Taf-Od

Ryan Giggs yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Ryan Giggs
Y Rheolwr: Dyma'r ail tro i Giggs dewis carfan ar gyfer Gynghrair y Cenhedloedd UEFA. Tarddiad: Extratime Photos (drwy Flickr)
Mae carfan Giggs yn cynnwys Neco Williams a Ben Cabango am y tro cyntaf, ond nid yw Christian Doidge wedi ennill ei le.

Gan Aled Biston | Pennaeth Cynnwys Cymraeg

Mae Ryan Giggs wedi cyhoeddi ei garfan i wynebu Bwlgaria a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA. Prif newyddion y garfan yw bod Hal Robson-Kanu wedi ei gynnwys am y tro cyntaf ers iddo ymddeol o’r tîm rhyngwladol yn 2018. Mae galwadau i Neco Williams a Ben Cabango am y tro cyntaf ar ôl eu perfformiadau campus gyda Lerpwl ac Abertawe, tra bod ymosodwr Hibernian Christian Doidge heb gael ei gynnwys er gwaethaf ei berfformiadau trawiadol dros y misoedd diwethaf.

Ymysg y cyffro o ategu chwaraewyr newydd i’r garfan, mae David Brooks ac Aaron Ramsey yn cael eu cynnwys. Er iddo chwarae a sgorio yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd, nid oedd Ramsey wedi gwisgo’r crys coch ers dros blwyddyn, ac nid yw Brooks wedi chwarae ers i Gymru golli yn erbyn Hwngari yn Bwdapest mis Mehefin 2019.

Gwelir llu o chwaraewyr ifanc, addawol yng ngharfan Giggs; Neco Williams, Ben Cabango a Dylan Levitt i enwi ond rhai. Bydd y chwaraewyr yma yn gwthio i dorri mewn i dîm sy’n barod yn gymharol ifanc, gyda Connor Roberts, Ethan Ampadu a Joe Rodon i gyd yn iau ‘na 24 oed. Mae Matt Smith, Joe Morrell, Dan James a Rabbi Matondo hefyd i gyd yn ifanc, felly nid oes pryder am ddyfodol carfan Cymru mae hynny’n sicr.

Gyda chwaraewyr ifanc daw diffyg profiad, ond mae digon o chwaraewyr profiadol yn y garfan hon. Mae Ashley Williams, Gareth Bale, Wayne Hennessey a Chris Gunter i gyd wedi cael eu cynnwys. Er nad oes gan Williams a Gunter glybiau ar hyn o bryd, byddent yn dal i obeithio cael dechrau yn erbyn Bwlgaria a’r Ffindir. Bydd prif sgoriwr Cymru, Gareth Bale, yn obeithiol o ddechrau’r ddwy gêm er gwaethaf ei ddiffyg gemau i Real Madrid tymor yma.

Un chwaraewr yn sicr bydd yn teimlo fel ei fod wedi methu allan yw Christian Doidge. Sgoriodd 14 gôl mewn 32 gêm i Hibernian, ac wedi ennill Chwaraewr y mis fis Tachwedd 2019. Nid yw ef wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Giggs, ac mae’n anlwcus i beidio ennill lle ar ôl ei berfformiadau dros y 12 mis diwethaf.

Bydd cyffro a bwrlwm ymysg Y Wal Goch dros yr wythnos i ddod cyn i Gymru camu allan i’r cae am y tro cyntaf ers blwyddyn. Gobeithio bydd Giggs a’i ddynion gallu ailgychwyn fel yr oeddent wedi gorffen yn erbyn Hwngari.

Dyma’r garfan yn llawn:

Gôl-geidwad- Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies. Amddiffynwyr- Chris Gunter, Connor Roberts, Neco Williams, Ashley Williams, Tom Lockyer, James Lawrence, Ben Cabango, Ben Davies. Canol cae- Ethan Ampadu, Matthew Smith, Joe Morrell, Aaron Ramsey, Will Vaulks, Dylan Levitt, Jonathan Williams, Harry Wilson, David Brooks, Daniel James, Rabbi Matondo. Ymosodwyr- Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts, Kieffer Moore. Hyfforddwr: Ryan Giggs.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php