Taf-Od

Dyn o Frasil yn pasio’r Prawf Dinasyddiaeth Brydeinig drwy’r Gymraeg

Prawf Dinasyddiaeth Brydeinig
Rodolfo Piskorski o Frasil yn pasio'r Prawf Dinasyddiaeth Brydeinig trwy gyfrwng y Gymraeg. Tarddiad: Joe Bamz (trwy pixabay)
Mae Dr Rodolfo Piskorsk, cyn myfyriwr Prifysgol Caerdydd sydd yn wreiddiol o Frasil, wedi darganfod mai ef yw’r person cyntaf i basio’r Prawf Dinasyddiaeth Brydeinig yn y Gymraeg. 

Gan Catrin Lewis | Golygydd Cymraeg

Mae Dr Rodolfo Piskorski, cyn myfyriwr Prifysgol Caerdydd sydd yn wreiddiol o Frasil, wedi darganfod mai ef yw’r person cyntaf i basio’r Prawf Dinasyddiaeth Brydeinig yn y Gymraeg.

Symudodd Rodolfo i Gaerdydd yn 2013 er mwyn astudio doethuriaeth yn y brifysgol a chychwynnodd ddysgu’r Gymraeg yn 2015.  Disgrifiodd y broses o ddysgu’r iaith yn un “cyffrous” a dywedodd ei fod wedi disgyn mewn cariad a Chymru a’i hiaith pan symudodd i’r wlad ac felly roedd dysgu’r iaith yn rhywbeth pwysig iawn iddo.

Eglurodd y siaradwr Portiwgaledd pam y dewisodd gymryd y prawf drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddweud:

“Mae’r prawf yn un gwirion, fel cwis tafarn, a tydi o ddim yn dy integreiddio di felly nes i feddwl ‘sut alla i wneud y broses yn fwy Cymreig?’ a rhoi sialens i fy hun i wneud o yn y Gymraeg”.

Aeth hefyd yn ei flaen i egluro mai Cymru yw’r unig ran o Brydain y mae wedi byw ynddi ac felly nid oedd dwywaith mai sefyll y prawf yn y Gymraeg oedd yr opsiwn gorau i Rodolfo.  Dywedodd bod y Gymraeg

“yn ddiddorol iawn ac yn wahanol iawn i ieithoedd eraill”

a’i fod

“wastad wedi bod eisiau dysgu iaith o’r lle dw i’n byw ynddo fe.”

Roedd eisiau dangos bod mwy nag un ffordd o fod yn Brydeinig trwy ddysgu’r iaith Gymraeg.  Fodd bynnag, gan ei fod wedi cymryd y prawf drwy gyfrwng y Gymraeg roedd yn rhaid iddo ddisgwyl wythnosau am ei ganlyniadau oherwydd ei fod yn cymryd amser i gyfieithu’r papur.

“Mae’r hawl yno, ac mae’n bwysig i ddefnyddio hawliau ieithyddol. Roeddwn i eisiau gwneud safiad a dangos bod gwahanol ffyrdd o fod yn Brydeiniwr.”

Agorodd Rodolfo gais Rhyddid Gwybodaeth er mwyn canfod os oedd rhywun wedi pasio’r prawf drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy hynny daeth i wybod mai ef oedd y cyntaf.

Mae’n rhaid talu £50 i gymryd y prawf ond mae’r gost am y broses gyfan yn £1505.  Ar ôl derbyn cyngor gan un o’i ffrindiau Cymraeg, rhoddodd apêl ar y wefan Go Fund Me gan ei fod yn cael trafferth fforddio’r broses.  O fewn ychydig ddyddiau roedd bron a chyrraedd ei darged.

Disgrifiodd yr ymateb i’r apêl fel un “anhygoel” ac mae ei fam, sy’n byw yn Ne America, o’r un farn.  Disgynnodd hithau hefyd mewn cariad a’r iaith Gymraeg yn 1987 pan glywodd yr hwiangerdd Suo Gân sy’n cael ei chanu yn y ffilm Steven Spielberg, Empire of the Sun.

Mae’r prawf yn cynnwys 24 o gwestiynau amlddewis ac yn cael ei wneud ar-lein.  Sefyllodd Rodolfo’r prawf mewn swyddfa yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.

Dywedodd ei fod wedi dewis ceisio am statws dinasyddiaeth oherwydd ansicrwydd Brexit a’i fod yn gobeithio cwblhau’r broses cyn diwedd y cyfnod pontio.  Disgrifiodd Cymru fel lle croesawgar a dywedodd ei fod yn teimlo fel bod croeso iddo yng Nghymru ers y diwrnod iddo symud i’r wlad.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel athro Portiwgaledd ym Mhrifysgol Caerdydd a dywedodd ei fod yn teimlo ei fod “wir wedi cael fy nghroesawu” gan y Cymry.  Dywedodd er bod sawl un yn edrych ar y Gymraeg fel hen iaith ei fod yn ei weld fel iaith cŵl ac ifanc a dywedodd mai dyma yw ei farn am ei brofiad y brifddinas hefyd.

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php