Taf-Od

Siglad i’r Sefydliad?

Siglad i'r sefydliad: Senedd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel. (Tarddiad: Andrijko Z, drwy WikiCommons).

gan Lowri Pitcher

O 73 sedd y Deyrnas Unedig, mae pedwar yn cynrychioli Cymru. Mae Plaid Brexit wedi ennill dwy sedd, Plaid Cymru wedi ennill un a Llafur wedi ennill y llall, newid o Lafur, UKIP, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a enillodd un sedd yr un yn 2014.

Yr Aelodau Seneddol Ewropeaidd (ASE) a fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ydy Nathan Gill a James Wells o’r Blaid Brexit, Jill Evans o Balid Cymru a Jackie Jones o Blaid Lafur.

Dyma ganlyniadau llawn Cymru:

  • Plaid Brexit – 271,404
  • Plaid Cymru – 163,928
  • Llafur – 127,833
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 113,885
  • Ceidwadwyr – 54,587
  • Plaid Werdd – 52,660
  • UKIP – 27,566
  • Change UK – 24,332

Canlyniadau nodweddiadol iawn

Mae canlyniadau’r etholiadau hyn yn nodweddiadol iawn o ran hanes etholiadol Cymru. Mae diffyg polisi cadarn Brexit y ddwy brif blaid (Ceidwadwyr a Llafur) wedi gwneud niwed mawr iddynt. Roedd y Blaid Brexit a chafodd ei sefydlu ond chwe wythnos yn ôl wedi trechu pob plaid arall mewn 19 o 22 ardal pleidleisio; a dyma’r tro gyntaf i Blaid Cymru drechu Llafur mewn unrhyw etholiad Cymru-gyfan, gyda Llafur yn cwympo i’r trydydd safle.

Derbyniodd pleidiau sy’n addo gwrthdroi Erthygl 50 neu gynnal ail-refferendwm 354,805 pleidlais (Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion a Change UK). I’r gwrthwyneb, derbyniodd pleidiau sy’n datgan eu bod nhw yn bwriadu gadael yr UE 353,557 bleidlais (Plaid Brexit, y Ceidwadwyr a UKIP). Derbyniodd Llafur 127, 833 pleidlais ond mae’r blaid yn eithaf aneglur o ran ei pholisi Brexit. Mae’r canlyniadau yma’n groes i ganlyniadau refferendwm yr UE ym Mehefin 2016 pan bleidleisiodd Cymru i adael yr UE o 47.47% i 52.53%.

Yn ymateb i’r canlyniadau siomedig dywedodd y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, taw diffyg undod y pleidiau a oedd yn annog aros yn yr UE oedd i feio dros lwyddiant y Blaid Brexit a methiant y pleidiau eraill. Roedd Emily Thornberry wedi datgan taw diffyg eglurdeb Llafur dros ei pholisi Brexit a oedd ar fai ac argymhellodd y dylai Llafur nawr annog ail refferendwm ac ymgyrchu dros aros yn yr UE.

Ar y llaw arall, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod y canlyniadau’n “hanesyddol” ac y dylai Plaid Cymru baratoi ar gyfer ffurfio’r llywodraeth nesaf yn y Cynulliad ar ôl etholiadau 2021. Yn ogystal dywedodd Nigel Farage, arweinydd Plaid Brexit, bod llwyddiant y blaid yr wythnos hon yn golygu y dylent chwarae rôl yn y broses negodi Brexit.

Adlewyrchiad o Etholiad Cyffredinol?

Fel arfer mewn etholiadau Ewropeaidd mae tuedd i bleidleiswyr gefnogi pleidiau mwy eithafol na’r hyn buasent yn dewis mewn etholiadau cyffredinol. Dyma’r rheswm bod pleidiau fel y Blaid Werdd, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo ar lefel Ewropeaidd ond nid ar lefel genedlaethol. Serch hynny, nid oes modd gwadu gostyngiad yng nghefnogaeth y Ceidwadwyr a Llafur.

Pleidleisiodd 37.1% o’r boblogaeth yn yr etholiadau wythnos ddiwethaf, ar gyfartaledd tua 35% yw’r canran sy’n pleidleisio mewn etholiadau Ewropeaidd. Er, mae hyn dros 30% yn is na maint y bleidlais mewn etholiad cyffredinol 2017 (68.8%). O’r rheiny a bleidleisiodd mae tyb bod llawer ohonynt yn angerddol unai dros aros yn yr UE neu adael mor fuan â sy’n bosib. Mae rhai yn dweud fod nifer o bleidleiswyr Llafur a’r Ceidwadwyr unai wedi ochri gyda pha bynnag blaid sy’n annog y fath o Brexit maent yn dyheu amdano neu maent wedi eu dadrithio gyda’u pleidiau’n gyfan gwbwl ac felly heb bleidleisio. Awgryma hyn fod y ‘silent majority’ wedi aros yn fud ac felly ni ellir honni yn bendant y bydd y canlyniadau’n debyg mewn etholiad seneddol neu gyffredinol.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php