Taf-Od

Mis Hanes Pobl Ddu- dathlu trwy’r flwyddyn

Dathlu: Mae angen i ni ddathlu campiau pobl du trwy'r flwyddyn. Credyd: Nel Richards
Dathlu: Mae angen i ni ddathlu campiau pobl du trwy'r flwyddyn. Credyd: Nel Richards
Nel Richards sydd yn trafod pwysigrwydd hanes pobl ddu, y pwysigrwydd i ni yng Nghymru, a pam dydlen ni ddathlu drwy'r flwyddyn

Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od

Dyma fis o ddathliadau i gydnabod y cyfraniadau a wneir gan bobl o dras Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd i hanes a diwylliant lleol, cenedlaethol a byd-eang trwy gyflwyno rhaglen addysgiadol, ystod mis Hydref bob blwyddyn – oni ddylid dathlu’r cysyniad yma bob mis o’r flwyddyn?

Modd o atgoffa pobl dylsai hanes pobl ddu fod yn rhan o’r sgwrs trwy’r flwyddyn.”

Cyfle i ymgysylltu, addysgu a grymuso unigolion, grwpiau cymunedol a chymunedau ledled Cymru wrth gydnabod cyfraniadau y mae Diaspora Affrica wedi gwneud yn hanes datblygiad economaidd a diwylliannol Cymru yw’r mis hon. Ond wrth gwrs, drwy’r flwyddyn gyfan, mae pwyslais ar bawb, i ddysgu am hanes Cymru, yn enwedig cyfraniadau y mae pobl du wedi gwneud i’r gymuned.

Emily Pemberton, Cymraes Garibïaidd sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n rhannu ei phrofiadau ynglyn â’r mis yma, a chyfle i atgyfnerthu ei bwysigrwydd, yn enwedig yma yng Nghaerdydd.

Beth mae Mis Hanes Pobl Ddu yn golygu i ti? 

“Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn gyfle i werthfawrogi cyfraniadau pobl du ar draws y canrifoedd ond i fi, dw i’n gweld y mis yma fel modd o atgoffa pobl dylsai hanes pobl ddu fod yn rhan o’r sgwrs trwy’r flwyddyn. Mae bodolaeth Mis Hanes Pobl Ddu yn y lle cyntaf yn cydnabod y ffaith bod cyfraniadau pobl Ddu yn aml yn cael ei anwybyddu, yn bwrpasol, ac mae angen tynnu sylw i’r arweinwyr, deallusion, gwleidyddion a ffigyrau eraill arwyddocaol du mae pobl ddylanwadol gwyn yn gwrthod trafod. Mae’n dod yn gliriach bob blwyddyn i fi dydy un mis ddim yn ddigon i ddathlu cyfraniadau pobl ddu i Gymru a Phrydain modern. Fel Cymraes Garibïaidd mae’n gyfle i fi gofio aberth fy nain a thaid, fel rhan o’r genhedlaeth Windrush, a’i chyfraniad nhw i’r Dociau, yn ogystal â Therfysgoedd Hil Caerdydd 1919, Y Cardiff 5, bywyd Betty Campbell, ac mae’r rhestr yn parhau.”

A’i addysg yw’r ffordd ymlaen o ran codi ymwybyddiaeth?

“Un peth dwi o hyd yn pwysleisio ydy’r ffaith ein bod ni’n addysgu pobl ifanc am derfysgoedd hil a mudiadau hawliau sifil yn America a De Affrica er mae’r un brwydrau wedi bod yn digwydd ym Mhrydain, yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd hyd yn oed. Pam nad ydyn ni’n trafod y terfysgoedd hil yn 1919, digwyddodd tua deg munud i ffwrdd o le dwi’n eistedd ac yn ysgrifennu hwn? Neu ydy rhai ffigyrau yn pryderi fydd cwestiynau yn codi ynghylch rôl Caerdydd a Chymru mewn materion hil os da ni’n dechrau bod yn onest am ein hanes? Gonestrywdd ydy’r peth pwysig. Mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn rhan o’r sgwrs. Darllenwch lyfrau gan awduron du, gwyliwch raglennu/ffilmiau gan ysgrifenwyr du, fe wnewch chi gymryd rhywbeth newydd o’r profiad neu edrych ar rywbeth mewn ffordd wahanol.”

Y mater yw bod unrhyw ddadl iawn am hanes du yn anochel yn golygu trafodaethau am rannau o orffennol Prydain – caethwasiaeth, imperialaeth, datblygu meddwl hiliol – sydd wedi cael eu brwsio o dan y carped hanesyddol ers amser maith. Sbarduno sylw, parch a chyfrifoldeb i gofio a dathlu cyfraniadau cymunedau yw’r mis hon, i gychwyn a pharhau gyda’r sgwrs; fod bywydau du o bwys.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php