Taf-Od

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: “Mae’n bwysig i ddechrau paratoi am ail refferendwm”

Ail Refferendwm?: Taf-od fu’n cyfweld â’r Prif Weinidog. Tarddiad: Maisie Marston.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud ei bod hi’n “bwysig i ddechrau paratoi am ail refferendwm rhag ofn mai hwnna yw’r unig beth sy’ ‘da ni”. Mewn cyfweliad â Taf-od, dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd fod dau bosibiliad i’w cael, gan gynnwys ail refferendwm. “Beth ‘yn ni’n dweud bob tro yw mae Mrs May’n gallu gwneud cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n gwarchod yr economi a swyddi yma yng Nghymru. Pan mae’r posibiliad ‘na yn fyw ac yn y Tŷ Cyffredin, beth ‘yn ni’n dweud yw mae’n bwysig inni roi’r amser…i weld os mae’r Tŷ Cyffredin yn gallu cytuno ar fargen fel ‘na.”

Ond, os nad oes cytundeb o’r fath sy’n meddu ar gefnogaeth Tŷ’r Cyffredin, dywedodd Mr Drakeford, “Ar ddiwedd y dydd, os nad yw’r Tŷ Cyffredin yn gallu gwneud y penderfyniad, os ni jyst mewn sefyllfa lle does dim byd yn gallu [digwydd], yr unig ateb dw i’n gallu gweld fan hyn yw i fynd ‘nôl at y bobl a rhoi’r cwestiwn yn ôl iddyn nhw.”

Ychydig dros wythnos yn ôl, gwnaeth y Cynulliad bleidleisio i ddechrau paratoadau am ail refferendwm ar Brexit o 37 i 14. Dywedodd Mark Drakeford, “Yn y Cynulliad…roedden ni’n dweud…os ar ddiwedd y dydd mai hwnna yw’r unig ffordd ymlaen, dydyn ni ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle ‘dyn ni ddim yn gallu ‘neud hwnna achos ‘dyn ni ddim wedi paratoi i wneud e. ‘Yn ni jyst yn mynd i redeg mas o amser.”

“Rhoi neges i’r byd”

Mae Brexit hefyd wedi bod yn ran o ystyriaethau Mark Drakeford wrth iddo fynd ati i ffurfio’i gabinet, gan greu rôl newydd ar gyfer y Gweinidog Materion Rhyngwladol, swydd sy’n cael ei chyflawni gan Eluned Morgan ynghyd â’i dyletswyddau fel Gweinidog y Gymraeg. Dywedodd Mr Drakeford “Y peth pwysig i fi yw, ar ôl Brexit, beth bynnag sy’n mynd i [ddigwydd], i Gymru dal i fod yn le ble ‘yn ni’n edrych allan i’r byd, ble ni’n rhoi neges i’r byd ein bod ni eisiau chwarae rôl yn beth sy’n mynd ymlaen yn rhyngwladol, i fod yn agored i bobl tramor i ddod yma i fod yn rhan o bethau ni’n ‘neud yma yng Nghymru, ac yng nghyd-destun Brexit, bydd rhaid inni weithio’n galetach i wneud hwnna. Dyna pam oeddwn i eisiau cael rhywun yn y cabinet gyda’r cyfrifoldeb i wneud hynny.”

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn awyddus i barhau i gydweithio gyda gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit. “Mae lot o bobl ledled Ewrop eisiau ni dal i weithio ‘da nhw ar ôl Brexit a roeddwn i eisiau cael rhywun gyda’r cyfrifoldebau i fwrw ‘mlaen gyda phethau fel ‘na ac Eluned, gyda’r profiadau mae hi wedi cael dros y blynyddoedd, roedd y gwaith jyst yn ffitio gyda beth oedd hi’n gallu gwneud a beth oedd hi’n awyddus i wneud hefyd.”

“Sialensiau mawr”

Mae Mark Drakeford dal yn gymharol newydd i’w swydd fel Prif Weinidog Cymru gan gymryd yr awenau wedi i Carwyn Jones ymddiswyddo fis Rhagfyr y llynedd ar ôl naw mlynedd wrth y llyw. Ond, yn ôl Mr Drakeford, nid er ei les ei hun y gwnaeth e benderfynu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad am yr arweinyddiaeth. “Fel dw i wedi dweud bob tro, doedden i ddim eisiau treial bod yn Brif Weinidog am resymau personol. Dw i wedi bod yn lwcus dros ben dros y blynyddoedd. Dw i wedi gweithio yn swyddfa’r Prif Weinidog gyda Rhodri Morgan, dw i wedi bod yn y Llywodraeth yma fel gweinidog dros iechyd a chyllid. Nid am rhesymau personol oedd e, ond beth oedden i’n meddwl oedd fod pwy bynnag a oedd mynd i ddod yn Brif Weinidog yn mynd i wynebu sialensiau mawr ar ôl Brexit.”

Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Ysgol Economeg Llundain, gwnaeth 64% o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed bleidleisio yn y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, canran uwch na mewn unrhyw bleidlais genedlaethol am yr ugain mlynedd cyn hynny. Yn ddiweddar, mae ymgais wedi bod i gynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r system wleidyddol yng Nghymru drwy sefydlu Senedd Ieuenctid. Mae rhai yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 er mwyn annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Cynigiwyd y syniad mewn adroddiad gan Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Dywedodd Mark Drakeford, “Ni wedi dweud yn barod ein bod ni’n mynd i roi bil o flaen y Cynulliad cyn y Gwanwyn, os allwn ni, a mae hwnna’n mynd i newid lot o bethau yn y maes democrataidd, sut ‘yn ni’n defnyddio’r posibiliadau newydd sy’ ‘da ni i dynnu pobl i mewn i’r bywyd gwleidyddol yma. Un o’r pethau ‘yn ni’n mynd i wneud yw rhoi’r oedran lle mae pobl yn gallu pleidleisio lawr i 16.”

Bwriad arall sydd gan y Llywodraeth fel rhan o’r newidiadau arfaethedig yw i ehangu’r nifer o bobl yng Nghymru sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau. Dywedodd Mr Drakeford, “Ni’n mynd i roi’r hawl i bleidleisio i unrhyw berson sy’n byw ac yn gweithio yma yng Nghymru – o ble [bynnag] maen nhw’n dod yn y wlad, dros y byd, os maen nhw yma ac maen nhw’n rhan o’r cymunedau dros Gymru, ‘yn ni eisiau rhoi’r hawl iddyn nhw i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd hefyd.”

Yn dilyn cyhoeddiad papur gwyn y Llywodraeth ar addysg yng Nghymru, mae cryn ymateb wedi bod i’r cynlluniau. Ond, mae’r Prif Weinidog o’r farn y bydd y newidiadau o gymorth wrth geisio cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dywedodd, “Mae’r targed yn un uchelgeisiol, wrth gwrs, ond dros y Cynulliad dw i’n meddwl, dros y pleidiau bron i gyd, ni’n cytuno â’r uchelgais ‘na.” Fel rhan o’r cynlluniau, caiff disgyblion eu dysgu mewn un ffrwd yn hytrach na ffrydiau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith. Dywedodd Mr Drakeford, “Y ffordd ‘yn ni wedi ‘neud e o’r blaen, ni wedi bod yn llwyddiannus dros ben i dyfu pobl, nifer o bobl, sy’n cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ond ni’n gwybod ‘dyn ni ddim wedi llwyddo i droi pobl mas yn hyderus i siarad Cymraeg sydd wedi cael addysg Gymraeg ail iaith – dydy e jyst ddim wedi gweithio.”

Felly, wrth i gyfnod gwleidyddol newydd gychwyn yng Nghymru, mae nifer o obeithion gan y Prif Weinidog am ddyfodol y wlad. Ond, gyda heriau megis ansicrwydd Brexit ar y gorwel, mae sialens o’i flaen.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php