Taf-Od

“Tymor Twp” y Senedd: Cyfle am Adnewyddiad?

Newidiadau yn y Cynulliad yn cynnig pennod newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Mae’n gyfnod o adnewyddu yng ngwleidyddiaeth Cymru wrth i arweinwyr dau allan o’r pum plaid yn y Senedd gamu oddi ar y cyfrwy ac wrth i un arall geisio dal ei gafael.

Y cyntaf oddi ar y marc oedd Carwyn Jones gyda’i ymddiswyddiad fel Prif Weinidog Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Daeth y cyhoeddiad ar 21 Ebrill yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno.

O ran ei olynydd, dywedodd Carwyn Jones, mewn cyfweliad â Llais y Maes yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, bod “rhaid cael cystadleuaeth”. Dywedodd fod yr “ymgeiswyr, wrth gwrs, yn gallu cael eu mesur” o ganlyniad i’r broses ethol. “Mae pobl yn gallu gweld fel maen nhw’n perfformio’n gyhoeddus, gweld pa syniadau sydd gyda nhw.” Yn ôl Mr Jones, mae’r broses yn “helpu i roi mwy o egni i mewn i unrhyw blaid”.

Ar y funud, mae tri cheffyl yn y ras i’w olynu, gyda’r ceffyl blaen Mark Drakeford yn meddu ar gefnogaeth 16 Aelod Cynulliad, tra bod Vaughan Gething yn meddu ar gefnogaeth pump ohonynt. Mae Eluned Morgan hefyd wedi datgan ei bwriad i sefyll ond mae hi ond yn meddu ar gefnogaeth pedwar o fewn grŵp Llafur y Cynulliad. Golyga hyn nad oes ganddi ddigon o gefnogaeth i ennill lle ar y papur pleidleisio ar hyn o bryd gan fod angen cefnogaeth pump AC Llafur i sefyll. A fydd hi’n syrthio ar y rhwystr cyntaf tybed?

Yna, ar 27 Mehefin, gwnaeth Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Roedd suon y bae yn awgrymu fod Mr Davies wedi colli llawer o gefnogaeth o fewn y blaid y ddwy ochr i Glawdd Offa ac ei fod wedi penderfynu camu o’r neilltu. Paul Davies wnaeth gamu i’r adwy gan ennill yr etholiad i ddewis arweinydd, gan faeddu Suzy Davies. Mae Paul Davies eisoes wedi dweud ei fod yn fodlon cydweithio gyda phleidiau eraill er mwyn dod i rym. A chewch glywed cyfweliad gyda Paul Davies ar rifyn cynta’r gyfres newydd o Gwylio Gwleidyddiaeth ar Xpress Radio ar 26 Medi rhwng 4 a 6.

Ar 4 Gorffennaf, derbyniodd Leanne Wood her i’w harweinyddiaeth o Blaid Cymru o ddau gyfeiriad, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price ill dau yn cynnig eu hunain i arwain y blaid. Gyda ras tri cheffyl yn ei hanterth, Adam Price oedd y cyntaf i’r llinell derfyn ac efe fydd yn cymryd at yr awennau wrth iddo anelu i ddod â Phlaid Cymru i rym. Wedi i Leanne Wood lwyddo cynyddu proffil y blaid o fewn y DU, sut y bydd Adam Price yn mynd ati i adeiladu ar hynny a throi’r cyhoeddusrwydd gwleidyddol yn ganlyniadau gwleidyddol?

Mae grŵp UKIP yn y Cynulliad hefyd yn cael ei arwain gan joci newydd. Buodd misoedd o ansefydlogrwydd yng ngrŵp y blaid yn y Cynulliad, gyda Caroline Jones yn disodli Neil Hamilton fel arweinydd. Yna, galwodd y blaid yn ganolog am etholiad i ateb y cwestiwn ynghylch arweinyddiaeth y grŵp. Yn groes i ddisgwyliadau, daeth Gareth Bennett i’r brig gan drechu ei ddau wrthwynebydd. Er bod Neil Hamilton yn parhau fel arweinydd UKIP yng Nghymru, a fydd y canlyniad hwn yn adfywiad i’r blaid yng Nghymru, neu ai dim ond pennod arall mewn stori o ansicrwydd gwleidyddol i’r blaid yw hi?

Mae’r ansefydlogrwydd ym Mae Caerdydd yn gwneud i wleidyddiaeth San Steffan edrych yn hynod sefydlog er i Theresa May barhau i geisio dal ei gafael ar bŵer wrth obeithio cyrraedd y llinell derfyn o ran Brexit, ble bynnag y mae honno.

Un peth sy’n sicr yw bod gan arweinwyr gwleidyddol newydd Cymru lawer i’w wneud yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth iddynt gyfrannu at ddod â Brexit yn realaeth. Ond mae syniadau gwahanol gan amrywiol bobl ynglŷn â sut mae gwneud hynny. Cytundeb Chequers, cytundeb arall, dim cytundeb, ail refferendwm efallai?

Mae “Tymor Twp” y Cynulliad heb os yn codi nifer o gwestiynau ynghylch gwleidyddiaeth ein gwlad. Wedi cyfnod o weryru gwleidyddol, pwy fydd y cyntaf i’r felin yn 2021? Efallai ei bod hi’n rhy gynnar i addasu’r ods ar hyn o bryd ond mae haf 2018 wedi dangos fod gwleidyddiaeth Cymru ar garlam.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Related

 

Latest

Israeli Stats

Why Did Gair Rhydd Visit Israel and Palestine?

• To hear from people on the ground about the reality of the Israeli-Palestinian conflict.

•To encourage greater understanding of the complexities of the conflict to help us facilitate discussion about the situation upon returning home outside of the traditional media narrative.

•To prompt us to begin considering how discussions can move forward in the hopes of one day finding a solution to the conflict.

•To show us first-hand how fragile Israeli-Palestinian relations are to broaden our understanding of the struggles faced by all who are intimately affected by the conflict.

Palestine Stats

The UJS

This trip was facilitated by the Union of Jewish Students (UJS). They have been around since 1919, addressing the concerns of 8,500 Jewish Students in Universities. They aim to lead campaigns fighting prejudice, creating inclusive environments, and educating people on divisive issues. To find out more about the work UJS do, head over to their website.

css.php