Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od
Eleni, nid oedd modd cynnal seremoni byw i ddathlu a gwerthfawrogi’r diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru yn dilyn cyfyngiadau Coronafeirws. Yn sgil hyn, benderfynodd BAFTA Cymru i redeg gwasanaeth rithiol dros YouTube, Trydar a Facebook lle gyhoeddodd y cyflwynydd, Alex Jones, ynghyd ag eraill, rhai yn cynnwys, Catherine Zeta-Jones a Katherine Jenkins, yr enwebiadau a gwobrau.
Ar wefan BAFTA Cymru, gellir dod o hyd i lyfryn y gwobrau, lle mae modd darllen am enwebiadau, areithiau a gwobrau. Dywed Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru yn y llyfryn;
“Nid yw’r cyfnod diweddar wedi bod yn hawdd i’r byd teledu a ffilm, ond mae BAFTA Cymru wedi parhau i fod yn gefnogaeth arbennig i’r rheiny sy’n gweithio yn ein diwydiant. Crëwyd nifer o gysylltiadau rhwng newydd-ddyfodiaid a rhai enwau mawr y diwydiant, yn ogystal â chynnig dosbarthiadau meistr a sgyrsiau amrywiol ar-lein – digwyddiadau sydd yn tanlinellu ein rôl bwysig fel elusen”.
Ceisiwyd i wneud y seremoni mor real â phosib. Wedi’i leoli mewn stiwdio, lle’r oedd pawb yn cadw pellter cymdeithasol gan geisio cadw’r naws. Darlledwyd y gwobrau yn fyw ar YouTube.
Dywedodd Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C wrth y BBC,
“Ry’n ni wrth ein bodd o ennill pum gwobr BAFTA Cymru heno. Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector”.
Ymhlith llawer o raglenni eraill, enillodd ‘Deian a Loli’ y rhaglen blant orau, ‘Ysgol Ni: Maesincla’ cyfres ffeithiol orau ac Emma Watford a Trystan Ellis yn y raglen ‘Priodas Pum Mil’ y cyflwynwyr gorau.
Les Dilley, sy’n wreiddiol o’r Rhondda, enillodd cyfraniad eithriadol i fyd teledu am ei waith fel cyfarwyddwr celf a dylunydd cynhyrchu. Bu eisoes yn gweithio ar brosiectau yn Raiders of the Lost Ark, yn ogystal â Star Wars. Mae BAFTA Cymru yn rhoi’r cyfle i ddod i nabod a gwerthfawrogi sêr mwyaf y diwydiant hwn, ac wedi gwneud hynny’n effeithiol drwy ei seremoni. Llongyfarchiadau mawr i bob un.
ENILLWYR GWOBRAU BAFTA CYMRU 2020
Cyfraniad eithriadol i deledu – Les Dilley
Actores gorau: Ruth Wilson fel Mrs Coulter yn ‘His Dark Materials’
Actor gorau: Jonathan Pryce fel Cardinal Jorge Mario Bergoglio/Pope Francis yn ‘The Two Popes’
Drama deledu: ‘The Left Behind’
Torri trwodd: Lisa Walters ar gyfer ‘On the Edge: Adulting’
Rhaglen blant: ‘Deian a Loli’
Dylunio gwisgoedd: Sian Jenkins ar gyfer ‘Eternal Beauty’
Cyfarwyddwyr: ffeithiol: Sion Aaron a Timothy Lynn ar gyfer ‘Eirlys, Tim a Dementia’
Cyfarwyddwyr: ffuglen: Lucy Forbes ar gyfer ‘In My Skin’
Golygu: Rebecca Trotman ar gyfer ‘Doctor Who’
Rhaglen adloniant: ‘Cyrn ar y Missippi’
Cyfres ffeithiol: ‘Ysgol ni: Maesincla’
Colur a Gwallt: Melanie Lenihan ar gyfer ‘War of the Worlds’
Newyddion a Materion Cyfoes: ‘Flooding Strikes The South Wales Valleys’
Cerddoriaeth wreiddiol: Jonathan Hill ar gyfer ‘The Long Song’
Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen: Suzie Lavelle ar gyfer ‘His Dark Materials’
Cyflwynwyr: Emma Watford a Trystan Ellis-Morris yn ‘Prosiect Pum Mil’
Dylunio cynhyrchu: Joel Collins ar gyfer ‘His Dark Materials’
Ffilm fer: ‘Salam’
Rhaglen ddogfen unigol: ‘The Prince and The Bomber’
Sain: Y Tim Cynhyrchu ar gyfer ‘Good Omens’
Awdur: Kayleigh Llewellyn ar gyfer ‘In My Skin’
Add Comment