Pryd o Daf-od Taf-Od

Pryd o Daf-od: Jacob Morris

Jacob Morris sy’n rhannu ei farn ar ddatganoli darlledu i Gymru a datgan pam ei fod yn meddwl bod angen gwneud.

Dychmygwch ddihuno ryw fore heb orfod becso nad yw eich iaith, diwylliant a’ch gwlad yn cael ei hystyried yn israddol gan gynifer o bobl. Heb orfod cyfiawnhau ein bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o’n ffordd o fyw, ac mae gwlad yw Cymru. Rydym yn hen gyfarwydd â’r dôn gron o orfod brwydro, esbonio ac o bryd i’w gilydd cnoi tafod er mwyn peidio ag adlonni cul-feddyldod rhai pobl. Yn syml felly, y mae bod yn Gymro neu’n Gymraes yn faich yn hynny o beth – er nid hawdd y mae diosg y cyfrifoldeb hwn o’n hunaniaeth.

I mi, mae Cymru yn wlad ryfedd. Ac rydym ni’r Cymry yn greaduriaid rhyfedd hefyd. Yn wych, ond yn rhyfedd. Hynny yw, rydym yn wlad sydd â chymaint i’w chynnig, yn genedl falch sy’n daer dros ein diwylliant a’n chwaraeon gyda thîm rygbi a phêl –droed uchel eu parch, corau meibion a chantorion byd-enwog i enwi ond ychydig. Gwedwch, ba wlad debyg sy’n anrhydeddu ei mawrion drwy eu hurddo ar Orsedd y Beirdd. Pa wlad fach arall sydd wedi penderfynu codi pac a hwylio ben draw’r blaned i Dde America, er mwyn sicrhau dyfodol ein traddodiad a’n hunaniaeth yn wyneb bygythiad yr Ymerodraeth Brydeinig? Does dim gwadu fod seiliau ein diwylliant wedi hen wreiddio yn y tir, ond cyhyd y mae ein gwleidyddiaeth yn y cwestiwn, rwy’n amau nid dyna’r achos. Er a oes newid ar droed?

Tan yn ddiweddar iawn y mae yna chwa o awyr iach wedi cydio yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ers cwta bythefnos erbyn hyn, ‘dw i’n methu’n deg a gwadu fod yna bennod newydd ar droed yng Nghymru a hynny ers i Adam Price gamu i’r adwy fel arweinydd newydd Plaid Cymru. Yn ei gyfnod byr iawn fel arweinydd y mae eisoes wedi gwneud cryn argraff ar y llwyfan gwleidyddol gyda’r sgwrs am annibyniaeth i Gymru yn ennyn fwyfwy o ddilysrwydd ac ystyriaeth. Hynny yw, y mae’n ymddangos fod y cwestiwn o annibyniaeth yn tyfu’n fwy normal ymysg y drafodaeth wleidyddol. Ai dyma yw’r Mab Darogan i arwain Cymru yn ei phennod newydd? Efallai’n wir, ond does dim gwadu fod ganddo dipyn o dasg i gyflawni hynny.

Am wn i, yr her bennaf i Adam Price yw datganoli darlledu dim ond trwy hynny y mae modd iddo ddarbwyllo pobl Cymru fod annibyniaeth yn bosibl. Yr wythnos ddiwethaf cefais y cyfle i holi Jo Stevens AS ar sesiwn Syrjeri Stryd ‘Y Byd yn ei Le’ ynglŷn â datganoli grymoedd darlledu i Gymru. Ei dadl hi oedd bod gan Gymru ITV Wales a BBC Cymru a bod hynny’n ddigon. Er, pa obaith sydd inni bobl Cymru ddeall yr hyn sy’n digwydd yn ein gwlad ni ein hunain os nad oes brand Cymreig a chyhoeddiad ein hunain gennym. Nid yw’n syndod fod cyfran go sylweddol o’r gymdeithas yn methu â deall fod materion megis iechyd ac addysg yn faterion datganoledig pan fod dau draean o’n newyddion yn dod o ffynonellau wedi’u canoli yn Llundain. Drwy ddatganoli darlledu y mae modd amlygu a chyfleu materion Cymreig a gohebu ar yr hyn sydd o bwys i bobl Cymru.

Rwy’n grediniol fod cyfnod gwleidyddol yn hanes Cymru o ffrwtian yn ei hunfan yn prysur ddod at glo, ac mae ysbryd newydd ar gerdded drwy’r wlad. Er mwyn gwreiddio’r seiliau gwleidyddol yn y tir, rhaid yw datganoli darlledu er mwyn tanio hyder yn y genedl i fagu digon o asgwrn cefn i fentro am annibynniaeth.

css.php