Taf-Od

Dyfodol ansicr i glybiau’r Cymru Premier

Problemau: Caernarfon ac Aberstwyth yw ddau o nifer o glybiau sydd gyda dyfodol ansicr. Tarddiad: Colin Ewart (drwy flickr)
Problemau: Caernarfon ac Aberstwyth yw ddau o nifer o glybiau sydd gyda dyfodol ansicr. Tarddiad: Colin Ewart (drwy flickr)
Gyda nifer o glybiau yn y Cymru Premier yn gwynebu problemau ariannol, Aled Biston sydd yn edrych ar beth yw dyfodol nifer o glybiau'r gynghrair.

Gan Aled Biston | Pennaeth Cynnwys Cymraeg

Roedd nifer o glybiau’r Cymru Premier yn gweld y cyfnod clo cyntaf yn anodd, gyda gemau yn cael eu gohirio a dim incwm gan gefnogwyr, ac mae hynny dal i ddigwydd gan nad oes hawl gan gefnogwyr mynychu gemau. Mae’r clo byr yn golygu na fydd llawer o dimau gallu chwarae am y pythefnos nesaf, baich ychwanegol iddynt.

Gan fod nifer o glybiau yn y Cymru Premier ddim yn broffesiynol, mae incwm clybiau yn dibynnu ar y cefnogwyr, ond oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid oes hawl gan gefnogwyr i fynychu gemau’r gynghrair ar hyn o bryd. Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn cael tua £3,000 pob gêm trwy werthu tocynnau, mae hyn yn golled ariannol anferth iddynt. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi creu cynlluniau er mwyn galluogi cefnogwyr i ddychwelyd i’r Oval, Maes Tegid a mwy o stadiymau y tymor yma.

Mae diffyg arian yn broblem sydd yn peri gofid i nifer i glybiau’r gynghrair. Er bod pob clwb wedi cael grant o £20,000 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ond mae’r Gymdeithas ei hun yn dioddef yn ariannol hefyd. Mae Paul Evans, Cadeirydd Caernarfon wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw, byddent yn lwcus i bara hyd at fis Ionawr, ac eu bod nhw methu para tan ddiwedd y tymor lle bydd 32 gêm yn cael ei chwarae.

Ond pam bod cefnogwyr ddim yn cael mynychu gemau? Mae system lwyddiannus wedi datblygu yn ‘non-league’ Lloegr, lle mae hawl i 300 o gefnogwyr mynychu gemau gan bellhau’n gymdeithasol. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn edrych at greu system debyg? Mae’r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts wedi galw ar y llywodraeth i adael cefnogwyr mewn, gan gymryd bod system lle caniatawyd pellhau cymdeithasol.

Daw cic arall i glybiau’r gynghrair, wrth i’r clo byr amharu ar gemau ac ymarferion timoedd sydd ddim yn broffesiynol. Cadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru bod timoedd proffesiynol gallu parhau gyda chwaraeon yn ystod y clo byr, ond dim clybiau nad oeddent yn cyrraedd yr anghenion. Ond gall hyn dod fel saib lle nad oes angen gwario arian?

Mewn datganiad gan y Cymru Premier, dywed “Some Member Clubs, understandably, didn’t feel that they had enough off-field professional staff to fully meet the stated requirememnts during this difficult period”. Yr unig glwb proffesiynnol yn y gynghrair yw’r Seintiau Newydd, tra bod Bala a Hwlffordd a Cei Connah yn cyrraedd yr anghenion proffesiynol hefyd.

Ni fydd Cei Connah yn chwarae, felly ond tri chlwb sydd yn cyrraedd yr anghenion a gyda’r gallu ariannol i barhau yn ystod y cyfnod byr. Golyga hyn fod naw clwb yn y gynghrair sydd yn â diffyg staff/chwaraewyr proffesiynol i chwarae yn y cyfnod clo. Dengys hyn y prinder ariannol hefyd, gyda chwaraewyr ar gyflog isel, neu ddim cyflog gan glybiau o gwbl.

Mae yna gwmwl tywyll dros y Cymru Premier ar hyn o bryd, ac nid ydym yn gwybod pan ddaw’r haul yn ôl.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php