Pryd o Daf-od

Pryd o Daf-od: Megan Hunter

Darllen: Bydd nifer yn edrych ymlaen at ddarllen nofel newydd Megan. Tarddiad: Leticia Roncero (drwy flickr)
Darllen: Bydd nifer yn edrych ymlaen at ddarllen nofel newydd Megan. Tarddiad: Leticia Roncero (drwy flickr)
Myfyriwr yn ei ail flwyddyn, Megan Hunter sydd yn siarad am ei nofel newydd 'tu ôl i'r awyr' a pam ei bod wedi ysgrifennu hi.

Gan Megan Hunter | Cyfrannwr Taf-od

Mae’r nofel yn dilyn dau berson ifanc yn y Chweched Dosbarth sy’n ceisio ymdopi ag anhwylderau iechyd meddwl, a’r cyfeillgarwch sy’n ffurfio rhyngthyn nhw dros gyfnod o flwyddyn. Dwi ddim yn meddwl fod ‘na unrhyw beth penodol wedi ysbrydoli’r nofel, ond dwi’n gwybod mai’r cymeriadau a ddaeth yn gyntaf, ac wrth iddyn nhw ddatblygu, daeth eu stori’n amlwg. Ond mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o’r broses o ‘sgwennu i fi hefyd; mae naws caneuon penodol rhywsut yn esgor ar gymeriadau a golygfeydd penodol.

‘Pam ti’n ‘sgwennu?’ Dwi’n meddwl am y cwestiwn yma’n aml achos mae’n anodd iawn cael ateb iddo; o ran y nofel hon, roedd yn rhaid i mi ‘sgwennu achos roedd y cymeriadau’n teimlo mor fyw, ac felly roedd ‘sgwennu’r nofel yn allfa angenrheidiol. Ro’n i hefyd eisiau bod yn hollol onest; gonestrwydd oedd y peth pwysicaf i mi wrth sgwennu tu ôl i’r awyr. Ond dwi hefyd yn meddwl fod ‘swegnnu – unrhyw fath o greu a chelfyddyd, mewn gwirionedd – yn bwysig achos mae’n bosib cyfleu pob emosiwn a theimlad trwy gelf, hyd yn oed rhai emosiynau nad yda ni’n eu deall eto.

Mae themâu’r nofel yn ddwys iawn ond dwi’n trio peidio dal yn ôl rhag trafod pob emosiwn, hyd yn oed y rhai sy’n ennyn cywilydd a’n meddyliau mwyaf bregus ac amrwd. Dwi’n meddwl fod gonestrwydd ynghylch ein hemosiynau a’n teimladau ni’n ofnadwy o bwysig; wrth roi llwyfan i’r emosiynau bregus a brawychus yma sy’n codi cywilydd arnom ni, dwi’n gobeithio eu bod nhw’n cael eu normaleiddio a’u trafod yn ehangach. Er mwyn pwysleisio hyn, ychwanegais restr o rifau ffôn a gwefannau sy’n ymwneud â iechyd meddwl yng nghefn y nofel; mae ystod eang iawn o sefydliadau ac elusenau wedi’u henwi, gan gynnwys meddwl.org, Diverse Cymru, National Self Harm Network a MindOut.

Dwi hefyd wedi trio cyfleu gonestrwydd drwy iaith y nofel. Mae llais un o’r cymeriadau’n llafar iawn ac yn ymgais i adlewyrchu tafodiaith Ogleddol pobl ifanc, gan gynnwys byrfoddau tecst, bratiaith a geiriau Saesneg. Does dim prif lythrennau nac atalnodi chwaith. Roedd y penderfyniad o ddewis yr arddull hwn yn un hawdd gan yr oeddwn i eisiau cyfleu iaith ardal fy magwraeth heb lastwreiddio dim ohono. Ond mae lleisiau’r cymeriadau – a’r cymeriadau ei hunain – yn gwbl ffuglenol; un o’r pethau sy’n fy nghyffroi am ‘sgwennu ydi creu cymeriadau sy’n wahanol i fi achos dwi’n meddwl fod o’n bosib dysgu mwy am bobl drwyddyn nhw.

Y prif beth yr hoffwn i unrhyw un sy’n darllen y nofel ei deall ydi fod pob teimlad ac emosiwn yn ddilys. Dydi siarad am deimladau – beth bynnag eich cefndir, rhyw, hil, rhywioldeb, crefydd neu allu – ddim yn arwydd o wendid, ond i’r gwrthwyneb: mae’n dangos cryfder eithriadol.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php