Taf-Od

Elyrch yn hedfan y tymor yma

Tarddiad: MekyCM (drwy flickr)
Tarddiad: MekyCM (drwy flickr)
Gyda'r Elyrch yn hedfan hyd at hyn y tymor hwn, Aled Biston sydd yn edrych ar pam bod carfan Steve Cooper wedi bod yn llwyddiannus.

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Wedi bron iddynt ddyrchafu i Uwch Gynghrair Lloegr llynedd, mae CPD Abertawe wedi dechrau’r tymor yma fel gorffennon nhw’r diwethaf, yn gryf. Pan ysgrifennwyd yr erthygl hon, mae Abertawe ond wedi colli 3 gêm allan o 16. Maen nhw wedi cael dechreuad gwych i’r tymor, ond beth sydd wedi galluogi ei llwyddiant hyd at hyn?

Mae’r Elyrch wedi bod yn llwyddiannus yn dod a chwaraewyr newydd i’r clwb y tymor yma, er bod llawer ohonynt ar fenthyg o glybiau eraill. Mae Morgan Gibbs-White, Freddie Woodman, Marc Guehi, Viktor Gyökeres a Kasey Palmer i gyd ar fenthyg i’r Elyrch tymor yma. Ar y llaw arall, mae Ryan Bennett, Ryan Manning, Korey Smith, Jamal Lowe, Joel Latibeaudiere wedi dod i Stadiwm y Liberty ar gytundebau parhaol. Yn wahanol i hafau’r gorffennol, mae Abertawe wedi dod mewn a llawer o chwaraewyr newydd sydd yn siwtio system chwarae o dan reolaeth Steve Cooper.

Mae Abertawe wedi bod yn gweithredu system 3-5-2 eleni, gyda’r ‘wingbacks’ yn troi’n asgellwyr wrth ymosod. Mae un o’r chwaraewyr canol cae yn aros nôl i gynnig cymorth i’r amddiffyn, felly mae cydbwysedd yn yr ymosod ar amddiffyn trwy’r amser. Yn ogystal â gweithredu’r system newydd yma, mae cadw Andre Ayew dros yr haf wedi bod yn allweddol i ymosod Abertawe, mae ef wedi sgorio 7 gôl tymor yma, y pumed mwyaf yn y gynghrair.

Y peth mwyaf trawiadol am chwarae Abertawe y tymor yma yw’r ffordd y maen nhw wedi tynhau ei amddiffyn ac ildio ond 9 gôl, er i ddau amddiffynnwr allweddol, Mike van der Hoorn a Joe Rodon, gadael yr Elyrch. Ym mis Medi, nid oedd Yr Elyrch wedi ildio ôl o gwbl, testament i faint o dda oedd yr amddiffyn o’r cychwyn y tymor yma. Mae ychwanegu Ryan Bennett i amddiffyn sydd yn gymharol ifanc, wedi mewnosod profiad i fur amddiffynnol Abertawe, ac mae’r cymysgiad o chwaraewyr ifanc cyffrous a chwaraewyr profiadol yn creu amddiffyn da.

Ers darostyngiad Abertawe i’r ail gynghrair, maen nhw wedi gweld hi’n anodd darganfod prif sgoriwr parhaol Dechrau eu tymor gyntaf yn yr ail gynghrair, roedd oli McBurnie yn sgorio goliau di-ri, ond wedyn cafodd ei werthu i Sheffield United. Yn eu hail dymor, roedd Borja Baston yn dda ar ddechrau’r tymor, ond gadawodd e fi Aston Villa. Wedyn, roedd Rhian Brewster wedi dod ar fenthyg ym mis Ionawr a sgorio 11 gôl mewn 22 gêm. Felly mae dau chwaraewr wedi bod at Stadiwm y Liberty ond maen nhw wedi bod yna am gyfnod byr yn unig. Ond, dros y ddwy flynedd diwethaf mae Andre Ayew wedi selio ei hun fel prif sgoriwr Yr Elyrch, er nad yw’n ymosodwr confensiynol. Llynedd, sgoriodd Ayew 18 gôl i’r Elyrch, ac mae e dal i sgorio tymor yma. Gyda Jamal Lowe ar ei bwys yn yr ymosod, a’r chwaraewr ifanc Liam Cullen i ddod oddi ar y fainc, mae gan Yr Elyrch lu o opsiynau ymosodol.

Pwy a ŵyr, os ydy Abertawe yn parhau gyda’u perfformiadau campus eleni, does dim rheswm pam bod nhw methu dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr. Mae Steve Cooper wedi mewnosod system chwarae effeithiol, a nawr mae ganddo chwaraewyr sydd wedi addasu ac yn ffitio’r system yma. Efallai byddwn yn gweld Yr Elyrch yn hedfan gyda’r goreuon unwaith eto, tymor nesaf.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php