Taf-Od

Cymru ar y blaen gyda’r rhaglen frechu

Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen yn y DU gyda'r rhaglen frechu ac wedi rhoi'r ddos gyntaf i dros draean o'r boblogaeth.
Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen yn y DU gyda'r rhaglen frechu ac wedi rhoi'r ddos gyntaf i dros draean o'r boblogaeth. Tarddiad: Asian Development Bank (trwy flickr).
Ar hyn o bryd mae Cymru ar y blaen yn y DU gyda'r rhaglen frechu ac wedi rhoi'r ddos gyntaf i dros draean o'r boblogaeth.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i frechu traean o’i phoblogaeth gyda’r brechlyn Covid-19. Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad ar yr 19eg o Chwefror bod 839,065 o boblogaeth Cymru wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn hyn, ffigwr sy’n cyfateb i 33.3% o’r boblogaeth.

Mae hyn yn uwch na’r ffigyrau ar draws gweddill y Deyrnas Unedig sef 32.1% yn Lloegr, 31.3% yn yr Alban a 29.4% yng Ngogledd Iwerddon.

Yn ogystal â hynny, mae’r ail ddos wedi cychwyn cael ei ddosrannu i rai unigolion gyda 25,433 wedi derbyn eu hail ddos erbyn y 19eg o Chwefror.

Mewn cynhadledd i’r wasg dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Yr wythnos hon, fe ddechreuon ni gynnig apwyntiadau i bobol ar gyfer yr ail ddos ac mae mwy na 25,000 o bobl eisoes wedi cael eu rhai nhw.”

“Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir nesaf, i gynnig brechiad i bawb mewn grwpiau blaenoriaeth pump i naw erbyn diwedd mis Ebrill, ar yr amod bod cyflenwadau brechlynnau hefyd yn parhau ar y trywydd iawn.”

Yn sicr, er bod Cymru ar y blaen hyd yn hyn mae dal llawer o ymdrech i’w wneud er mwyn sicrhau bod llwyddiant y rhaglen frechu yn parhau. Amlygodd y prif weinidog y pwynt yma yn ystod y gynhadledd ble cyhoeddodd y byddai’r cyfyngiadau aros adref yn aros mewn lle am o leiaf tair wythnos arall tra bod y brechu yn parhau.

Dywedodd nad yw’n disgwyl y bydd llacio sylweddol yn y cyfyngiadau nes gwyliau’r Pasg yn y man cynharaf. Bydd y cyfyngiadau’n cael eu hailasesu ar Ebrill yr 2il, cyn y Pasg sy’n disgyn ar benwythnos cyntaf mis Ebrill.

Ar hyn o bryd mae tua 100 o bobl i bob 100,000. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol o’r 600 ym mhob 100,000 oedd yn dioddef o’r feirws ar gychwyn y cyfnod clo ym mis Rhagfyr. Mae’n amlwg, felly, bod y cyfnod clo ynghyd a’r rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiannus yn gostwng yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.

Dywedodd y prif weinidog y canlynol am gychwyn llacio’r cyfyngiadau:

“Os gallwn ni fwrw ymlaen i adeiladau ar y llwyddiant yna… galla i weld llwybr tan y Pasg ble gallwn ni ddechrau yn ofalus i lacio’r cyfyngiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.”

Ymateb Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i hyn oedd

“Er bod dull gofalus o ddod allan o’r cyfyngiadau symud yn synhwyrol, mae angen i ni hefyd darparu map a llwybr clir i adferiad i bobl ledled Cymru,”

Tra dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru:

“Er bod dull gofalus o ddod allan o’r cyfyngiadau symud yn synhwyrol, mae angen i ni hefyd darparu map a llwybr clir i adferiad i bobl ledled Cymru,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.”

“Dylid llacio’r cyfyngiadau yn ofalus mewn modd synhwyrol – byddai’n dda ailgyflwyno’r neges ‘aros yn lleol’ cyhyd ag y bo angen.”

Mae Cymru o flaen y targed gwreiddiol oedd wedi ei osod ar gyfer y rhaglen frechu. Erbyn hyn maent yn anelu i gynnig y dos cyntaf o’r brechiad i bob oedolyn yng Nghymru erbyn y 31ain o Orffennaf.

Mae hyn cwpl o fisoedd yn gyflymach na’r targed gwreiddiol sef i gynnig y dos gyntaf i bob oedolyn erbyn yr Hydref.

Ar hyn o bryd mae’r brechlyn yn cael ei roi i’r grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 meddai’r swyddog iechyd Vaughan Gething mewn cynhadledd. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys pobl rhwng 50 a 69 oed, pobl dros 16 oed gyda chyflwr iechyd sylfaenol sy’n cynyddu’r risg iddyn nhw o gael salwch difrifol petaent nhw’n dal coronafeirws a gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am berson sy’n fregus yn glinigol.

Y gobaith yw brechu’r grwpiau hyn erbyn canol mis Ebrill. Dywedodd Vaughan Gething:

“Yn ddibynnol ar gyflenwad y brechlyn, byddwn wedi cyrraedd yr holl bobl hyn erbyn canol Ebrill.”

Yn y gynhadledd cyhoeddodd hefyd y bydd profion rheolaidd yn cael eu cynnal i weithwyr mewn gweithleoedd risg uchel ble bydd canlyniadau’n cael eu rhoi mewn hanner awr. Mae hyn yn berthnasol i weithleoedd o fewn cyrff cyhoeddus a phreifat sy’n cyflogi dros 50 o unigolion.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniad i beidio â chynnwys athrawon a staff ysgol fel grŵp sy’n cael eu blaenoriaethu yn y rhaglen frechu. Mae mwy o bwyslais wedi ei rhoi ar brofi mewn ysgolion yn hytrach na brechu ar hyn o bryd.

Mae tystiolaeth sylweddol felly bod y cyfnod clo a’r rhaglen frechu wedi llwyddo i ostwng y nifer o achosion yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid cymryd gofal gan fod posibilrwydd i’r achosion coronafeirws newid yn gyflym. Er hynny, ar hyn o bryd mae hanner olaf 2021 yn edrych yn lawer fwy gobeithiol o gymharu â llynedd. Dim ond amser gall ddangos ai fydd yr achosion yn parhau i ostwng digon i alluogi i’r wlad fynd yn ôl i normalrwydd.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php