“Dim Ffordd o Ennill”: Graddedigion Eleni yn Cael hi’n Anodd Gafael ar Swydd

Gan Hanna Morgans Bowen

Eleni yw’r flwyddyn waethaf ar gyfer recriwtio graddedigion. Yn 2025, gostyngodd recriwtio 8% i gymharu â llynedd, gan ei wneud y flwyddyn wannaf ers y gostyngiad o 12% yn ystod y pandemig yn 2020. Graddiodd Elin Owen eleni o Brifysgol Caerdydd. Dywedodd ei bod hi wedi bod yn chwilio am swyddi ers mis Ionawr, hyd yn oed rhai tu allan i’w maes dymunol. Ar hyn o bryd mae hi’n aros i glywed i nôl wrth 27 o swyddi.
“Dwi ‘di trio am swyddi fel gweithio mewn siopau, ond maen nhw’n dweud bo fi’n gorgymwys, ond wedyn gyda swyddi yn y maes dwi ishe’i wneud, maen nhw’n dweud bod dim digon o brofiadau gen i. Felly does dim ffordd o ennill rwy’n teimlo.” Yn ôl yr Arolwg Recriwtio Myfyrwyr 2025 gan Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE), o’r 155 o gyflogwyr mawr a gafodd eu mesur, derbyniwyd dros 1.8 miliwn o geisiadau ar gyfer y 31,000 o swyddi graddedigion. Yn ogystal, mae cyflogwyr yn derbyn mwy o geisiadau i bob rôl, sy’n ei gwneud hi’n gystadleuaeth fwy llym
i ymgeiswyr.

Er bod nifer y graddedigion a gyflogwyd wedi gostwng, cyflogwyd mwy o bobl sydd
wedi gadael ysgol a choleg drwy brentisiaethau gan weld cynnydd o 8%. Mae hyn yn dangos fod cyflogwyr yn symud ffocws o raddedigion i brentisiaethau. Ar y cyfan, gostyngodd y farchnad swyddi
lefel mynediad 5%. Pwysig yw nodi fod y patrymau yma yn amrywio o sector i sector. Mae’r arolwg hefyd
yn dangos er bod 42% o gyflogwyr wedi lleihau cyflogi graddedigion, bod 25% o gyflogwyr
wedi cynnal lefel cyflogi cyson, a bod 33% wedi cynyddu.

Defnydd deallusrwydd artiffisial “ddim yn deg”: Erbyn hyn mae rhai cyflogwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn dewis eu hymgeiswyr llwyddiannus. Mae hyn drwy uwcholeuo allweddeiriau mewn CV’s a llythyron cais, a dadansoddi cyfweliadau fideo. Profiad Elin oedd:“Ma na un o’rswyddi siopau nesi drio am, ag oeddy cyfweliad ynhollol AI. Nes i fyndarno fo ac roedd fideo oddynes yn siarad gyda presetquestions. Roedd o’ngadael rhyw ddeg eiliad i chi feddwl amsut i ateb y cwestiwn a recordio.

“Dwi’n meddwl dyna le mae’r broblem yndod i mewn. Dwi’n bersonol heb lawer o brofiad‘retail’, ond os fyswn i’n cael cyfle i siaradefo nhw wyneb yn wyneb ella byswn i’n galludweud sut mae pethau dwi di neud o’r blaen yngymwys i’r swydd yna, ond dwi ddim yn cael ycyfleos dwi dim ond yn cael deg eiliad i feddwlamdano’r peth cyn ateb y cwestiwn. Dydy oddim yn deg dwi’n i feddwl.” Amcangyfrif disgyniad arall: Er bod ISE yn canolbwyntio ar gyflogwyr mawr sydd â rhaglenni ffurfiol o hyfforddi graddedigion, mae data ehangach y farchnad lafur yn dangos gostyngiad o 13% yn yr holl hysbysebion swyddi rhwng Gorffennaf 2024, a Gorffennaf 2025. Fe all hyn effeithio ar swyddi y tu hwnt i’r rolau hyfforddi ffurfiol i raddedigion. Mae’r adroddiad ISE yn amcangyfrifo bydd recriwtio grad-dedigion yn parhau i fod yn sialens yn 2025-26, gyda disgyniad disgwyliedig o 7%.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *