Taf-Od

Y Gymraeg yn llithro?

Tarddiad: Andrew Bowden trwy Flickr
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, os ydym yn ei siarad ai peidio. Dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni, yn ei pharchu ac yn barod i’w thrysori.

Gan Annell Dyfri | Golygydd Cymraeg

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, os ydym yn ei siarad ai peidio. Dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni, yn ei pharchu ac yn barod i’w thrysori.

Ymhlith yr hynaf o ieithoedd Ewrop gyfan, mae’r Gymraeg yn parhau’n iaith fyw mewn cymunedau led-led Cymru. Dyma sydd yn ein gwneud yn unigryw – y mae’n rhan annatod o’n hunaniaeth ni fel Cymry.

Ond iaith leiafrifol yw hi ac fel ymhob cyd-destun lle mae lleiafrif yn bodoli, mae’n rhwydd iawn i’r mwyafrif ei dilorni a’i bychanu. Yn anffodus, diolch i dechnoleg ddigidol yn aml, mae’r Gymraeg yn cael ei sathru ac yn destun sbort i lawer. Mae’n ymddangos fod y tueddfryd hwn ar gynnydd gyda llwyfannau megis Facebook a Twitter yn cynnwys mwy a mwy o gyfeiriadau dilornus at y Gymraeg a’i diwylliant.

Cwmnïau yn creu helynt

Yn y gorffennol unigolion oedd wrth wraidd y mwyafrif o’r ymosodiadau hyn. Bellach, mae’n ymddangos fod mwy a mwy o sefydliadau a busnesau’n barod i fychanu’r iaith yn gyhoeddus. Mae hwn yn ddatblygiad y dylem gadw llygad arno.

Mae’n siwr y cofiwch y neges honno a drydarwyd gan gwmni ‘Snickers’ yn gynt eleni pan ddisgrifiwyd enwau llefydd megis Rhosllanerchrugog a Llanfairpwll fel ‘a place in Wales or someone sat on a keyboard’. Dilynodd y cwmni Americanaidd, ‘Buzzfeed’, yr un trywydd wrth greu cwis ar ei wefan, unwaith eto yn gwneud hwyl am ben enwau Cymraeg. Gwelwyd enghraifft arall yr wythnos diwethaf pan gyhoeddwyd cartŵn ym mhapur newydd The Telegraph a nodai ‘We’re testing passengers returning from Portugal to see if they show any signs of being Welsh’ gan ddangos teithwyr yn cario cennyn a gwrthrychau eraill sy’n cael eu cysylltu’n draddodiadol â Chymru. Mae’n siwr y byddai rhai pobl yn dadlau mai cellwair yn unig yw hyn ac nad oes drwg mewn ychydig o sbort. Ond, wrth gwrs, gall ychydig o sbort ac ychydig eto droi’n don bwerus a all wneud niwed sylweddol i’r hyn sy’n cael ei dargedu yn y pen draw.

Braf oedd derbyn ymateb mor synhwyrol gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar. ‘Mae’n siomedig fod unigolion o fewn cwmnïau mawr yn gweld ymosod ar y Gymraeg fel ffordd hawdd o ennyn sylw,’ meddai llefarydd. ‘Os oes unrhyw gwmni mawr yn chwilio am gefnogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn eu busnes, mae croeso iddyn nhw gysylltu gyda ni trwy e-bost at [email protected].’

Taith Megan

Wrth gwrs, nid ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig y gwelwyd y fath ymosodiadau ar y Gymraeg yn ddiweddar. Gall llawer ohonom feddwl am sefyllfaoedd lle cawsom ein bychanu neu ein dilorni am i ni siarad Cymraeg mae’n siwr. Un o’r rhai a ddioddefodd yn ddiweddar yw Megan Evans o Fae Colwyn a adroddodd hanes ei phrofiad wrth deithio ar drên rhwng Caerdydd a Bryste ryw wythnos yn ôl. Tra yr oedd hi a rhai o’i ffrinidau wrthi’n siarad â’i gilydd yn Gymraeg yn ystod eu taith, dyma weithiwr yn gofyn iddynt newid i’r Saesneg gan eu bod yn swnio’n ‘amheus’. Nododd Megan ei fod ‘yn siom fawr cael fy ngofyn i stopio siarad Cymraeg ar y trên gan aelod o’r staff er fy mod yng Nghymru gan ei fod yn amheus’.

Beth nesa’?

Onid digon yw digon? Onid yw’n amser i ni droi’r drol a sicrhau bod y rheini sy’n mynnu ein bychanu yn profi’r un driniaeth yn y pen draw? Er mor anodd y bydd hynny weithiau, y mae angen i bawb ohonom sy’n profi sefyllfa o’r fath, lle cawn ein dilorni am siarad yn ein mamiaith, fynd â’r mater ymhellach gan sicrhau bod y sawl a dramgwyddodd yn profi cyhoeddusrwydd negyddol a bod ei enw, hyd yn oed os yw’n gwmni rhyngwladol o bwys, yn cael ei lusgo drwy’r mwd am gryn bellter.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php