Taf-Od

Cymru yn cyrraedd y brig

Herio'r goreuon: Efallai bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg tymor nesaf. Tarddiad: Bob Mewse (drwy flickr)
Herio'r goreuon: Efallai bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg tymor nesaf. Tarddiad: Bob Mewse (drwy flickr)
Wedi gemau olaf Cymru yn Gynghrair y Genhedloedd UEFA eleni, mae tîm Ryan Giggs wedi cael ei dyrchafu i Gynghrair A ar gyfer tymor nesaf.

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Wedi perfformiadau campus Cymru yn Gynghrair y Cenhedloedd UEFA eleni, mae tîm Ryan Giggs wedi ennill dyrchafiad i gynghrair A ar gyfer y gystadleuaeth blwyddyn nesaf. Golyga hyn bydd Cymru mewn cynghrair gyda thimoedd megis Yr Almaen, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc, ac yn chwarae lefel uchaf posib yn nhermau pêl-droed rhyngwladol Ewrop. Yn ogystal, mae Cymru yn fwy na thebygol o gael safle yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2022, ac os ydynt yn ennill, bydd lle iddynt yn Qatar ar gyfer cystadleuaeth fwyaf y byd.

Yn dilyn perfformiadau dawnus yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir, gorffennodd Cymru ei ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ar frig y grŵp, wedi ond ildio un gôl yn 4 gêm. Yn y gemau yn erbyn Y Weriniaeth a’r Ffindir, sgoriodd Brooks, Wilson, James a Moore, mewn dau berfformiad oedd yn dangos bygythiad ymosodol Cymru. Braf oedd gweld Brooks yn dychwelyd i’r garfan a sgorio, mae ei chwarae creadigol yn allweddol wrth ryddhau’r asgellwyr a Moore tu ôl yr amddiffyn. Bydd cael ef yn ffit ar gyfer yr EWROS yn un opsiwn o nifer i chwarae tu ôl i’r ymosodwr.

Efallai’r ystadegyn mwyaf anhygoel am ymgyrch Cymru, oedd y perfformiadau amddiffynnol y garfan. Mae ond ildio un gôl trwy gydol yr ymgyrch yn drawiadol, ond mae hyd yn oed yn fwy trawiadol pan chi’n cymryd i ystyriaeth bod amddiffyn Cymru yn amrywio yn y pedair gêm. Gwelwyd unarddeg chwaraewr gwahanol yn amddiffyn Cymru ar draws y gemau, a newid mewn ffurf y tîm. Fel arfer mae angen cysondeb mewn tîm er mwyn cael llechi glân yn barhaol, mae newid dynameg a threfn y tîm yn anodd cadw cysondeb a threfniant yn eu chwarae. Os gall Cymru sicrhau bod ei mur amddiffynnol yn parhau i fod yn gadarn, does dim rheswm pam bod amddiffyn Cymru gallu fod yn un o’r gorau yn Ewrop.

Mae’r cyfnod yma yn un cyffrous i bêl-droed Cymru, mae ansawdd y perfformiadau a hyfforddi wedi gwella yn y pum mlynedd diwethaf, a gyda charfan cymharol ifanc sydd dal i ddysgu a datblygu gyda’u clybiau, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair. Wrth ystyried safon chwarae Cymru o 2000 i tua 2012, roedd y safon yn warthus. Ar un adeg, roedd Cymru rhif 111 yn safle’r byd, o dan Ynysoedd Ffaroe a thimoedd oedd gyda lot llai o adnoddau y neu gymdeithas bêl-droed. Mae fel petai fod cefnogwyr Cymru yn gwylio gwlad cwbl wahanol yn y blynyddoedd diwethaf, a ni fydden nhw eisiau i’r cyfnod dod i ben.

Nid yw’r dyfodol wedi edrych yn fwy disglair i Gymru, ac mae hynny oherwydd y system a osodwyd gan y Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru. Osian Roberts yw’r hyfforddwr sydd yn cael y mwyaf o sylw a chanmoliaeth am sefydlu a gweithredu’r system sydd wedi datgelu chwaraewyr fel Matt Smith, Daniel James ac Ethan Ampadu. Mae’r chwaraewyr yma wedi dod trwyddo’r timoedd ieuenctid i sefydlu eu hunain yn y tîm cyntaf. Mae’r system yma ond wedi bod mewn lle ers cwpl o flynyddoedd hefyd, a hir iddi barhau! Wrth ddod a chwaraewyr ifanc mewn trwy’r system, byddent yn dod yn gyfarwydd â’r system hyfforddi gosodwyd gan Gymru, ac yn nabod y steil o chwarae yn dda. Hyd at hyn mae’r system wedi cyflwyno yn union hynny.

Os i ni’n edrych ar safon a sefyllfa’r garfan ar hyn o bryd, gallwn weld bod y garfan yn addawol ar gyfer y dyfodol, a bydd cael y profiad o chwarae mewn twrnament rhyngwladol yn ymarfer rhyngwladol da iddynt, a phrofiad mae chwaraewyr Cymru’r gorffennol heb gael. Efallai dyna le mae’r diffyg profiad wedi bod yn y gorffennol, sydd wedi rhwystro Cymru rhag datblygu ar ddechrau’r degawd. Yn sicr, bydd profiad yr EWROS blwyddyn nesaf yn cynyddu profiad a hyder y chwaraewyr ar gyfer y dyfodol.

Wrth drafod hyder, yn bendant bydd y garfan yn hyderus ar hyn o bryd. 10 gêm heb golli, 7 llechan lân a hefyd sgorio llawer o goliau. Mae cyfnodau Speed, Coleman a Giggs wir wedi trawsnewid Cymru, nid yn unig y neu berfformiadau ond o ran athronydiaeth y tîm cenedlaethol. Gary Speed oedd y cyntaf i uno’r garfan wir, gan osod seiliau athronyddol a steil chwarae. Fe wnaeth Coleman adeiladu ar hynny, a gwneud swydd wych trwy gymryd Cymru i’r EWROS am y tro cyntaf, ac mae Giggs wedi parhau gyda gwaith Coleman ers iddo adael.

Er nad ydynt gallu mynychu gemau ar hyn o bryd, mae pob un fricsen o’r Wal Goch yn gefnogol o’r chwaraewyr ar y cae. Nid ydym yn siŵr os bydd cefnogwyr gallu mynychu’r EWROS blwyddyn nesaf, ond bydd gweld y tôn o goch yn yr eisteddle yn gyfnerth enfawr i Gymru. Croesi bysedd bydd golygfeydd tebyg i’r EWROS yn 2016 yn cael eu hailadrodd ar draws Ewrop yn haf 2022.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php