Taf-Od

Pwysigrwydd Defnyddio Rhagenwau

Pawb yn gyfartal, Tarrddiad: Pixabay.
Mae'r drafodaeth agored ynglyn â rhywedd yn cael ei normaleiddio, a'r defnydd o unigolion sy'n arddangos eu rhagenwau ar broffil ddigidol yn cynyddu. Beth yw pwysigrwydd hyn?

Mae’r drafodaeth agored ynglyn â rhywedd yn cael ei normaleiddio, a’r defnydd o unigolion sy’n arddangos eu rhagenwau ar broffil ddigidol yn cynyddu. Beth yw pwysigrwydd hyn?

Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od

Beth yw rhagenwau personol a pham ydynt o bwys?

Yn yr iaith Gymraeg, os ydym yn sylwi neu beidio, mae pobl yn gyson yn cyfeirio at ei gilydd drwy ddefnyddio rhagenwau. Yn aml, mae hyn yn digwydd yn y trydydd person, ac mae’r rhagenwau yn dueddol o gyfeirio at ryw’r person, megis ‘fe/fo’ i gyfeirio at fachgen/ddyn, neu ‘hi’ wrth gyfeirio at ferch/menyw. Ond nid yw’r cysylltiadau yma bob tro’n gywir neu’n ddefnyddiol.

Yn aml, mae pobl yn creu rhagdybiaethau o rywioldeb unigolion eraill yn seiliedig ar eu golwg. Nid yw’r rhagdybiaethau yma, bob amser, yn gywir. Mae’r weithred o osod rhagdybiaeth (hyd yn oes os yn gywir) yn gallu bod yn niweidiol, yn enwedig wrth ddyfalu rhywedd unigolyn.

Mae defnyddio rhagenwau personol unigolyn yn dangos parch at berson, gan greu amgylchedd cynhwysol, lle ddangosir ystyriaeth at bawb. Yn yr un modd gall fod yn sarhaus neu hyd yn oed aflonyddu ar berson i greu llysenw anffafriol ar rywun a hwnnw yn erbyn eu hewyllys. Yn waeth, gall ddewis anwybyddu’r rhagenwau y mae rhywun wedi nodi fod yn niweidiol i’r gymuned drawsrywiol ac anneuaidd.

Gweithredoedd bach, effaith fawr

Dyma restr o dermau defnyddiol a ellir gwneud gwahaniaeth :

Rhyw– swyddogaeth atgenhedlu a’r organau cenhedlu.

Rhywedd– cael ei ddiffinio drwy ddiwylliant a chymdeithas.

Rhagenw– cyfeirio at rywedd pobl wrth siarad ac ysgrifennu.

Fe/Fo– gwrywaidd.

Hi– benywaidd.

Nhw– niwtral/anneuaidd.

Anneuaidd (non-binary) – pobl nad ydynt yn gweld eu hunain yn ffitio i ddewis o ‘ddyn’ neu ‘fenyw’.

Traws– term ymbarél sy’n cynrychioli pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â’r categori rhyw y rhoddwyd iddynt pan gawsant eu geni (anneuaidd/genderqueer/trawsryweddol).

 

Un sydd yn rhoi ei ragenwau yn ei broffil ddigidol yw Dafydd Orritt (fe/fo), myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd;

 

“Dwi wedi rhoi fy rhagenwau yn fy bio Instagram er mwyn normaleiddio’r drafodaeth ynglyn â rhywedd, yn enwedig i’r gymuned draws rywiol a non-binary. Mae’n rhywbeth mor syml i’w wneud ond yn rhywbeth sydd yn hwb mawr i’r gymuned drawsrywiol. Drwy rhoi eich rhagenwau yn eich bio maeo’n creu cymuned diogel i’r gymuned drawsrywiol a non-binary i siarad am eu rhagenwau heb deimlo ofn cael eu barnu. Yn fy marn bersonol dylai pawb boed yn rhan o’r gymuned LHDT neu ddim fod yn cynnwys ei rhagenwau yn eu bio Instagram er mwyn arddangos y gefnogaeth i’r gymuned drawsrywiol, sydd wedi ac yn parhau i dderbyn nifer fawr o heriau yn eu herbyn.”

 

I bobl cisgender (person lle mae ei ryw yn cyd-fynd â’r rhyw a neilltuwyd iddynt adeg ei g/eni), mae rhannu eich rhagenwau ar eich proffil digidol yn hawdd, ac yn ddidrafferth. Wrth ofyn i fwyfwy o bobl arwain y ffordd gan rannu eu rhagenwau, normaleiddia’r broses, gan greu amgylchedd diogel i bawb.

Mae’r drafodaeth yngylch rhagenwau yn fwy amlwg heddiw nag erioed. Wrth ddechrau’r sgwrs, ac wrth weld cynnydd yn y defnydd o ragenwau, daw yn amlwg taw Cymru gynhwysol bydd y dyfodol.

 

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php