Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od
Mae eleni yn flwyddyn arbennig gan ei bod yn nodi hanner canrif ers gorymdaith Pride cyntaf y Deyrnas Unedig a ddigwyddodd yn Llundain ar y 1af o Orffennaf 1972.
Cychwynnwyd Mis Hanes LHDTC+ yn y DU gan Sue Saunders, Paul Patrick a mudiad Schools Out UK ac fe’i lansiwyd am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2005.
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn gyfle pwysig i ddangos cefnogaeth i’r gymuned a dathlu poblogaeth LHDTC+ ein gwlad gan sicrhau tegwch a llais iddynt yn y gymuned ehangach.
Eleni, y thema yw celf a’r slogan ‘The Arc is Long’ gydag ysbrydoliaeth o ddywediad gan Dr Martin Luther King Jr. sef “The Art of the moral universe is long but it bends toward justice.” Defnyddiwyd dywediad gan Keith Haring sef “Art should be something that liberates your soul, provokes the imagination and encourages people to go further” fel sail briodol i’r thema yma gan fod celf yn weithgarwch sy’n hybu creadigrwydd ac unigoliaeth. Defnyddiwyd y thema i archwilio’r syniadaeth o sut y mae mynegiad creadigol yn bwydo cynnydd gwleidyddol.
Peintiwyd pedair baner ‘Progress Pride’ o flaen castell y brifddinas i ddathlu’r gymuned LHDTC+. Maent yn faneri cyfoes sydd wedi ychwanegu at y faner chwe lliw traddodiadol i gynnwys y lliwiau pinc, gwyn a glas i gynrychioli’r gymuned drawsrywiol a’r lliwiau du a brown i gynrychioli’r cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.
Yn ôl gwefan ‘LGBT Plus History Month,’ mae’r faner lliw enfys yn cael ei defnyddio yn draddodiadol fel “arwydd o oes newydd, gobaith neu newid cymdeithasol.” Pethau y mae Cyngor Caerdydd eisiau cyfleu, yn ogystal â chefnogaeth, i’r gymuned.
Mae’r castell hefyd wedi’i oleuo gyda lliwiau’r enfys yn ddyddiol ers Chwefror 1af fel rhan o’r dathliadau.
Cyhoeddodd Pride Cymru ar Twitter eu bod yn hynod o falch “i weld Cyngor Caerdydd yn ymuno â dinasoedd eraill ledled y DU i ddathlu amrywiaeth ein cymunedau a chydnabod pa mor bwysig yw gwelededd ein cymuned LGBTQ+ wrth herio casineb a gwahaniaethu.”
Dywedodd Chris Weaver, Cynghorydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, wrth Newyddion S4C y “”bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r gymuned ac eraill i wneud Caerdydd mor ddiogel a chynhwysol â phosibl.”
“Oherwydd taw celf yw’r thema, roeddwn am sicrhau bod y dyluniadau ‘Pride’ blaengar mor weladwy â phosibl i’r cyhoedd, felly dyma pam y peintiwyd nhw ar Stryd y Castell, y brif ffordd sy’n pasio trwy ganol y ddinas.”
“Waeth beth fo’ch hil, credoau crefyddol, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu rywedd, mae ein gwasanaethau a’n cefnogaeth ar agor i bawb ac fel cymdeithas mae’n rhaid i ni gofleidio gwahaniaeth a phwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb.”
Add Comment