News

Gwaith yn cael ei wneud i amddiffyn wal Cofiwch Dryweryn

Mae gwaith wedi cychwyn i amddiffyn y gofeb Cofiwch Dryweryn
Ar ôl cael ei fandaleiddio dros y blynyddoedd mae gwaith wedi cychwyn i amddiffyn wal Tryweryn. Tarddiad: Ceri Thomas (trwy Geograph)
Wedi i'r wal gael ei fandaleiddio sawl gwaith dros y blynyddoedd mae gwaith wedi cychwyn i'w hadfer a'i hamddiffyn.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Cymraeg

Ers i’r awdur a newyddiadurwr Meic Stephens baentio’r enwog eiriau ar ochr fwthyn yn y 60au, mae’r geiriau Cofiwch Dryweryn wedi dod yn symbol o wladgarwch a Chymreictod i sawl un.  Nid anghyffredin yw gweld y geiriau yn ystod gorymdaith dros annibyniaeth i Gymry neu ychwaith wedi eu paentio ar waliau amrywiol ar draws y wlad.  Fodd bynnag, mae’r wal hefyd wedi bod yn destun fandaliaeth dros y blynyddoedd.

Mae’r wal, sydd wedi ei lleoli yn Llanrhystud, yn gofeb i Gapel Celyn sef pentref ger y Bala a foddwyd er mwyn creu cronfa ddŵr i drigolion Lerpwl yn 1965.

Ym mis Chwefror 2019, cafwyd y gair Elvis gael ei baentio dros y slogan gwreiddiol.  Cafwyd y wal ei hadfer o fewn 24 awr yn dilyn sawl un yn amlygu eu teimladau dros y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol.  Ddeufis yn ddiweddarach paentiwyd y llythrennau AGARI ar y wal ac wedi iddi gael ei hadfer unwaith eto chwalwyd rhan o’r wal.  Bwriadol oedd y fandaliaeth hon mwy na thebyg ond aeth criw o bobl ati i sicrhau bod y wal yn cael ei hailadeiladu’r un diwrnod.

Wedi’r fandaliaeth daeth y slogan yn ddelwedd fwy amlwg ar draws y genedl.  Mae bellach modd dod o hyd i ryw fersiwn o’r geiriau wedi eu chwistrellu ar waliau ac adeiladau drwy yrru heibio sawl pentref neu dref yng Nghymru.

Fis Mehefin 2020 oedd y fandaliaeth ddiweddaraf pan baentiwyd y symbol pŵer gwyn a swastica ar y gofeb.  Yn ystod y cyfnod yma roedd protestiadau gwrth-hiliaeth yn digwydd mewn dinasoedd ledled y byd wedi llofruddiaeth George Floyd.  Yn amlwg, dangosodd pobl eu gwylltineb bod y symbol hiliol wedi ei phaentio ar y gofeb ar gyfryngau cymdeithasol a galwodd sawl un bod rhywbeth yn cael ei wneud i amddiffyn y wal.

Ar y pryd disgrifiodd Elin Jones, Aelod Seneddol Ceredigion, y fandaliaeth fel rhywbeth:

“sinistr a pheryglus”

ac  anogodd hi bobl i gysylltu â’r heddlu os oedd ganddynt unrhyw wybodaeth.

Cymharodd sawl un y wal a murlun Banksy ym Mhort Talbot.  Mae’r cyngor lleol wedi bod yn ariannu amddiffyniad y murlun ond ni chafodd unrhyw beth ei wneud i amddiffyn cofeb Tryweryn nes yn ddiweddar.

Cychwynnodd y gwaith i adfer ac amddiffyn y wal yn ystod y drydedd wythnos o Fedi a disgrifiodd Elin Jones y gwaith fel cyffrous a dywedodd:

“Rydym yn falch bod yr arbenigwr lleol, Nathan Goss, yn goruchwylio’r gwaith a bod contractwyr lleol, sy’n gyfarwydd â’r maes treftadaeth, yn ymgymryd y dasg”.

Fel rhan o’r gwaith bydd y wal yn cael ei chodi’n uwch gan ddefnyddio’r cerrig sydd wedi disgyn o’r ardal dros y blynyddoedd oherwydd difrod dwr.

Mae llystyfiant marw o amgylch y wal hefyd wedi cael ei dynnu a bydd gwrychoedd newydd yn cael eu plannu er mwyn amddiffyn y wal.

Yn gyffredinol, mae’r ymateb i’r gwaith wedi bod yn bositif.  Mae’r artist Rwth Jên o Aberystwyth wedi cytuno i ail baentio’r wal ar ôl i’r gwaith cael ei gwblhau.  Y gobaith yw na fydd angen rhoi gorchudd plastig ar y wal gan na fydd yn cael ei ddifrodi eto.  Dim ond amser gall ddweud a fydd y gwaith i amddiffyn y wal yn llwyddiannus neu beidio.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php