Taf-Od

Trefi Cymru yn gwynebu’r risg economaidd fwyaf o ganlyniad i’r coronafeirws

Trefi Cymru yn gwynebu risg economaidd
Effaith economaidd: siopau stryd fawr Caernarfon yn dioddef ar ôl y cyfnod clo. Tarddiad: David Purchase (trwy Geograph)
Ymchwil yn dangos bod 10 allan o'r 20 o drefi sydd yn gwynebu'r risg economaidd fwyaf yn y Deyrnas Unedig yn rhai Cymreig.

Gan Catrin Lewis | Golygydd Cymraeg

Mae ymchwil diweddar, a gynhaliwyd gan y Centre for Towns, yn awgrymu mai Cymru yw’r ardal yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ei heffeithio fwyaf yn economaidd yn dilyn y coronafeirws. Ers yr achosion cynharaf o’r feirws rhai misoedd yn ôl mae newid sylweddol wedi bod ym mywydau dyddiol ledled Cymru a thu hwnt. Mae hyn wedi arwain at bryderon ynglŷn ag effeithiau economaidd hir dymor y feirws ar rhai o drefi Cymru.

Awgryma’r ymchwil, a wnaed mewn partneriaeth a Phrifysgol Southampton, bod y feirws wedi rhoi Cymru o dan risg economaidd sylweddol. Ymysg yr 20 tref sydd wedi eu heffeithio fwyaf yn economaidd mae 10 tref Gymreig tra bod Bae Cinmel yng Ngogledd Cymru yn un o’r 5 tref sydd o dan y risg fwyaf. Yn ôl yr un ymchwiliad, mae 43% o drefi Cymru ymysg y 10% sy’n gwynebu’r risg fwyaf yn y Deyrnas Unedig tra mai trefi difreintiedig ac ardaloedd arfordirol sy’n gwynebu’r straen fwyaf.

Daw’r effaith economaidd ar drefi Cymru i’r amlwg wrth ystyried yr holl fusnesau sydd wedi gorfod cau eu drysau yn ddiweddar oherwydd diffyg arian. Er bod sawl un o’r cyfyngiadau cyfnod clo gwreiddiol wedi cael eu llacio erbyn hyn, golyga’r cyfyngiadau gwreiddiol bod yn rhaid i’r mwyafrif o siopau gau am gyfnod o dri mis.  O ganlyniad, mae nifer o gwmnïau bellach wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod cau rhai o’u siopau neu gael gwared ar swyddi.

Mae Stryd Y Llyn yng Nghaernarfon yn enghraifft o stryd sy’n gwynebu effeithiau’r pandemig. Tra bod Stryd y Plas, hefyd yng Nghaernarfon, yn gartref i sawl busnes annibynnol llwyddiannus mae sefyllfa Stryd y Llyn yn gyferbyniad llwyr. Dim ond wedi gwaethygu mae hyn dros y misoedd diwethaf yn dilyn cyhoeddiadau bod dwy siop gadwyn ar y stryd sef Holland & Barrett a Shoe Zone yn cau dros yr wythnosau nesaf. Yn ogystal, mae’r siopau gadwyn Boots ac WHSmith wedi cyhoeddi y bydd miloedd o’u gweithwyr yn colli eu swyddi yn y DU.

Daw’r newyddion yma a dyfodol ansicr i’r sector manwerthu a’r rheiny sy’n gweithio ynddo.
Nid yw’r straen ar strydoedd fawr Cymru yn broblem newydd o bell ffordd ac mae trefi ledled Cymru wedi gweld sawl busnes yn cau eu drysau dros flynyddoedd diweddar, yn bennaf oherwydd y cynnydd ym mhoblogrwydd siopa ar-lein. Yn ystod y pandemig mae’r genedl wedi bod yn fwy dibynnol nag erioed ar hwylustod siopa ar-lein ac mae hynny wedi cynyddu’r straen ar y siopau yn ein trefi.

Mae Rhyl yn dref arall yng Ngogledd Cymru sydd wedi dioddef yn economaidd o ganlyniad i’r feirws. Mae’r dref, sy’n cael ei hystyried fel un difreintiedig, eisoes wedi manteisio’n fawr o fuddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, mae’r coronafeirws wedi dod a sialensiau newydd sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r dref oroesi. Yn ystod ei hymweliad yno amlygodd Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, bwysigrwydd cefnogi trefi Cymru yn ystod y cyfnod hwn drwy gynnig cymorth ariannol iddynt.

“Mae buddsoddi mewn canol trefi mor berthnasol ag erioed ond gan nad ydym yn gwybod beth fydd effeithiau hirdymor y coronafeirws ar ganol ein trefi eto, mae’n hanfodol bod gan unrhyw weithredoedd tymor byr effaith barhaol a’u bod yn gwella edrychiad a theimlad canol ein trefi”.

Roedd hyn mewn ymateb i Lywodraeth Cymru yn cynnig £9 miliwn er mwyn cefnogi ac adfywio trefi Cymreig. O’r swm yma mae £5.3 miliwn wedi ei ddyrannu i gynorthwyo busnesau megis bwytai a thafarndai i agor ardaloedd awyr agored er mwyn galluogi iddynt flaenoriaethu diogelwch cyhoeddus wrth fasnachu. Yn ogystal, mae £3.7 miliwn wedi ei gynnig i drefi yn y Cymoedd er mwyn galluogi i’r cymunedau yno weithio’n agosach i adref.

Er gwaethaf cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fis Orffennaf bod £9 miliwn o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi er mwyn cynorthwyo adfywiad trefi Cymreig, nid yw pawb yn credu bod ymdrech ddigonol wedi cael ei wneud. Hyd yn hyn mae’r ffocws wedi bod ar gefnogi marchnadoedd a bwytai i wneud y mwyaf o’r awyr agored gydag ychydig iawn o gymorth yn cael ei gynnig i siopau dan do. Yn ogystal, mae rhai’n teimlo bod sawl rhan o Gymru wedi eu hanwybyddu a prin wedi derbyn unrhyw gymorth. Felly, hyd nes y bydd mwy o gymorth ar gael i gefnogi ffyniant trefi Cymreig, dyfodol ansicr iawn sydd o’u blaenau.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php