Taf-Od

Rob Page wrth y llyw wrth i Giggs methu gemau Cymru

Dychwelyd: Bydd Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Liberty am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Tarddiad: tim parfitt (drwy flickr)
Dychwelyd: Bydd Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Liberty am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Tarddiad: tim parfitt (drwy flickr)
Ni fydd Ryan Giggs wrth y llyw ar gyfer gemau Cymru wythnos yma, ond bydd Rob Page yn cymryd rheolaeth carfan Cymru.

Gan Aled Biston | Pennaeth Taf-od

Wrth i Gymru paratoi ar gyfer gemau allweddol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir, bydd hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Ryan Giggs, ddim wrth y llyw, ond yn hytrach Robert Page, yr hyfforddwr cynorthwyol, bydd yn cymryd rheolaeth. Mae hyn yn dilyn nifer o adroddiadau papur newydd yn dweud bod Giggs wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad.

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) na fydd Giggs wrth y llyw ar gyfer y gemau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, ynghyd â gêm gyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau mis yma. Dywedodd CBDC “Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Ryan Giggs wedi cytuno na fydd rheolwr y tîm cenedlaethol yn chwarae rhan yn y gemau mis Tachwedd.” “Ein blaenoriaeth nawr yw paratoi’r tîm ar gyfer y gemau rhyngwladol”.

Yn ôl papur newydd The Sun, cafodd yr heddlu eu galw i gartref y rheolwr yn Salford. Dywed Heddlu Greater Manchester bod dyn 46 wedi cael ei arestio a’i holi ar amheuaeth o niwed corfforol ac ymosodiad yn ymwneud â menyw yn ei 30au. Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Yn sicr, mae presenoldeb Giggs yn ganolog i’r garfan, nid yw Cymru wedi colli yn ei 10 gêm gystadleuol ddiwethaf. Bydd cael Page wrth y llyw yn lle Giggs mynd i fod yn wahanol, ond dylai’r garfan fod yn iawn wrth addasu i’r newid. Mae’r gemau yma yn allweddol i Gymru, bydd chwe phwynt yn rhoi Cymru mewn sefyllfa gryf iawn yn y grŵp, a bydd curo’r Ffindir yn rhoi bwlch hyd yn oed yn fwy rhwng y ddau dîm.

Mae yna alwad i Josh Sheehan am y tro cyntaf, wedi ei berfformiadau campus i Gasnewydd, mae Tom King yn cael ei gynnwys yn y garfan hefyd.

Dyma’r garfan a ddewiswyd ar gyfer y gemau:

Golwyr- Danny Ward, Owain Fôn Williams, Tom King.

Amddiffynwyr- Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Tom Lockyer, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies.

Canol cae: Jonny Williams, Harry Wilson, David Brooks, Daniel James, Matt Smith, Joe Morell, Dylan Levitt, Brennan Johnson, Josh Sheehan.

Ymosodwyr- Gareth Bale, Tom Lawrence, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Rabbi Matondo.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php