gan y Llywodraeth, ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl ad-daliad i ffioedd dysgu.

“Ar hyn o’r bryd, dwi ddim yn teimlo gallwn ni disgwyl ad-daliadau llawn” dywedodd Williams.

Mae’r penderfyniad i beidio cynnig ad-daliadau ffioedd dysgu wedi’i ystyried yn ddadleuol, yn enwedig yn dilyn gwaharddiad dros dro o ddysgu wyneb-yn-wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth dechrau’r wythnos yma.

Bu’r blaid Ceidwadwyr Cymru yn arwain dadl yn y Senedd yn ddiweddar i leihau ffioedd dysgu myfyrwyr ar ôl i brifysgolion newid i weithio ar lein.

Yn ôl y Gweinidog, “mae’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yn rheoleiddio ansawdd yr addysg uwch ac yn adrodd yn gyson” i’r Gweinidog.

Os oes pryderon gan fyfyrwyr, dylai bod myfyrwyr yn “codi [eu pryderon] gyda’u sefydliadau personol”.


Disgyblion Lefel A a TGAU

Wrth gwrs, am nifer o gyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd, mae arholiadau wedi cael eu hamnewid i asesiadau gwahanol. Ni ddigwyddodd y newid yma i ddisgyblion TGAU a Lefel A yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, lle defnyddir graddau darogan.

Cafwyd nifer o bryderon am y ffordd yr oedd y canlyniadau TGAU a Lefel A wedi’i asesu gan y Llywodraeth. Pan ofynnwyd i’r Gweinidog pa fath o asesiadau bydd yn parhau i ddisgyblion eleni, dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn gobeithio bydd arholiadau’n cael eu sefyll eleni.

Er mae’n debyg bydd y pandemig yn amharu ar addysg dros y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn archwilio i ddulliau gwahanol o asesu ar gyfer TGAU a Lefel A.

Mae ymchwiliad wedi dechrau gan Brifysgol Agored Cymru i asesu’r ffordd gwnaeth Llywodraeth Cymru ddelio gyda’r broblem arholiadau dros yr haf. Bydd canfyddiadau’r ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref.


Ysgolion Cymraeg

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, ac mae yna alw gan nifer ar draws De Cymru i agor mwy o ysgolion Cymraeg ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, er bod angen agor mwy o ysgolion Cymraeg, mae hefyd rhaid gwella’r addysg Gymraeg yn ysgolion Saesneg ledled Cymru os ydym yn gobeithio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

“Rydym yn barod yn gweld bod mwy a mwy o blant yn derbyn eu haddysg trwy’r Gymraeg, ac yr wyf yn hyderus gallwn ni gyrraedd ein targed hanner tymor. Ond wrth gwrs, nid ond mater o sicrhau bod nifer o ysgolion Cymraeg yw hi – mae’n rhaid gwella’r addysg Gymraeg sydd yn ysgolion Saesneg.”

Ychwanegodd y Gweinidog, “ni ddylai bod amddiffyn yr iaith yn swydd yn unig i’r plant sy’n derbyn addysg Gymraeg; mae’r iaith yn bwysig i bob plentyn, ac wrth i ni barhau gyda’r cwricwlwm newydd, mae sicrhau bod plant yn dysgu’r iaith, a bod mwy o blant yn gadael yr ysgol gyda’r gallu i weithio trwy’r ddwy iaith yw’r nod i ni”.


Mae disgyblion ar draws Cymru yn awyddus i dderbyn rhywfaint o fewnwelediad i’r hyn sydd i ddod eleni.

Er bod nifer o faterion dal i newid o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, mae bach mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru yn siŵr o helpu mwy o fyfyrwyr.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php