Taf-Od

Gorymdaith Brexit yn Llundain yn galw am ail refferendwm

Gorymdeithwyr yn ymgynnull: Bu cannoedd o filoedd o brotestwyr yn troedio strydoedd Llundain benwythnos diwethaf. (Tarddiad: Sali Nichols).

gan Sali Nichols

Fi’n siwr bod pawb erbyn hyn wedi clywed am yr orymdaith ‘Brexit’ a ddigwyddodd benwythnos diwethaf yn Llundain. Fe es i, gyda fy ffrind, lan i Lundain i gymryd rhan yn yr orymdaith. Hyd yn oed cyn iddo fe ddechrau, gwelon ni môr o bobl glas yn cerdded o gwmpas y ddinas, o’r amgueddfeydd i’r gorsafoedd tiwb, yn cario placardiau protestio o bob math. Pan gyrhaeddon ni’r man cwrdd, roedd cymaint o bobl roeddwn ni bron methu symud, pobl o bob oedran a phob cenedligrwydd. Wrth yml y fynedfa roedd yna ddol enfawr o wyneb Theresa May gyda thrwyn yn debyg i Pinocchio yn croesawu protestwyr, a phobl yn gwerthu baneri’r Undeb Ewropeaidd a chwibanau lliwgar.

Dechreuodd yr orymdaith gydag areithiau gan bobl megis Sadiq Khan, Sandi Toksvig a Nicola Sturgeon. Yr oedd pobl o bob grŵp gwleidyddol yn cymryd rhan, o Lafur i’r Ceidwadwyr i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Bob hyn a hyn, torrodd y dyrfa mewn llên-gytundeb gyda beth yr oedd yn cael ei ddweud. Wrth edrych o gwmpas, gwelais nifer o bobl yn gwisgo baneri yr UE yn cario arwyddion yn amrywio o ‘Never gonna give EU up’ i ‘Brexit is treason’. Fe gymerodd yr orymdaith gwpwl o oriau i ddechrau gorymdeithio oherwydd y tyrfaoedd o bobl a oedd yn ymuno, ond gyda’r awyrgylch anghygoel a oedd yn llenwi’r strydoedd fe wnaeth neb gwyno.

Erbyn inni gyrraedd Picadilly, tua pedair awr ar ôl i’r orymdaith ddechrau, roedd miloedd ar filoedd o bobl yn gorymdeithio, gyda gwylwyr yn dringo sgaffaldiau er mwyn ymuno gyda’r protestio. Un o’m hoff brotestwyr oedd dyn ifanc, tua 20 oed, a oedd yn dawnsio ac yn canu’r siant “What do we want? People’s vote. When do we want it? Now!”. Roedd canu, dawnsio a chwerthin yn cymryd lle trwy gydol yr orymdaith, yn creu awyrgylch mor groesawgar a hwyl hyd at y diwedd. Gyda’n traed yn brifo, gadewon ni ar ôl cyrraedd y Senedd, gydag ymdeimlad o optimistiaeth yn cario ni ‘nôl at ein bws.

Ar y llaw arall, gyda phob agwedd gadarnhaol o’r orymdaith, gwynebon ni bobl yr un mor negyddol. Wrth gerdded o gwmpas Llundain, gwynebon ni ddynion yn gweiddi ar y protestwyr. Ymhlith eu sarhadau oedd ‘Nazis’, ‘Jew-haters’ a ‘communists’ gan ein bod yn cario baneri Ewrop. Fe wnaethant redeg i ffwrdd ar ôl dweud eu rhan, golygfa a oedd bron yn chwerthinllyd, yn gwneud i fy ffrind a finnau chwerthin yn hyll.

Mi fyddai byth yn anghofio’r orydmaith gan ei fod yn un o’r pethau mwyaf rhyddhaol ac ysbrydoledig rydw i byth wedi cymryd rhan ynddo. Gadewais yr orymdaith yn teimlo gobaith am y tro cyntaf ers i Brexit ddechrau. Gobeithio y gwnaiff Theresa May wrando arnynt.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php