Taf-Od

Galw am Gyfiawnder

Cyfiawnder: Cannoedd yn orymdeithio i Fae Caerdydd. Credyd: Nel Richards
Cyfiawnder: Cannoedd yn orymdeithio i Fae Caerdydd. Credyd: Nel Richards
Y galw am gyfiawnder cymdeithasol yn arwain ar brotestiadau yng Nghaerdydd – Black Lives Matter, Extinction Rebellion a Welcome Refugees.

Gan Nel Richards | Pennaeth Cynnwys Cymraeg

Y galw am gyfiawnder cymdeithasol yn arwain ar brotestiadau yng Nghaerdydd – Black Lives Matter, Extinction Rebellion a Welcome Refugees.

Wedi wythnos o brotestio heddychlon o gwmpas Caerdydd, ar Fedi’r pumed, cynhaliwyd gorymdaith yn galw am gyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd. Ymdeithiodd cannoedd o neuadd y ddinas, canol Caerdydd, i’r swyddfa mewnfudo, a pharháu i’r Senedd yn y Bae, lle bu amrywiaeth o siaradwyr yn areithio.

Arddangosiad o undod oedd y brotest; lle bu pobl yn gweithredu dros newid. Boed hyn yn newid hinsawdd, newid sefydliadol, dros gydraddoldeb, dros gyfiawnder ac am iechyd a lles y gymuned, dros elw.

Manon Clarke, myfyrwraig chweched ddosbarth yng Nghaerdydd a fynychodd y brotest, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gorymdeithio am newid;

“Er bod y coronafeirws dal yn effeithio ein bywydau dydd i ddydd, mae’n rhaid parhau gyda’r un momentwm. Does dim rili ffordd arall sy’n cael sylw, gwneud pwynt, a dod a cymunedau i’w gilydd yn yr un ffordd bod protestio yn”.

“DANGOS MAI DIGON YDY DIGON”

Dyna eiriau Gwenno Nefydd, sy’n byw yng Nghaerdydd, wrth geisio ddisgrifio’i theimladau ynglŷn â diffyg cyfiawnder ar draws cymdeithas;

“Drwy gael protestiadau fel yma ma’n dangos fod hi’n hen bryd i ysgwyd rhai o seiliau ein cymdeithas er mwyn cael newid go iawn.”

Black Lives Matter, symudiad sy’n brwydro dros rhyddid, gwaredigaeth, a chyfiawnder, oedd un elfen craidd o’r brotest ar Fedi’r pumed. Wrth i nifer benlinio tu allan i’r swyddfa fewnfudo, dangosodd trigolion Caerdydd a thu hwnt, solidariaeth, ag undod yn erbyn hiliaeth a chasineb; gan hefyd bwysliesio bod y Brifddinas, a Chymru’n croesawu ffoaduriaid.

Dywed Gwenno;

“Dwi’n meddwl fod protesito’n ffordd da o gychwyn y sgwrs am hiliaeth yn ein cymdeithas, ond ma’ angen ca’l sgyrsia ym mhob lefel o’r gymdeithas er mwyn gweld newid gwirioneddol.”

Mae ystadegau’n dangos bod pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn wynebu anghydraddoldeb mewn sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mae pobl du chwe gwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio gan heddlu yng Nghymru na phobl wyn. Maent hefyd bedair gwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu harestio. Mae gan bobl BAME gyfraddau cyflogaeth is a chyfraddau uwch o anactifedd economaidd na phobl wyn yn ogystal.

 

WYTHNOS O ORYMDEITHIO – EXTINCTION REBELLION

Trefnodd y mudiad heddychlon Extintion Rebellion, gyfnod o weithredu yng Nghaerdydd rhwng Awst 28ain i 4ydd o Fedi, o dan y teitl “Tell The Truth”. Mae’r mudiad yma’n brwydro ar gyfer cyfiawnder amgylcheddol ar draws y byd gan ganolbwyntio ar dair egwyddor;

  1. Rhaid i’r Llywodraeth ddweud y gwir trwy ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol, gan weithio gyda sefydliadau eraill i gyfleu’r brys am newid.
  2. Rhaid i’r Llywodraeth weithredu nawr i atal colli bioamrywiaeth a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i net-sero erbyn 2025.
  3. Rhaid i’r Llywodraeth greu, a chael ei harwain gan benderfyniadau’r dinasyddion ar yr hinsawdd a chyfiawnder ecolegol, (citizen assembly).

Talulah Thomas, sy’n 19 oed, o Langollen a fynychodd y brotest yn mynegi ei barn;

“Roedd yr awyrgylch yn llawn egni, brwdfrydedd ond hefyd dicter. Dicter tuag at y rheini sydd â’r pwer i gyflawni newid o fewn ein systemau a chyfundrefn rhyngwladol, ond nad ydynt yn gweithredu – maent yn gwrthod gweithredu. Er mi oedd llawer o flinder, ar ôl cerdded a phrotestio am amser hir,  fe gafodd y blinder yma ei drawsnewid i weithred wrth i bawb ddod at ei gilydd i barhau.”

“Er, rwyf yn bersonol yn adnabod y problemau sy’n bodoli o fewn y mudiad XR, wrth iddynt fethu i gynrychioli pawb o fewn eu gwaith drwy ddileu lleisiau lleiafrifol. Credaf byddai trefnwyr XR yn gwneud yn dda i wrando ar, a gweithredu ar y pryderon sy’n cael eu codi ynglyn â’u dulliau a’u tactegau.”

“Credaf fod rhaid cymryd i’r strydoedd er mwyn adlewyrchu anghenion gwirioneddol y bobl. Sut arall felly, mewn system sydd yn fwy aml na pheidio yn anffodus yn ffafrio pobl o’r un un cefndiroedd a phrofiadau, y bydd yr awdurdodau yn derbyn y pwysau y maent eu hangen i weithredu?”

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Y Tim

Pryd O Daf-Od

DILYNWCH NI AR-LEIN

Stuff

css.php