Pryd o Daf-od

O Ferthyr i Fagaluf – O nerth i nerth i S4C

Tarddiad: S4C

Gan Osian Morgan

Rhaid i mi gyfaddef, dwi erioed di bod yn un i wylio llawer o S4C. Ers imi gyrraedd yr oedran lle roeddwn yn gallu gweithio’r remote a dewis rhaglenni fy hun, rwyf wedi tueddu i ddewis rhaglenni Saesneg Eingl-Americanaidd dros unrhyw gynnyrch Cymraeg. Doeddwn i erioed yn un o’r pobl oedd yn honni fod ‘popeth ar S4C yn ddiflas’, ond sŵn i’n celwydda os byswn i’n dweud nad oedd rhaid imi orfodi fy hun drwy benodau o Jonathan a Gwaith Cartref jest er mwyn teimlo fy mod i’n cefnogi’r Gymraeg mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae fy mherthynas gydag S4C wedi newid cryn dipyn. Rwyf bellach yn gwylio llawer mwy ohono nag erioed o’r blaen, ac nid fel ryw ymdrech diawydd i ddangos cefnogaeth at y Gymraeg, ond oherwydd fy mod i wirioneddol wrth fy mod gyda rhai o’r sioeau sydd wedi ymddangos ar ein sianel genedlaethol yn ddiweddar.

Un math o raglenni sydd wedi creu argraff arnaf yn ddiweddar, yw maes y mae S4C wedi serennu ynddo dros y blynyddoedd diwethaf – sef dramâu. Gyda chyfresi fel Y Gwyll a Bang , mae S4C wedi profi fod ganddynt y gallu i greu dramâu modern, bachog a hynod gyffrous, sydd nid yn unig wedi diddanu’r Cymry, ond wedi creu argraff ledled y byd. I ychwanegu at y rhain, mae’r dramâu diweddaraf, Un Bore Mercher a Craith, wedi bod ychydig yn fwy arloesol, gan roi ryw ‘spin’ ar y fformat arferol o dditectif yn chwilio am lofruddiwr, sydd wedi fy ngadael yn y pendro wythnosol o orfod poeni sut dwi am gael drwy’r 167 awr nesaf cyn darganfod beth fydd yn digwydd yn y bennod nesaf.

Math arall o raglen sydd wedi fy ymddiddori dros yr wythnosau diwethaf yw’r rhaglen ddogfen. Gyda’r rhaglen ddogfen Cynefin, sy’n astudio bröydd Cymru o dan grib man, ac Ein Byd sydd wedi dadansoddi rhai o’r problemau mwyaf sy’n effeithio ar bobl a gwledydd ledled y byd, mae S4C wedi llwyddo i gynnig sylwebaeth ar y lleol, a’r bydol – o Ferthyr i Fagaluf! Er ei fod yn bwysig iawn fod S4C yn creu rhaglenni sydd yn Gymreig eu naws, yn ogystal â Chymraeg eu hiaith, mae’n allweddol fod S4C yn ymafael a materion byd-eang, a rhoi cyfle i ni ddysgu am faterion y byd drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy lygaid y Cymry.

Mae’n debyg mai fy hoff fath o raglenni teledu yw rhaglenni comedi, a gyda thristwch ni allaf wadu’r ffaith nad yw S4C yn dod yn agos i gystadlu gyda chynnyrch Saesneg yn y maes hwn. Fel llawer o bobl ifanc, does ‘na’m llawer o bethau sy’n well gen i i wneud na eistedd lawr am gwpl o oriau a gwylio rhaglenni ‘sattire’ fel The Office, Friends, neu The Inbertweeners. Mae hwn yn sicr yn faes sydd angen i S4C edrych i mewn iddi. O un peth, does ‘na’m hyd yn oed adran gomedi ar wefan S4C, arwydd clir o ddiffyg eu hymdriniaeth a’r maes! Fodd bynnag, ymddengys fod comedi yn prysur ddod yn rhan o ‘radar’ S4C, gyda nifer o raglenni sydd wedi fy ngadael mewn dagrau dros y misoedd diwethaf (rhai yn ddagrau o lawenydd, ac ambell ddeigryn o dristwch ar ôl imi ddarganfod fod S4C wedi peidio comisiynu trydedd gyfres o Ddeuawdau Rhys Meirion, ond nai beidio agor hen glwyfau yn yr erthygl hon…)

Dros y Nadolig, roedden yn ffodus i weld tair rhaglen ‘stand-up’ Gymraeg ar y teledu, gyda sioe anhygoel Elis James yn serennu, yn ogystal â sioe ddigrif Tudur Owen a Sian Harries O’r Diwedd. Yn ogystal, ‘sŵn i ddim yn gallu sgwennu erthygl am gynnyrch diweddar S4C heb sôn am Priodas Pum Mil. Heb os un o fy hoff raglenni erioed – mewn unrhyw iaith. Dwi’n dallt fod y sioe ychydig yn ‘cheesy’, a ddim yn rhywbeth y byddech chi’n disgwyl i fyfyriwr ugain oed ei hoffi – ond dwi wrth fy modd gyda’r sioe!

Wrth gwrs, mae’r cynnydd yn y rhaglenni diweddar yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir i S4C, ond mae yna lawer iawn o botensial sydd ddim eisoes wedi ei gyflawni gan y sianel. Er y twf mewn rhaglenni comedi yn ddiweddar, mae’r comedi dal yn brin yn fy marn i, a byddai creu rhaglen ‘sattire’ neu ryw fath o sioe banel yn sicr yn werth trio. Er fod Celwydd Noeth yn rhaglen gwis unigryw a diddorol, byddai’n syniad i S4C gymryd ychydig o ysbrydoliaeth o’r rhaglenni gwis poblogaidd ar y sianeli Saesneg, fel Pointless a The Chase, sy’n ymddangos yn ddyddiol ar y teledu, yn hytrach na’n achlysurol fel Celwydd Noeth.

Syniad arall a fyddai yn siŵr o fod yn boblogaidd ymysg gwylwyr a darpar wylwyr S4C, yw syniad a welais ar Twitter ychydig o fisoedd yn ôl, sef y syniad o gael sioe newyddion boreol ar y sianel, fersiwn Cymraeg o’r math o sioeau sy’n cael eu darlledu ledled y byd mewn amryw o ieithoedd. Efallai ei fod braidd yn annhebygol y byddai S4C yn gallu perswadio Phillip Schofield a Holly Willoughby i ddysgu’r Gymraeg a gwneud y naid o This Morning ar ITV i’n sianel genedlaethol ni, ond mae ‘na fwy na digon o gyflwynwyr Cymraeg y byddai wrth eu boddau gyda’r cyfle i gyflwyno’r math yna o raglen!

Dros y blynyddoedd diwethaf, felly, rwyf wedi newid o laslanc ifanc oedd yn gwylio S4C o bryd i’w gilydd er sech gwylio rhywbeth yn Gymraeg, i rywun sydd wrth fy modd gyda’r sianel, ac sydd methu aros i weld beth sydd ar y gweill i’n sianel genedlaethol. Er fod S4C, yn fy marn i, bellach yn cynnig amrywiaeth o raglenni o safon uchel, sydd yn apelio at bob siaradwr Cymraeg, gallwn ni ddim anwybyddu’r broblem nad yw un sianel yn ddigon i fodloni pawb. Gyda’r celfyddydau yn faes hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg, mae rhaid inni sylweddoli nad yw un sianel yn ddigon i allu cynhyrchu a darlledu digon o sioeau sydd at ddant pob Cymro a Chymraes o bob oed, cefndir, rhyw a chefndir ieithyddol. Pwy a ŵyr beth fydd yn nyfodol S4C, ond am rŵan, os oes rhywun o S4C yn darllen yr erthygl hon, mae gennyf un neges fach i chi – daliwch ati!

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php