Taf-Od

Neil McEvoy yn ail-enwi ei blaid newydd

Mr McEvoy: Fe wnaeth greu 'Plaid Genedlaethol Cymru'. Tarddiad: Plaid Cymru -The Party of Wales (drwy flickr)
Mr McEvoy: Fe wnaeth greu 'Plaid Genedlaethol Cymru'. Tarddiad: Plaid Cymru -The Party of Wales (drwy flickr)
Wedi her swyddogol gan Blaid Cymru, bydd rhaid i Nel McEvoy newid enw ei blaid newydd 'Plaid Genedlaethol Cymru. Taf-od sydd hefyd yn edrych ar hanesd McEvoy fel gwleidydd.

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Mae aelod o’r Senedd a chyn-aelod Plaid Cymru, Neil McEvoy wedi gwneud cais i ail-enwi ei blaid newydd yn dilyn her swyddogol gan Blaid Cymru. Penderfynodd y corff sy’n goruchwylio etholiadau yn gynharach eleni ailystyried a ddylid cofrestru’r enw ‘Plaid Genedlaethol Cymru’ yn swyddogol, gan ei fod yn debyg iawn i enw Plaid Cymru. O ganlyniad, mae Mr McEvoy yn obeithiol o ailgofrestru ei blaid o dan yr enw ‘Plaid Cenedl Cymru’ cyn etholiadau Senedd 2021.

Nid oes dyddiad penodol wedi ei benodi er mwyn gwblhau’r broses, felly mae ef wedi ailgofrestru’r blaid fel Plaid Cenedl Cymru. Ond, er ceisio ail-enwi’r blaid yn sgil her gan Blaid Cymru, mae BBC Cymru Fyw yn deall bod Plaid Cymru hefyd yn herio’r enw newydd mae Mr McEvoy wedi cynnig. Dywedodd Mr McEvoy i BBC Cymru Fyw mai Plaid Cenedl Cymru oedd “enw dewisol” ei blaid, a bod “y gair ‘cenedl’ ynddo yn cael ei weld a’i deimlo i fod yn llawer mwy cynhwysol”.

Cred Mr McEvoy bod gwleidyddiaeth Gymru yn cael ei ddominyddu gan un blaid ar hyn o bryd, a dyna pam y byddai pobl yn pleidleisio dros ei blaid ef. Dywedodd ar raglen Politics Wales “(byddai pobl yn pleidleisio dros fy mhlaid i) Oherwydd ein bod ni’n byw mewn gwlad sydd wedi’i dominyddu gan un blaid wleidyddol”. “Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol- y cyfan maen nhw wedi’i wneud ers 21 mlynedd yw cefnogi Llafur. Felly, os ydych chi’n pleidleisio dros y pleidiau hynny, rydych chi’n mynd i gael Llafur”.

Ar hyn o bryd, nid yw Neil McEvoy yn cael ei alw i siarad yn y Senedd yn dilyn protest yn y siambr yn ystod dadl ar hiliaeth. Mae Llywydd y Senedd wedi gofyn iddo dynnu “sylwadau difenwol” yn ôl a dileu negeseuon cyfyngau cymdeithasol a waned yn ystod y ddadl lle roedd Mr McEvoy yn gwisgo tâp dros ei geg ac yn gafael mewn arwydd. Gwrthwynebodd ef y penderfyniad gan y Llywydd Elin Jones AS i wrthod ei welliannau i gynnig y ddadl. Dywedodd Mr McEvoy wrth Politics Wales “Ni allaf ymddiheuro am rywbeth dwi’n teimlo’n gryf ynddo”. Roedd dadl McEvoy wedi cael ei dderbyn gan y swyddogion, ond tynnodd y Llywydd gwelliannau McEvoy awr cyn i’r cyfarfod gychwyn.

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, yn AS dros Blaid Cymru, y blaid cafodd Mr McEvoy ei wahardd ohoni. Mae ef hefyd yn gynghorydd etholedig yng Nghaerdydd ond cafodd ei wahardd o’i rôl yn ddiweddar am bedwar mis ar ôl iddo gael ei ddyfarnu ei fod wedi bwlio gweithiwr cartref gofal. Nid dyma’r tro cyntaf iddo gael ei wahardd chwaith, mae wedi cael ei wahardd o’r cyngor ar sawl achlysur a chafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru am 18 mis yn dilyn ymchwiliad plaid i’w ymddygiad.

Mae Mr McEvoy yn amlwg yn gymeriad dadleuol yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac mae’n benderfynol o sefydlu ei blaid newydd o fewn gwleidyddiaeth ein gwlad. Edrychwn ymlaen at beth fydd enw newydd ei blaid, os ydy Plaid Cymru yn llwyddiannus yn ei her swyddogol yn erbyn yr enw ‘Plaid Cenedl Cymru’.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php