Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od
Mae’r mis yma’n gyfle i gysylltu, hysbysu a chyffroi pawb am amrywiaeth cymuned LGBTQ+.
Ystyr y term yma yn Saesneg yw Lesbian, Gay, Bi, Trans a Queer, a’r ‘+’ yn cael ei ddefnyddio yn symbol cynhwysol i gynnwys pobl o hunaniaethau gwahanol.
Meddwl, Corff ac Ysbryd
Thema’r mis yma yw’r ‘meddwl, corff ac ysbryd’. Cynhelir gweithgareddau sy’n ffocysu ar yr agweddau gwahanol o’r mudiad LGBTQ+.
Yn amlwg, gan fod trafod wedi bod yn ddigidol y flwyddyn hon, dyma gyfle i wrando ar farddoniaeth dros zoom, neu sgyrsiau ar lein o foethusrwydd eich cartref. Mae’r calendr yma wedi’i lenwi â llu o weithgareddau sy’n addas i bawb.
Dyddiau gwell i ddod?
Er ar hyd y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod newidiadau mawr a chynnydd arwyddocaol ar lefelau cyfreithiol a chymdeithasol – megis cyfreithloni priodas hoyw – mewn cysylltiad gyda hawliau pobl LGBTQ+, yn anffodus nid oes eto haul ar fryn.
Yn ôl arolwg gan y Llywodraeth, mae aelodau o’r gymuned LGBTQ+ :
- yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl
- mewn mwy o berygl o brofi troseddau o gasineb (o gymharu â phobl heterorywiol) gyda rhai grwpiau penodol, yn cynnwys dynion hoyw, pobl ifanc a grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig.
Yn ôl ‘Human Dignity Trust’, mae yna 72 trosedd o ‘weithgareddau rhywiol gyda phobl o’r un rhyw’. Llofruddiwyd 331 o bobl drawsrywiol a ‘gender diverse’ yn 2019 yn ôl grwp ‘Transrespect’. Wrth barhau i ymladd, mae codi ymwybyddiaeth fel y mis hwn yn cynnal momentwm ac yn dod â’r materion yma i sylw’r boblogaeth.
Marsha P. Johnson
Dyma un o’r ymgyrchwyr amlycaf sy’n ymladd dros hawliau a rhyddid drawsrhywiol ac ymwybyddiaeth AIDS; roedd hefyd yn berfformwraig drag ac yn ffigwr amlwg yn nherfysgoedd Stonewall, 1969.
Er bod terfysgoedd Stonewall wedi sbarduno’r don hon o gefnogaeth i’r gymuned LGBTQ +, roedd llawer o wrthwynebu ac atgasedd yn eu herbyn yn parhau.
Sefydlodd Marsha a’i ffrind Sylvia Rivera, a oedd hefyd yn actifydd, STAR – Street Transvestite Action Revolutionaries – sefydliad i gefnogi unigolion hoyw a thraws-rhywiol digartref.
Ymroddodd Marsha i helpu eraill, er gwaethaf dioddef salwch meddwl.
Pwysig yw cofio, a dysgu am hanes ysbrydoledig unigolion megis Marsha Johnson, gan sicrhau na aiff ei gwaith da a blaengar yn angof.
Hir yw’r daith
Wrth ddysgu ac wrth gofio, mae’r mis yma’n gwneud i ni sylweddoli ein bod wedi dod yn bell, er fod y daith i gydraddoldeb yn un faith. Cofiwch roedd bod yn hoyw cyn 1967 yn drosedd ym Mhrydain ac yn dal i fod mewn llawer o wledydd led led byd.
Un rheswm yr ydym wedi cyrraedd rhywfaint o oddefgarwch yw bod ymgyrchoedd dros hawliau wedi bod yn llwyddiannus. Mae straeon yr ymgyrchwyr eofn a dewr yma yn ysbrydoliaeth i gymdeithas heddiw. Cymdeithas sy’n derbyn pawb, beth bynnag eu rhyw, rhywedd, lliw eu croen a’u hedrychiad, eu hanabledd, crefydd, hil, oedran a’u tras.
Add Comment