Gan Nel Richards
‘Coronafeirws’: gair rydym wedi’i glywed hen ddigon ohoni erbyn hyn; ond ydy’r pandemig yma wedi trechu calon Cymru? Yr amgueddfeydd a’r theatrau wedi gorfod cau, gigs cerddoriaeth byw wedi’u gohirio a cholli allan ar ddarllen a gwerthu llenyddiaeth Gymraeg. Yr oll yma yn clymu’n hiaith i’w thir a’i chymuned at ei gilydd.
Felly, beth yw effaith y pendemig hon ar gelfyddydau Cymru?
Mewn cyfweliad ar Radio Cymru, pryderodd Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon fod y sector diwylliannol yng Nghymru
“wir angen cymorth ar frys”.
Roedd yn ofidus am ddyfodol canolfannau, megis Galeri, oedd yn rhedeg yn eithaf annibynnol ers y cychwyn, ond ers i’r feirws fwrw’r wlad, yn dibynnu ar gymorth ariannol oddi wrth y Llywodraeth i adfywio’r lle. Amcangyfrifwyd fod Galeri Caernarfon ar ei cholled o tua £1m rhwng Hydref a Mawrth nesa, sydd, yng ngeiriau Gwyn Roberts
“ddim yn gynaliadwy”.
Yn yr un modd, dywedodd Gwennan Mair Jones, cyfarwyddwraig creadigol Theatr Clwyd, Dinbych ar Radio Cymru, fod y
“celfyddydau’n ynghlwm ynom ni, y Cymry”,
Wrth boeni am ddyfodol theatrau, yn enwedig yr ochr ariannol. O ganlyniad i’r ymbellhau cymdeithasol, nid yw theatrau lleol wedi cynnal perfformiadau byw ar lwyfan. Rhwystr mawr yw hyn i ganolfannau Cymreig mwyaf Cymru.
Yn ddiweddar, agorwyd Cronfa gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi £53m yn y sector diwylliannol. O’r swm yma, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn derbyn £25.5m er mwyn adfywio’r celfyddydau ar draws y wlad, ac i liniaru’r golled sydd wedi bwrw’r diwydiant. Bydd yr arian yma’n mynd at daclo caledi economaidd a’r newyn diwylliannol.
Er y cymorth sydd ar gael, nid yw rhai canolfannau, megis Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd wedi agor eu drysau ac ni fydd am fisoedd ragor, gan roi 250 o swyddi ar risg.
Yn sgil hyn, a nifer o achosion eraill, mae pryder wedi codi yn y Senedd. Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, taw ‘y celfyddydau yw’r diwydiant sy’n creu’r Gymru newydd a’r wyneb mae gweddill y byd yn ei weld’. Dengys hyn bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol y celfyddydau.
Sut y mae’r gymdeithas wedi addasu i’r cyfnod clo?
Gyda thechnoleg y wê mae rhai o bob cwr o’r byd wedi manteisio a chael blas o’n diwylliant gwahanol; a mynediad i restr hirfaith o wyliau cerddorol Cymraeg: Eisteddfod T, Tafwyl, Maes B o bell, Amgen, a hyd yn oed rhaglenni teledu. Mae platfform i bawb cael mynediad at gelfyddyd.
‘Ym mhob angen, mae dyfeisgarwch’.
‘Côr-ona’ yw un creadigaeth o’r cyfnod diweddar, gyda dros 46,000 o ddilynwyr ar Facebook, sydd yn rhannu a derbyn fideos o rai yn canu, nid yn unig o Gymru, ond o bob cwr o’r byd; gan ddangos diwylliant cyfoethog Cymru ar ei orau. Felly, mae’r pandemig hon wedi ysgogi pobl i droi’n fwy creadigol, mewn un ffordd, a chynnal perthynas gyda chelfyddyd y wlad.
Gweithdai trwy Zoom yw un ffenomena sydd wedi cadw sawl un yn brysur yn ystod y cofnod clo, boed yn greadigol neu’n addysgiadol. Mae’r cylchgrawn Codi Pais (Lowri Ifor, Manon Dafydd a Casi Wyn) wedi sbarduno merched Cymru, wrth gynnal sesiynau creadigol wythnosol, ar y cyd â Pontio Bangor, i ysgrifennu, casglu, creu dawns a chelf; a sefydlu cymuned wedi selio ar gelfyddyd. Mae ei prosiect, Codi Pontydd, yn ysgogi merched ifanc Cymru i weithredu’n fwy creadigol gan roi llwyfan i syniadau’r genhedlaeth iau.
Er fod y wlad hon wedi gorfod brwydro mewn cyfnod tywyll iawn yn ystod y misoedd diwethaf, diolch i dechnoleg, mae rhan o’r celfyddydau wedi goroesi a rhai wedi datblygu ac eraill dioddef.
Cynnal perfformiadau byw fydd y rhwystr mawr nesaf fydd yn wynebu cefnogwyr y celfyddydau.
Add Comment