Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Ar y 19eg o Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn ar gyfer prosiectau newydd dros hyd a lled y wlad er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg a Chymreictod. Dywedodd Jeremy Miles, gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg ac Addysg, bod y Llywodraeth yn gobeithio y bydd yr arian yn eu “helpu i ddyblu’r defnydd dyddiol” [o’r Gymraeg] a chyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Mae’r gweinidog yn awyddus i annog holl drigolion Cymru i ddysgu, siarad a defnyddio’r Gymraeg, dywedodd, “mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, p’un ai bod ni’n siarad Cymraeg ai peidio.” Gobeithiai y bydd yr arian yma’n creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir ddysgu’r iaith pa bynnag eu lefel o Gymraeg ar hyn o bryd.
Hybu’r Gymraeg ledled Cymru
Caiff cyllid ei ddarparu i’r Ganolfan Addysg Genedlaethol ar gyfer prosiectau i gynyddu hygyrchedd ac addysg y Gymraeg. Fe fydd hyn yn cynnwys darpariaeth o gyrsiau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru wrth iddynt weithio mewn partneriaeth â ‘Say Something in Welsh.’ Ni fydd yn rhaid i’r mynychwyr allu siarad Cymraeg yn rhugl gan fydd y cyrsiau ar gael yn yr ieithoedd a siaredir fwyaf gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Yn ogystal, fe fydd arian yn cael ei rhoi i’r mudiad ‘Rhieni dros Addysg Gymraeg’ (RhAG) gyda’r nod o ddatblygu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ieithoedd lleiafrifol. Dywed Llywodraeth Cymru mai’r “nod yw cefnogi teuluoedd y mae eu plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid Cymraeg na Saesneg yw’r prif ieithoedd sy’n cael eu siarad gartref. Yn ogystal â hyn, y nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.” Dywedodd Wyn Williams, cadeirydd cenedlaethol RhAG, wrth BBC Cymru Fyw y byddai’r nawdd yn mynd at brosiect sy’n “torri tir newydd o ran cyflwyno’r iaith i gymunedau newydd.” Bwriad RhAG a’u prosiectau fydd “rhannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu’r teimlad o berthyn.”
Buddsoddiad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Fel rhan o’r cyllid sydd ar gael, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd £600,000 yn cael ei roi i’r Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn Nhregaron eleni. Yn ôl y Llywodraeth-
“Bydd y cyllid yn cefnogi’r sefydliad i baratoi r gyfer y digwyddiad eleni, sydd am gael ei gynnal rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst. Bydd yn helpu i gyflawni ei nodau o wneud yr Eisteddfod yn agored i gynulleidfa ehangach.”
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, wrth Newyddion S4C ei bod hi’n “ddiolchgar iawn i’r Gweinidog a’r Llywodraeth am eu cefnogaeth, a’u hawydd i weithio gyda ni i sicrhau llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni. Wrth ddychwelyd at gynnal Eisteddfod ar faes, ry’n ni wedi gweld ein costau ni’n cynyddu’n aruthrol ers 2019, gyda chwyddiant, effaith y pandemig a phris yswiriant ymysg y costau sydd wedi codi’n arw… Ond yr hyn sy’n bwysig yw bo’ ni wedi cymryd rhai elfennau a weithiodd yn ystod Covid a’i ymgorffori nhw fewn i’r Eisteddfod fodern ‘ma.”
Dywedodd Jeremy Miles, sy’n cynrychioli rhanbarth Castell-nedd, mai-
“Diben y cyhoeddiad heddiw yw ei gwneud hi’n haws nag erioed defnyddio ein hiaith a’n diwylliant.”
“Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda’n partneriaid ar brosiectau mor amrywiol, sydd i gyd yn cefnogi ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.”
Add Comment