Taf-Od

Pryd o Daf-od: Gwenan Gravell

gan Gwenan Gravell

I lawer o fyfyrwyr, mae’r penderfyniad o ddod i brifysgol neu beidio yn benderfyniad eithaf naturiol ac yn broses hwylus. Dyma’r cam cyntaf i fywyd annibynnol fel oedolyn (heb law am fynd adref â’r golch weithiau!) Ond nid mor rhwydd ydy’r penderfyniad yma i bawb.

Dw i’n credu y gall bawb gytuno bod y cam rhwng gwaith ysgol a gwaith prifysgol yn eithaf swmpus! Pan gyrhaeddais y ddinas ym Medi 2016, roeddwn i’n ddigon ffodus i fyw mewn fflat gyda dwy ferch arall oedd yn debyg i fi mewn sawl ffordd, yn enwedig bod y dair ohonom gyda dyslecsia ac yn agored iawn am y peth. Roedd hyn yn gysur mawr ar y pryd, wrth imi boeni am sefyll allan os oedd rhywun yn gofyn imi weithio allan y bil neu ofyn cwestiwn mathamategol! Roedd nosweithiau bondio yn y fflat yn seiliedig ar “ba liw papur wyt ti’n defnyddio” a “faint o amser ychwangeol wyt ti’n cael?”!

Dim ond pan droies i’n 18 ges i’r prawf dyslecsia ‘proffesiynol’ ac ar ôl eistedd fy arholiadau Lefel A (handy iawn)! Serch hyn, fe ges i’r amser ychwanegol yn yr asesiadau a dwi’n eithaf siwr heb yr amser yna bydden i heb gael fy nerbyn i brifysgol. Dwi mor ddiolchgar am yr holl offer a chymorth sydd ar gael, yn enwedig yn y brifysgol. Mae cymaint o fyfyrwyr gyda’r cyflwr hefyd sydd yn gysur wrth i mi deimlo fel rhan o gymuned fach ymysg myfyrwyr.

Nid yw pob dyslecsig yn cael llythrennau yn neidio dros y dudalen! Mae’r cyflwr yn effeithio pawb mewn ffyrdd gwahanol. I fi, darllen a deall gwybodaeth a rhifau yw fy ngwendid, ond mae nifer fawr o ddyslecsics yn serennu yn y byd mathamateg (jyst anffodus nid fi yw un ohonyn nhw!) Y stereoteip cyffredin gyda dyslecsia yw bod yr unigolyn yn dwp… ond… c’mon… mae Richard Branson yn ddyslecsig a ma fe ‘di neud yn olreit gyda’i fywyd. Mae ‘na olau ar ddiwedd y twnel!

Os ydych chi’n teimlo’n swil am eich dyslecsia neu ddim ishe i bobl feddwl yn wahanol amdanoch chi, peidiwch â meddwl eich bod ar ben eich hun gyda’r cyflwr. Mae nifer fawr o fyfyrwyr gyda dyslecsia, rhai byddech chi erioed wedi ystyried bod y cyflwr yn effeithio arnynt. Esboniwch i’ch ffrindiau sut mae dyslecsia yn effeithio chi a sut gallan nhw helpu i wneud pethau’n rhwyddach ichi. Mae ffrindiau yna i’ch helpu chi. A beth bynnag, mae dyslecsics yn fwy creadigol ‘na phobl ‘normal’ sydd yn golygu ein bod yn bobl fwy diddorol!

Pryd o Daf-od: Gwenan Gravell sy’n son am ei phrofiad o’r cyflwr Dyspracsia. (Tarddiad: Gwenan Gravell)

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php